Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2021-22

Penderfyniad:

Ail – ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2021 / 22

 

Cofnod:

Ail etholwyd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd ar gyfer 2021/22

 

Croesawyd y Cynghorydd Gwynfor Owen i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2021-22

 

Penderfyniad:

Ail-ethol Mr Delwyn Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2021/22

 

Cofnod:

Ail etholwyd Delwyn Evans yn Is-gadeirydd ar gyfer 2021/22

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Eirwyn Williams, (Cyngor Gwynedd), Cyng. Selwyn Griffiths (Cyngor Gwynedd), Cyng. Gareth Griffith (Aelod Cabinet Amgylchedd - Cyngor Gwynedd), Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd), Mabon ap Gwynfor (AS Dwyfor Meirionnydd), Claire Williams (Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian), Cyng. Trevor Roberts (Rheilffordd Aberystwyth/Amwythig), Cyng. Michael Williams (Cyngor Powys), Stuart Williams (Rheilffordd Tal-y-llyn), David Crunkhorn (Trafnidiaeth Cymru), Aled Williams (Ysgol Ardudwy), Delwyn Evans (Grŵp Mynediad Meirionnydd)

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 266 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 8.11.2019 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 8fed o Dachwedd 2019 fel rhai cywir

 

7.

DIWEDDARIAD GAN TRAFNIDIAETH CYMRU

Derbyn adroddiad llafar gan Swyddog Trafnidiaeth Cymru

 

Cofnod:

Croesawyd Lowri Joyce, Trafnidiaeth Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno diweddariad ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru.

 

Ers i ganllawiau covid 19 ymlacio dros yr Haf ymddengys, yn Medi 2021 y gwelwyd  cynnydd cyffredinol o 8.5% o ddefnydd y gwasanaeth sydd bellach oddeutu 85% o ddefnydd ‘arferol cyn covid’. Ategwyd bod mwy o wasanaethau rhwng De Cymru a Gogledd Cymru wedi ail agor gyda bwriad o ychwanegu mwy ym Mawrth 2022. Nodwyd mai anodd yw cymharu y sefyllfa gyda’r cyfnod cyn-pandemig gan fod nifer o newidiadau wedi eu gweithredu. Nodwyd hefyd bod y cyhoedd yn parhau i bryderu am deithio ar drafnidiaeth cyhoeddus ond bod Trafnidiaeth Cymru yn ceisio sicrhau eu bod yn cadw pobl yn ddiogel.

 

Mewn ymateb i’r holl newidiadau adroddwyd bod gweithdai yn cael eu cynnal i ganfod adborth a barn am y gwasanaeth a holiadur i’w rannu.

 

Nododd LJ ei bod wedi ei phenodi yn Bennaeth Ymgysylltu (dros dro) gyda Thrafnidiaeth Cymru – LJ i roi gwybod i LHE pwy fydd yn adrodd ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru i’r pwyllgor yn y cyfamser.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

 

·         Angen sicrhau bod cysylltiadau trên a bysiau yn effeithiol. Ymddengys bod diffyg ymwybyddiaeth gan yrwyr bysiau o gysylltiadau amseroedd trenau

·         Angen sicrwydd bod y gorsafoedd hynny a gaewyd yn ystod y pandemig yn ail agor

·         Pryderon lleol bod cerbydau trên yn gorlenwi – dau gerbyd yn annigonol

·         Pryder nad yw gyrwyr y bysiau, sy’n sicrhau parhad gwasanaeth o ganlyniad i waith atgyweirio traphont Abermaw, yn yrwyr lleol. Nid ydynt yn adnabod yr ardal ac nid ydynt yn stopio mewn llefydd amlwg i godi teithwyr.

·         Angen sicrhau posteri yng ngorsaf Llandanwg yn amlygu gwasanaeth tacsi – LJ i wirio hyn gyda David Crunkhorn

·         Bysiau yn gwasanaethu Gorsaf Talwrn Bach yn creu tagfeydd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â llwybrau diogel at orsafoedd trên a chais gan y Cynghorydd Gwynfor Owen (Aelod Harlech/Talsarnau) i’r Pwyllgor ei gefnogi gyda chais i'r gwahanol awdurdodau ddarparu llwybr cerdded/beicio diogel i orsaf Tŷ Gwyn o Ynys a Glan y Wern, nododd LJ y byddai Trafnidiaeth Cymru yn gefnogol i’r cais ac amlygodd bod strategaeth yn cael ei llunio ar faterion llwybrau diogel. Ategwyd y byddai’r cais yn cyd-fynd ar strategaeth yma.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn a diffyg toiledau ar y trenau newydd a lleihad mewn nifer seddau, nodwyd bod rhaid sicrhau bod pob elfen yn cael ei ystyried megis lle digonol ar gyfer pramiau, cadair olwyn, bagiau, beics a nifer toiledau. Awgrymwyd y byddai’n ddefnyddiol i’r Aelodau weld model o’r cerbydau newydd cyn iddynt fentro allan ar y lein – LJ i rannu manylion

 

Er bod y buddsoddiad i Draphont  Abermaw i’w groesawu, derbyniwyd bod problemau wedi codi - diolchwyd i LJ am ddatrys pryderon trigolion am y gwasanaeth bws i Abermaw ynghyd a phroblemau teithiau plant ysgol a ddatryswyd yn dilyn trafodaethau gyda’r Adran Addysg.

