skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Teams

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Anest Gray Frazer (Yr Esgobaeth)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 227 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2020  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2020 fel rhai cywir.

 

5.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Adroddiadau llafar gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion) ar:-

 

·         COVID – costau ychwanegol / colled incwm 2020/21;

·         Grant Anghenion Dysgu Ychwanegol 2020/21

Cofnod:

 

          Eitem 9 - Materion Ariannol COFID-19

 

Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion:-

 

·         Yr adroddwyd yn flaenorol ein bod wedi hawlio bron i £50,000 ar ran ysgolion oherwydd costau ychwanegol yn sgil COFID, a bod cais pellach wedi’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn hyn am ychydig dros £100,000.

·         Yn sgil cyflwyno adroddiad ar gyllideb refeniw’r Cyngor i’r Cabinet ar 26 Ionawr, byddwn yn gwybod a ganiateir trosglwyddo’r grant i ysgolion, gan obeithio gwneud hynny erbyn diwedd Ionawr.

 

          Mewn ymateb i gais am ddiweddariad ynglŷn â phrydau ysgol, eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion nad oedd yr ysgolion unigol yn hawlio’r grant, ond bod hynny’n digwydd ar lefel strategol gan yr Adran Addysg.  Roedd hynny eisoes wedi digwydd am dymor yr haf, ac roedd cais pellach wedi’i gyflwyno erbyn hyn am y golled incwm prydau ysgol.

 

          Eitem 11 – Cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

 

Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion, drwy ymgynghori â’r penaethiaid, bod £160,000 o’r grant ADY ar gyfer cefnogi disgyblion anghenus wedi ei rannu rhwng yr ysgolion uwchradd; 50% ohono yn seiliedig ar y niferoedd sy’n derbyn cinio ysgol am ddim, a 50% ar sail ‘Behavioural, Emotional and Social Difficulties (BESD)’, sef categori anghenion arbennig.

 

Pwysleisiwyd, os defnyddio’r data BESD ar gyfer cyllidebu o hyn ymlaen, bod angen bod yn hollol siŵr bod y sail honno’n gyson ar draws pob ysgol yng Ngwynedd.  Mewn ymateb, cytunodd y Pennaeth Cynorthwyol ADY a Chynhwysiad fod angen cysondeb, a chadarnhaodd fod y gwasanaeth a’r swyddogion sy’n cefnogi’r ysgolion yn rhoi sylw i hyn.

 

Croesawyd y grant unwaith ac am byth hwn, ond nodwyd bod y dull o’i ddyrannu yn codi cwestiwn o ran sut mae’r dyraniad sirol blynyddol o bron i £1,000,000 yn cael ei rannu rhwng ysgolion.  Awgrymwyd y dylid edrych ar hyn eto, gan ystyried faint o blant sydd angen cefnogaeth cynhwysiad cyson, fel bod yr arian yn cael ei rannu mewn dull priodol i ymateb i anghenion y plant hynny.

 

Holwyd a oedd rheidrwydd i wario’r grantiau addysg erbyn 31 Mawrth eleni, er bod yr ysgolion wedi cau.  Mewn ymateb, cadarnhaodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion bod rhaid gwario’r arian erbyn hynny.  Byddai pob ysgol yng Nghymru yn yr un sefyllfa, a debyg bod yna arweiniad cenedlaethol ar hyn.

 

Holwyd ymhellach a oedd Gwynedd yn trafod y mater gyda Llywodraeth Cymru.  Mewn ymateb, nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion na fu’n rhan o unrhyw drafodaethau hyd yma, ond y gallai godi’r mater yng nghyfarfod cyfrifwyr Cymru yr wythnos nesaf.

 

Nododd y Pennaeth Addysg ein bod mewn tirwedd nas gwelwyd ei thebyg o’r blaen, ac roeddem yn gaeth i reoliadau Llywodraeth Cymru.  Yn ôl dehongliad y Llywodraeth, nid oedd yr ysgolion wedi cau, ond yn hytrach yn agored ac yn dysgu o bell.  Roedd y sefyllfa’n rhwystredig i ysgolion ac awdurdodau addysg, ond fel y nodwyd, byddai hyn yn cael ei godi yn y cyfarfod cyfrifwyr, ac roedd hefyd wedi ei godi gan awdurdodau ledled Cymru.

