Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Teams

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2021/22.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Arwyn Williams, Pennaeth Ysgol Tryfan, yn gadeirydd y Fforwm am 2021/22.

 

          Diolchwyd i Godfrey Northam am waith dros y blynyddoedd diwethaf fel Cadeirydd y Fforwm.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Elfed Morgan Morris, Pennaeth Ysgol Llandygai yn is-gadeirydd y Fforwm am 2021/22.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), Richard Derwyn Jones (Ysgol Garndolbenmaen), Dewi Bowen (Cadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Uwchradd) a Gwern ap Rhisiart (Swyddog Addysg Ardal Dwyfor/Meirion).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 225 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Ebrill, 2021.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 26 Ebrill, 2021 fel rhai cywir.

 

7.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Trafod unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion.

Cofnod:

Mynegwyd fod arian a dderbyniwyd o ganlyniad i’r pandemig wedi ei dalu dros y flwyddyn diwethaf.

 

Nodwyd o ran Rhagolygon Ysgolion fod yr ysgolion wedi darganfod £160,000 o arbedion i gyfrannu ar fidiau addysg aflwyddiannus. Eglurwyd fod trafodaeth ar y mater wedi ei gynnal yn Fforwm Strategol ac fod y bidiau yn cyfarch swyddi angenrheidiol. Nodwyd fod y swm bellach yn llawer yn is yn dil n dod o hyd i arian ychwanegol.

 

8.

BALANSAU YSGOLION BLWYDDYN GYLLIDOL 2020/21 pdf eicon PDF 218 KB

Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y flwyddyn wedi bod yn eithriadol yn sgil covid 19. Eglurwyd fod cynnydd sylweddol o £10.7miliwn wedi bod. Nodwyd fod yr adroddiad yn rhoi dadansoddiad fesul ysgol. Mynegwyd fod yr cynnydd mewn arian o ganlyniad i gau ysgolion am gyfnod o 6 mis yn ystod y cyfnod clo a derbyn grantiau gan Lywodraeth Cymru. Pwysleisiwyd o ganlyniad i hyn fod balasau pob ysgol wedi codi. Amlygwyd y drefn gweithredu ar gyfer y Cynllun Cyfarwyddo Defnydd Balansau gan nodi ei fod yn parhau fel y llynedd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad gan holi pan fod y Llywodraeth yn holi am gynllun cyfarwyddo defnydd balansau i ysgolion sydd a dros 5% o falans ar ôl neu y trothwy o £100,000 mewn ysgolion uwchradd. Pwysleisiwyd y ddadl fod balansau uwch yn dangos gwell rheolaeth o arian a balansau is. Nodwyd fod cario balansau sylweddol yn bryder gan ei bod yn anodd cyfiawnhau cael arian ychwanegol os yn cario balansau mawr. Eglurwyd fod eleni wedi gweld cynnydd enfawr mewn balansau ac fod angen sicrhau fod yr ysgolion yn gwneud y defnydd gorau o’i harian.

 

Mynegwyd fod yr adran yn amddiffynnol iawn o ysgolion eleni gan fod yr ysgolion a’r awdurdod wedi derbyn arian yn hwyr ac yn aml iawn wedi ymrwymo’r arian cyn cael eu ddyrannu. Pwysleisiwyd fod y flwyddyn hon wedi bod yn eithriadol.

 

Amlygwyd fod y drefn gweithredu ar gyfer y Cynllun Cyfarwyddo Defnydd Balansau yn nodi 5% ond nad yw’r canllawiau yn rhai statudol a pwysleisiwyd nad yw’r Awdurdod erioed wedi defnyddio’r grym i gymryd yr arian oddi wrth yr ysgol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad ac i’r Adran Addysg a’r Adran Gyllid barhau i gydweithio yn agos gydag ysgolion i wneud defnydd doeth o’r balansau sylweddol sydd ar gael yn 2021/22.  Ynghyd a parhau i fonitro cyllidebau ysgolion.

 

9.

