skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Teams

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol Mr Godfrey Northam yn Gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2020/21.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Cemlyn Williams yn Is-gadeirydd y Fforwm am y flwyddyn 2020/21.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Y Cynghorydd Cemlyn Williams (Aelod Cabinet – Addysg), Dilwyn Williams (Prif Weithredwr), Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), Gwilym Jones (LlywodraethwrYsgol Borthygest), Anes Gray Frazer (Yr Esgobaeth) a Garem Jackson (Pennaeth Addysg).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 249 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2020  (ynghlwm).

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm a gynhaliwyd ar 2 Mawrth, 2020 fel rhai cywir, yn amodol ar y cywiriad isod:-

 

Nododd y Cadeirydd, er iddo ofyn ar gychwyn y cyfarfod diwethaf fod llythyr yn cael ei anfon at y bobl oedd yn absennol o’r cyfarfod, nid oedd yn credu iddo ddatgan bod angen gofyn beth oedd y rheswm dros yr absenoldebau hynny.

 

 

6.

MATERION YN CODI O’R COFNODION

Trafod unrhyw faterion yn codi o’r cofnodion.

Cofnod:

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd ynglŷn ag aelodaeth y fforwm, nodwyd:-

 

·         Nad oedd unrhyw un wedi datgan nad oeddent yn dymuno parhau i fod ar y fforwm.

·         Y trafodwyd y bylchau yn yr aelodaeth gyda’r Uned Llywodraethwyr a bod bwriad i ofyn i’r Gymdeithas Llywodraethwyr benodi i’r seddi gweigion erbyn cyfarfod nesaf y fforwm.

 

7.

CYFRIFON TERFYNOL YSGOLION BLWYDDYN GYLLIDOL 2019-20 pdf eicon PDF 218 KB

Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion)  (ynghlwm)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaethadroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion yn manylu ar gyfrifon terfynol ysgolion am y flwyddyn gyllidol 2019/20.

 

Nododd y Cadeirydd fod sefyllfa Ysgol Uwchradd Tywyn wedi newid yn syfrdanol o ddiffyg o -£49,045 ar 31 Mawrth 2018 i falansau o £115,668 ar 31 Mawrth eleni, a’i bod yn amlwg bod gweithredu wedi bod ar ran y llywodraethwyr, y pennaeth a’r swyddogion.

 

Nodwyd nad oedd y sefyllfa yn gyson ar draws y sector a bod y cynnydd o tua £450,000 ym malansau’r ysgolion uwchradd i’w briodoli bron yn gyfan gwbl i ddwy ysgol.

 

Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fod cyfrifwyr ysgolion Cymru wedi cyflawni ymarferiad ar falansau ysgolion, oedd yn gwahaniaethu rhwng y balansau a’r diffygion, a’i bod yn syndod gweld bod cymaint o ysgolion yn cario diffygion mor sylweddol yn eu cyfrifon o flwyddyn i flwyddyn.  Roedd beirniadaeth yn flynyddol ar ysgolion am gario balansau, ond roedd cymryd y diffygion roeddent yn gario i ystyriaeth yn dod â’u sefyllfa net i lawr.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Ysgolion fod yna stori y tu ôl i bron bob achos o falansau uchel, ac nad achosion unigol o’r fath oedd yn ei bryderu, eithr balansau cyson uchel.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Y dylai’r Adran Addysg a’r Adran Gyllid gydweithio’n agos gyda’r ysgolion gyda diffyg ariannol er mwyn sicrhau eu bod yn clirio’r diffyg cyn gynted â phosib’. 

(b)     Y dylai’r Adran Addysg a’r Adran Gyllid barhau i fonitro cyllidebau ysgolion.

 

8.

GRANTIAU YSGOLION 2020-21 pdf eicon PDF 294 KB

Adroddiad gan Kathy Bell (Cyfrifydd Grŵp Ysgolion)  (ynghlwm)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad gan y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion yn manylu ar sefyllfa grantiau ysgolion 2020/21.

 

Holodd y Cadeirydd a oedd dyfodiad y Grant Rhaglen Cyflymu Dysgu newydd wedi arwain at docio rhai grantiau eraill.  Mewn ymateb, eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion mai’r Grant Datblygu Proffesiynol oedd yr unig un oedd wedi ei leihau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth.

9.

MATERION ARIANNOL COVID-19

Adroddiad llafar ar:-

·         Wariant ychwanegol

·         Lleihad incwm

·         Arall

Cofnod:

Cyflwynwyddiweddariad ar lafar ar y materion canlynol yn sgil Covid-19:-

 

·         Gwariant ychwanegol

·         Lleihad incwm

·         Arall

 

Nododd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion:-

 

·         Bod Llywodraeth Cymru wedi rhannu’r arian y gall awdurdodau ei hawlio, sef costau ychwanegol a cholled incwm yn sgil methu gweithredu yn ôl yr arfer.

·         Bod y math o wariant ychwanegol a hawliwyd ar lefel ysgolion tua £50,000, a bod yr Adran Addysg wedi bod yn cyflwyno ceisiadau hefyd.

·         Mai’r prif gostau oedd costau paratoi prydau am ddim, gyda rhywfaint o gostau cludiant hefyd.

·         Bod yr ysgolion wedi wynebu costau glanhau ychwanegol hefyd, ynghyd â dros £20,000 ar gyfer arwyddion cadw 2 fetr o bellter, ac ati.