 

PENDERFYNWYD cynnal trafodaeth gyda’r penaethiaid uwchradd ynglŷn â sail dyrannu dyraniad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

RHAGOLYGON YSGOLION pdf eicon PDF 269 KB

Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion)  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion yn manylu ar ragolygon cyllidol 3 mlynedd i ysgolion ddechrau mis Rhagfyr 2020 ar sail cyfrifiad nifer disgyblion Medi 2020.

 

Nodwyd bod yr ystadegau’n dangos niferoedd cynradd yn lleihau yn sgil disgyblion hŷn yn symud i fyny i’r sector uwchradd, a’r niferoedd sy’n cychwyn cynradd wedi / yn lleihau.  O ganlyniad, dros y 3 mlynedd, rhagwelid lleihad oddeutu £1m yn ein hysgolion cynradd – cyfwerth ag oddeutu 18 llai o athrawon, a chynnydd yn y sector uwchradd cyfwerth â chynnydd o 15 o athrawon.

 

Cyfeiriwyd at sefyllfa yn y gorffennol pan y bu i’r cynradd gynorthwyo’r uwchradd, a holwyd a fyddai’n bosib’ i’w uwchradd dalu’r gymwynas yn ôl petai trafferthion yn codi yn y cynradd.  Mewn ymateb, eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion y digwyddodd hynny ar yr adeg yr oedd yr ysgolion yn wynebu arbedion o £4.3m, ac yn hytrach na bod yr arbedion yn cael eu rhannu’n gyfartal, roedd mwy o bwysau ar y cynradd i ganfod arbedion er mwyn helpu’r uwchradd.  Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid nad oedd y sefyllfa cynddrwg rŵan, gan nad oedd y Cyngor yn gofyn i’r gwasanaethau na’r ysgolion am gynlluniau arbedion newydd ychwanegol erbyn 2021/22, a bod sefydliadau unigol wedi cynllunio am y senario gyda demograffi, lle bydd arian yn dilyn disgyblion.  Hefyd, nodwyd, o gymharu data 2019/20 y 22 awdurdod addysg Cymreig, bod cyllid fesul disgybl cynradd Gwynedd yr uchaf drwy Gymru ar sail gros ac yn 2il ar sail net.  Yn yr un amser, roedd cyllid fesul disgybl uwchradd Gwynedd yr 8fed uchaf ar sail gros ac yn 13eg ar sail net.  O ganlyniad, gellid casglu fod Gwynedd yn ymddangos i ariannu’r cynradd yn weddol anrhydeddus, o’i gymharu â’r uwchradd.  Yn wyneb hyn, ni chredid ein bod mewn sefyllfa i ofyn i’r sector uwchradd sybsideiddio’r sector gynradd ar hyn o bryd. 

 

Nodwyd hefyd nad oedd grantiau penodol ysgolion am 2021/22 wedi’u cadarnhau, ac nad oedd gwarant bod pob grant yn parhau, nac yn cynyddu / lleihau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

Mewn ymateb, awgrymodd y Pennaeth Cyllid fod posibilrwydd cryf y byddai mwyafrif y grantiau yn aros ar yr un lefel, fel ‘cash flat’, oherwydd o’r hyn dderbyniwyd gyda’r ‘setliad’, nid oedd newidiadau mawr i’w gweld eto.  Er hynny, nododd y bu i’r Llywodraeth gwtogi lefel y grantiau penodol ysgolion ym mis Ebrill / Mai 2020, felly byddai peth ansicrwydd yn parhau hyd nes derbynnir cadarnhad swyddogol gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth.

 

7.

CYLLIDEB Y CYNGOR 2021/22

Adroddiad llafar a chyflwyniad sleidiau gan Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad llafar a chyflwyniad sleidiau gan y Pennaeth Cyllid ar gyllideb 2021/22 y Cyngor, gan amlygu’r effaith tebygol ar gyllid ysgolion.