GRANTIAU YSGOLION 2021/22 pdf eicon PDF 277 KB

Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion yn crynhoi’r grantiau ysgolion 2021/22 sydd wedi eu datgan hyd yma.

 

Nodwyd ei bod yn arferiad adrodd ar lefel y grantiau hyn, sydd yn rhoi blas ar ba mor ddibynnol yw ysgolion ar y grantiau. Mynegwyd gwerthfawrogiad dros dderbyn yr arian yma, er bod dim sicrwydd o’i dderbyn o flwyddyn i flwyddyn. 

Adroddodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fod amcangyfrif y Grant Gwella Addysg £34k yn fwy na’r hyn â dderbyniwyd. Nodwyd fod £900k yn cael ei ddyrannu i helpu ysgolion i gau'r bwlch rhifedd/llythrennedd ac i wneud y gwaith dal i fyny oherwydd Cofid-19.

Yn ogystal bydd 1 miliwn ar gael i’w wario ar gyflogaeth ychwanegol dros dymor yr Haf o dan y Grant Rhaglen Cyflymu Dysgu. Derbyniwyd cadarnhad bore’r cyfarfod y bydd Grant Cyflymu pellach ar gael o fis Medi ymlaen gwerth 1.1 miliwn; gobeithir y gall ysgolion barhau i gyflogi'r bobl sydd eisoes mewn lle yn sgil derbyn y diweddariad yma. Nodwyd fod yr amodau ddim yn glir eto a bydd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion yn pasio’r wybodaeth ymlaen ar ôl derbyn cadarnhad o’r amodau.

I gloi’r adroddiad nodwyd fod y Gweinidog Addysg wedi cadarnhau y bydd 150 miliwn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi tymor yma i gefnogi dysgwyr a bydd canran o’r arian hyn ar gael i ysgolion Gwynedd. Cwestiynwyd pa elfennau o’r arian yma oedd yn newydd. Cadarnhawyd fod 33 miliwn yn newydd allan o’r 150 miliwn, roedd y gweddill wedi ei gyhoeddi yn barod nol ym mis Mawrth o dan Kirsty Williams y cyn-weinidog Addysg.

Mynegwyd barn gan rai Penaethiaid fod miliwn i’w wario mewn tymor yn sialens a bod y terfyn amser sydd ynghlwm a rhai grantiau yn gallu bod yn anodd.

Cwestiynwyd pam fod lleihad yn y Grant Gwella Addysg. Adroddodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fod hyn o ganlyniad i’r setliad gan Lywodraeth Cymru a bod llai o arian wedi ein cyrraedd.

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth.

 

10.

DYRANIAD CYNNAL TIROEDD YSGOLION pdf eicon PDF 182 KB

Adroddiad gan Owen Owens (Uwch Reolwr - Ysgolion)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn gofyn am gymeradwyaeth i gychwyn ymgynghoriad gydag ysgolion ar y bwriad i newid dull dyrannu cyllid cynnal tiroedd ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23. Eglurwyd yn ôl yn 2018 fod y Fforwm wedi trafod eitem ar y Dull Dyrannu Cyllid Cynnal Tiroedd fod yn edrych ar sail anghenion y safle yn hytrach na’ sail hanesyddol. Nid oedd y Fforwm yn yr amser honno yn anghytuno mewn egwyddor i’r newid ond amlygwyd yr angen i ragrybuddio ysgolion os yn cael llai o arian.

 

Amlygwyd y ddau fodel dyrannu posib gan amlygu fod yr atodiad dangos yr effaith fesul ysgol o ddefnyddio’r ddau fodel mewn cymhariaeth â dyraniad cyllid cynnal tiroedd. Mynegwyd y bydd angen mynd i ymgynghoriaeth gyda’r ysgolion ac yna dod yn ôl i’r Fforwm gyda dadansoddiad cyn gwneud y penderfyniad.

 

Mynegwyd pryderon os yw’r arian fydd yn cael ei gynnig yn ddigonol i dalu am y lefel gwasanaeth. Eglurwyd y bydd yr arian sydd ar gael yn cael ei fesur gyda natur y safle.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Adran Addysg i fynd i ymgynghoriad gydag ysgolion ar y bwriad i newid dull dyrannu cyllid cynnal tiroedd ysgolion ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23.