·         Mai’r prif incwm a hawliwyd gan Lywodraeth Cymru oedd prydau ysgol.  Roedd y Cyngor wedi methu gweini prydau am 5 mis, ond yn dal yn gorfod cyflogi’r staff.

·         Y byddai’r Pennaeth Cyllid yn adrodd i Gabinet y Cyngor ar 13 Hydref ar y monitro diweddaraf a sefyllfa Gwynedd erbyn hynny.

·         O ran y cynllun ffyrlo, dim ond y gwasanaethau hynny oedd yn colli incwm oedd yn gallu hawlio, felly nid oedd yn berthnasol i sefyllfa ysgolion, ac eithrio dwy ysgol oedd yn paratoi bwyd eu hunain neu’n darparu chwaraeon.  Derbyniwyd grant ffyrlo ar gyfer rhai staff, a byddai mwy o wybodaeth ar gael yn dilyn cyfarfod y Cabinet.

 

Nodwyd bod yr ysgolion yn wynebu costau o’r newydd ers yr haf, e.e. sgriniau ac ail-ffitio’r ffreutur.  Mewn ymateb, eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion bod bwriad i’r ysgolion fedru hawlio ar gyfer hynny tan 30 Medi.

 

Holwyd sut roedd yr ysgolion am fedru hawlio incwm prydau ysgol.  Mewn ymateb, eglurodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion fod hyn yn digwydd ar lefel yr awdurdod ac yn rhan o adroddiad y Pennaeth Cyllid i’r Cabinet ar 13 Hydref.  Gofynnwyd a fyddai’r arian yn dod i gyllidebau’r ysgolion, ac atebodd y Cyfrifydd Grŵp Ysgolion ei bod yn mawr obeithio y byddai.

 

10.

STRATEGAETH DDIGIDOL YSGOLION GWYNEDD pdf eicon PDF 453 KB

Adroddiad gan Gwern ap Rhisiart (Swyddog Addysg Ardal Dwyfor/Meirionnydd) a Huw Ynyr (Pennaeth Cynorthwyol - TG)  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwydadroddiad gan Gwern ap Rhisiart (Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion) a Huw Ynyr (Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth) yn rhoi diweddariad i aelodau’r Fforwm ar Strategaeth Ddigidol Ysgolion Gwynedd ers y cyfarfod diwethaf ar 2 Mawrth, 2020.

 

Nododd y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth na dderbyniwyd ymateb gan bawb hyd yma i’r llythyr yn gofyn am ddarlun cynhwysfawr o fwriadau’r ysgolion a gallu eu cyllidebau i fuddsoddi mewn cyfarpar.  Bwriedid gofyn i’r penaethiaid a chadeiryddion llywodraethwyr yr ysgolion ymateb erbyn diwedd yr wythnos, fel y gellid adrodd yn ôl i’r Cabinet, a fyddai’n mabwysiadu’r strategaeth yn derfynol.  Nid oedd unrhyw gwestiwn penodol wedi codi o ran y strategaeth ddigidol, heblaw’r cwestiwn mawr o ran sut i’w ariannu.

 

Ategodd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion sylwadau’r Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth gan nodi hefyd y bu’n rhaid rhoi’r archeb am y dyfeisiadau i mewn ym mis Medi, er bod y drafodaeth yn parhau.

 

Nododd rhai penaethiaid:-

 

·         Bod yr holiadur yn rhoi penaethiaid mewn sefyllfa anodd.  Roedd yn golygu bod rhaid rhoi ateb pendant i’r cwestiwn o gyfrannu’n llawn, ond er na ddymunid peryglu’r strategaeth, roedd llawer o ysgolion yn mynd i’w chael yn anodd ymrwymo i gyfrannu’n llawn tuag at gostau adnewyddu’r offer.

·         Er y croesawid y buddsoddiad yn gyffredinol, bod gan yr ysgolion bryderon, e.e. nid oedd sgriniau gwyn rhyngweithiol wedi'u cynnwys, a byddent yn dod i ddiwedd eu hoes ar yr un pryd â’r dyfeisiadau.  Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cynorthwyol Technoleg Gwybodaeth efallai bod offer fel sgriniau yn fater i ail-edrych arno.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth.

 

11.

CYLLID ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL pdf eicon PDF 460 KB

Adroddiad gan Ffion E.Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Addysg Arbennig a Chynhwysiad)  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaethadroddiad gan Ffion E.Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Dysgu Ychwanegol) yn manylu ar waith y Gweithgor Cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol yng nghyswllt yr Adolygiad Strategol Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad.

 

Nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion fod y gweithgor wedi’i sefydlu ac wedi cyfarfod, ond, oherwydd y pandemig, nid oedd y drafodaeth wedi mynd rhagddi fel y byddai pawb wedi dymuno, a bod yr amserlen ar gyfer gweithredu wedi’i hadolygu.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth.

 

12.

DYDDIADAU CYFARFODYDD Y FLWYDDYN ACADEMAIDD 2020-21

Cofnod:

Nododd sawl aelod fod cyfarfod am 3.30yp ar ddydd Llun yn gyfleus iddynt.  Gan hynny, cytunwyd i gynllunio dyddiadau ar y sail honno ar gyfer y flwyddyn academaidd, gyda’r cyfarfod nesaf i’w gynnal yn ystod mis Tachwedd.

 

Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid fod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn ariannol heriol, a’i bod bellach yn amser cychwyn edrych ar gyllideb 2021/22.  Ychwanegodd, er na allai warantu hynny, ei fod yn mawr obeithio na fyddai’n rhaid torri ar addysg yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.