 

Nodwyd amserlen penderfynu ar gyllideb a threth 2021/22, darpariaeth llawn am gytundeb tâl athrawon Medi 2020 (3.1% am 5 mis yr haf), ynghyd â £250 yr un i staff ategol ar gyflogau is na £24k, ariannu incrementau cyflog athrawon, darpariaeth ar gyfer chwyddiant ar gyflenwadau, ynni, cludiant tacsis disgyblion (£207k), ayb, a demograffi (£187k) yn seiliedig ar gynnydd net mewn nifer disgyblion.

 

Nodwyd tebygolrwydd o ariannu bidiau un tro cludiant tacsis (£145k) a Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif (£42.5k), ynghyd â bidiau parhaol cludiant tacsis (£145k arall) a phrydau ysgol am ddim (£124k).

 

Fodd bynnag, eglurwyd bod y setliad grant £7m oddi wrth Lywodraeth Cymru yn cyfarch chwyddiant £6.9m, ond yn annigonol ar gyfer cwrdd â’r cynnydd mewn galw am wasanaethau.

 

Felly, nodwyd y bydd tynged y bid ‘cryfhau darpariaeth ADY blynyddoedd cynnar; (£226k) yn dibynnu ar barodrwydd cynghorwyr Gwynedd i gynyddu lefel y Dreth Cyngor, tra bo nifer o drethdalwyr yn dioddef yn ariannol oherwydd yr argyfwng COVID.

 

Pwysleisiodd y Pennaeth Cyllid fod y ffigurau yn dal i symud, a gofynnwyd i’r aelodau beidio rhyddhau’r wybodaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth.

 

 

8.

STRATEGAETH DIGIDOL YSGOLION

Adroddiad llafar gan Gwern ap Rhisiart (Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirionnydd).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad llafar gan Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirionnydd yn nodi bod y drafodaeth lefel uchel yn parhau o ran y dewisiadau.  Cadarnhaodd na fyddai yna ymrwymiad cyllidol newydd ychwanegol ar yr ysgolion y flwyddyn nesaf, ac y byddai aelodau’r fforwm yn cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau dros y misoedd nesaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth.

 

9.

CYTUNDEBAU LEFEL GWASANAETH 2021-24 pdf eicon PDF 118 KB

Adroddiad gan Owen Owens  (Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg)  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Adnoddau Addysg yn nodi bod y cytundebau canlynol yn dod i ben ar 31/3/21:-

 

·         Arlwyo, Glanhau a Gofalu a Chynnal Tiroedd (cynradd / uwchradd / arbennig a dilynol)

·         Canolfan Fusnes Addysg (cynradd)

 

Eglurwyd bod y cytundebau Arlwyo, Glanhau a Gofalu a Chanolfan Fusnes Addysg yn cael eu cynnig eto am y cyfnod 1/4/21 – 31/3/24, ond bod y cytundeb Cynnal Tiroedd yn cael ei gynnig am flwyddyn yn unig (1/4/21 – 31/3/22) gan fod y gwaith yn parhau o fodelu dyraniadau ar gyfer Cynnal Tiroedd i ysgolion, fel eu bod yn adlewyrchu gofynion cynnal tiroedd y safleoedd unigol yn well.

 

Nodwyd ymhellach:-

 

·         Bod proses ymgynghori yn cael ei gynnal gydag ysgolion parthed y Cytundebau Lefel Gwasanaeth fyddai’n cael eu cynnig iddynt yn Ebrill 2021.

·         Bod yr ysgolion wedi derbyn copïau o’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth drafft a gyflwynwyd gan y gwasanaethau, gan amlygu’r newidiadau ynddynt o’u cymharu â’r cytundebau presennol, ac y gwahoddwyd yr ysgolion i gyflwyno unrhyw sylwadau erbyn 12 Chwefror, 2021.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth.

 

10.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm am 3.30yp, ar ddydd Llun, 1 Mawrth, 2021.

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y Fforwm am 3.30yp, ar ddydd Llun, 1 Mawrth, 2021.