 

11.

STRATEGAETH DDIGIDOL YSGOLION

Adroddiad llafar gan Gwern ap Rhisiart (Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion)

 

Cofnod:

Eglurwyd y bydd trafodaeth gyda’r opsiynau a costau adnewyddu yn cael ei drafod yn y Grŵp Strategol.  Pwysleisiwyd y bydd amserlen yn cael ei gynnig i sicrhau fod pob ysgol yn cael digon o amser cyn ymrwymo.

12.

DIWEDDARIAD GWEITHGOR CYLLID ADY pdf eicon PDF 448 KB

Adroddiad gan Ffion Edwards Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth - adroddiad yn rhoi diweddariad ar y Gweithgor Cyllid ADY gan y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad.

Nodwyd fod y gweithgor wedi ystyried 7 o fodelau ar gyfer ariannu ac mai model rhif 7 oedd yn cael ei ffafrio. Serch hyn nodwyd fod gwaith pellach angen ei wneud ar y model yma i edrych ar rai elfennau megis hyblygrwydd. Adroddwyd y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud ar fodel 7 hyd at fis Medi a gobeithir gallu cynnig model terfynol ar gyfer y Fforwm Cyllideb Ysgolion nesaf yn yr Hydref. Y bwriad yw dechrau gweithredu ym mis Medi 2022 neu Ebrill 2023.

Cadarnhawyd y bydd angen cysondeb defnydd PLASC ar draws y Sir. Mynegodd rai o’r Penaethiaid eu diolch gan nodi eu bod yn croesawu cysondeb PLASC ar draws pob Ysgol; roedd cydnabyddiaeth fod hyn ddim yn hawdd a byddai yn braf cael mwy o wybodaeth ar gynnydd yn y dyfodol.

Nododd y Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad fod bwriad i ddiweddaru Fforymau Penaethiaid a bydd ymgynghori pellach efo grwpiau Strategol. Cytunwyd i geisio trafod efo Fforymau Penaethiaid cyn y cyfarfod Fforwm Cyllideb nesaf.

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth ac i dderbyn diweddariad pellach yn y cyfarfod nesaf.

 

13.

CYFUNDREFN ADDYSG DROCHI TUAG AT 2032 A THU HWNT pdf eicon PDF 371 KB

Adroddiad gan Debbie Jones (Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol Addysg).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod sefyllfa Addysg Drochi bellach yn gwbl wahanol i’r sefyllfa a welwyd 3 blynedd yn ôl. Eglurwyd fod addysg drochi wedi bod yn greiddiol i bolisi iaith addysg Gwynedd ac fod yr adran wedi bod yn llunio gweledigaeth newydd i addysg drochi a fydd yn adeiladu ar gryfderau a llwyddiannau’r Canolfannau Iaith.

 

          Eglurwyd fod sefyllfa Gwynedd yn unigryw gan fod y canolfannau iaith wedi bod yn eu lle ers er 1980au. Pwysleisiwyd fod Estyn wedi comisiynu adroddiad i edrych ar lwyddiannau a cefnogaeth dros gyfnod y panedmig ac fod gwaith ac addasrwydd y canolfannau iaith i’w glodfori. Eglurwyd fod y canolfannau wedi ail bwrpasu a drwy wneud hyn wedi cyrraedd mwy o blant ac wedi ehangu ar y gwasanaeth.

 

O ganlyniad i hyn mae’r cynlluniau yn adeiladu ar y gwaith yma i sicrhau fod y canolfan yn mynd yn fwy o ran o ysgolion ac nid yn unedau ar ben eu hunain. Eglurwyd fod y cynlluniau newydd yn edrych ar agor dwy ganolfan ychwanegol yn Tywyn ac ym Mangor. Mynegwyd mai dim ond arian cyfalaf yn unig fydd ar gyfer y canolfannau yma ac y bydd angen edrych ar yr ariannu refeniw. Pwysleisiwyd nad oes manylder eto gan ei bod yn ddibynnol ar gefnogaeth y Cabinet.

 

Mynegwyd fod yr adran yn bwriadu ariannu’r elfen refeniw drwy 3 ffynhonnell gwahanol – grant GGA, Ysgolion ac yr Adran Addysg. Eglurwyd nad yw’r arian GGA ar ben ei hun yn ddigonol i gyllido’r ddarpariaeth yn llawn. Ychwanegwyd fod yr adran yn bwriadu gofyn i’r ysgolion am gyfraniad bych a fydd yn fodd o sicrhau cyd-berchnogaeth. Eglurwyd mai angen penderfyniad fod y Fforwm yn cytuno mewn egwyddor oedd yr adran.

 

Croesawyd yr adroddiad ond amlygwyd fod gofyn i ysgolion roi cyfraniad i gynlluniau eraill megis y Strategaeth Ddigidol ac ADY yn ogystal.

 

Nodwyd fod y cynllun yn un cyffroes ac fod egwyddorion y cynllun i’w groesawu. Amlygwyd pryderon a holwyd os oedd modd i ysgolion dynnu allan o’r cyfraniad ariannol gan y buasai yn gallu achosi risgiau mawr i’r cynllun. Nodwyd nad oedd modd ac fod y cyfraniad hwn yn amlygu y gwaith partneriaeth rhwng yr ysgol a’r canolfannau. Amlygwyd yr angen i drafod gyda cyrff llywodraethol yn ogystal er mwyn cael y cyfle euraidd i bwysleisio yr angen i gyd berchnogi.

 

PENDERFYNWYD i gefnogi mewn egwyddor.

 

14.

RHAGLEN WAITH A DYDDIADAU CYFARFODYDD BLWYDDYN ACADEMAIDD 2021/22

Ystyried rhaglen waith a dyddiadau cyfarfodydd y fforwm (i ddilyn).

Cofnod:

Nododd y Cadeirydd fod rhai cyfarfodydd wedi cael eu gohirio yn y gorffennol oherwydd nad oedd eitemau i’w trafod. Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym mis Medi.

 

Awgrymwyd edrych ar y beth fydd angen ei wneud am y flwyddyn academaidd nesaf a rhoi rhaglen at ei gilydd ar sail hynny. Cytunwyd i’r Cadeirydd gysylltu efo’r Cyfrifydd Grŵp Ysgolion er mwyn cynnal trafodaethau pellach.

 

Nodwyd hefyd i roi cais am awgrymiadau gan grwpiau Penaethiaid; cytunwyd i’r Cadeirydd godi’r mater hyn. 

 

Nododd Llywodraethwr Ysgol Dyffryn Ogwen fod rhai eitemau parhaus i’w weld o fod wedi edrych ar raglenni blaenorol:

·       Mis Tachwedd –   Grantiau Ysgolion am y flwyddyn i ddod

                                                   Setliad drafft

                                                   Rhagolygon Cyllideb Ysgolion

                          

·       Mis Chwefror-Ebrill – Cyllideb y Cyngor

                                                   Cytundebau Lefel Gwasanaeth

 

·       Mis Mehefin –       Balansau Terfynol Ysgolion

 

Nododd ar wahân i’r 6 eitem sefydlog yma nid oedd patrwm arall i’w weld.

Nododd y Cadeirydd y bydd sylw yn cael ei roi i’r uchod wrth gynllunio rhaglenni. Gwnaethpwyd sylw gan y Pennaeth Cyllid fod yr uchod yn gywir ond o ganlyniad i’r Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr y bydd hi’n agosach i’r Nadolig ar y setliad drafft yn cael ei gyhoeddi flwyddyn yma.

 

PENDERFYNWYD i’r Cadeirydd a’r Cyfrifydd Grŵp Ysgolion gynnal sgwrs am ddyddiadau pellach a rhoi rhaglen at ei gilydd.  

 

Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 y.h. a daeth i ben am 4.50 y.h.