 

Diolchwyd am y diweddariad a dymunwyd y gorau i Lowri Joyce yn ei swydd newydd

8.

DIWEDDARIAD GAN NETWORK RAIL

Derbyn adroddiad ar lafar gan Swyddog Network Rail.

Cofnod:

Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r cyfarfod ac fe gyflwynodd yntau Kevin Collins (Cyfarwyddwr Cyflenwi Llwybrau (Cymru) Network Rail)  i ymateb yn uniongyrchol ar faterion gwaith i’r wal derfyn ar y A493 rhwng Llwyngwril a’r Friog

 

Dymuniad Cyngor Cymuned Llangelynnin oedd cael gwybod pryd roedd y gwaith hir ddisgwyliedig o osod rhwystrau damweiniau a thrwsio wal derfyn ar yr A493 rhwng Llwyngwril a Friog yn dechrau. Adroddwyd bod y mater wedi ei gyflwyno i Cyngor Gwynedd yn Ionawr 2015, ond trosglwyddwyd y mater at Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn Mai 2015 gan mai CNC oedd yn gyfrifol am y wal derfyn a'r rhwystr damweiniau. Daethpwyd â’r gŵyn i sylw Cynhadledd Cyswllt Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn Mawrth 2017 ar mater wedi ei drafod sawl gwaith ers hynny ond yn parhau heb ddatrysiad.

 

Nododd KC bod y gwaith bellach ar restr blaenoriaethau Network Rail gyda chyllideb ac adnoddau wedi eu clustnodi ar ei gyfer. Gwnaed addewid y byddai gwell cyfathrebu gyda thrigolion lleol ac y byddai ymweliad safle gyda Chynghorwyr lleol yn cael ei drefnu. Ategwyd bod angen cysuro rhanddeiliaid bod y gwaith yn cael ei flaenoriaethu ac er nad oedd amserlen ar gyfer y gwaith, byddai’n fodlon cyflwyno diweddariad yn y cyfarfod nesaf.

·         SH i drefnu llythyru trigolion lleol o’r bwriad.

·         Diweddariad i’w gyflwyno i’r cyfarfod nesaf

 

Mewn ymateb, diolchodd y Cynghorydd Louise Hughes (Aelod Llangelynnin) bod cyflwr y wal bellach yn drychinebus ac ei bod yn gefnogol iawn i’r ymateb Network Rail. Pan ofynnwyd am ddyddiad posib, nododd KC na allai osod dyddiad pendant ond unwaith y byddai amserlen yn ei lle, y dyddiadau i’w rhannu gyda SH a LHE. Roedd yn derbyn bod problemau wedi bod yn y gorffennol ond yn ffyddiog bod yr ymateb yn amlygu bwriad Network Rail o wella’r sefyllfa.

·         Dyddiadau amserlen y gwaith i’w rhannu gyda SH a LHE.

 

Diolchwyd i Mr Collins am fynychu’r cyfarfod ac am y diweddariad.

 

Prosiect Glandulas (Black Bridge) ger Machynlleth

 

Bod y gwaith o godi'r bont, sy'n rhedeg dros yr Afon Dulas wedi ei gwblhau. Codwyd y bont un metr yn uwch er mwyn lleihau effaith llifogydd ac atal cau’r lein o ganlyniad i lefel yr afon yn codi yn ystod stormydd a glaw trwm. Nodwyd bod y Cynghorydd Michael Williams a’r Cynghorydd Trevor Roberts wedi bod yn ymgyrchu ers peth amser am hyn. Croesawyd y gwaith fydd yn arbed oedi difrifol ar wasanaethau Reilffordd y Cambrian

 

Gorsaf Amwythig

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a chynllun gwella gorsaf Amwythig ar cyfle i gynyddu nifer platfformau ar gyfer gwasanaeth Rheilffordd y Cambrian, nodwyd bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn a dod a phlatfformau yn ôl i ddefnydd yn yr Amwythig Y bwriad yw cynyddu’r nifer platfformau fel bod modd cynnig mwy o wasanaethau. Awgrymwyd i BG gysylltu yn uniongyrchol gyda SH a LJ i dderbyn gwybodaeth bellach

 

Diolchwyd am y diweddariadau

 

9.

DIWEDDARIAD AR UWCHRADDIO TRAPHONT ABERMAW

Diweddariad gan Swyddog Network Rail

Cofnod:

Adroddwyd bod rhan 2 o’r prosiect 3 blynedd bellach ar waith oedd yn cynnwys tynnu’r gwaith coed. Nodwyd bod cyfarfodydd wythnosol yn cael eu cynnal i drafod cynnydd ac eu bod yn ffyddiog y byddai’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn 12 Rhagfyr 2021 a’r rheilffordd yn ail agor. Nodwyd bod ymweliadau safle wedi eu cynnal gyda Chynghorwyr lleol a bod pawb yn gefnogol iawn i’r prosiect ac yn gwerthfawrogi’r buddsoddiad.

 

Awgrymwyd bod angen sicrhau bod hanes y digwyddiad yn cael ei gofnodi a gofynnwyd am syniadau o’r hyn y gellid ei wneud yn addysgol, yn hanesyddol ac yn greadigol i goffau’r achlysur.  Syniadau i’w cyflwyno at SH

 

10.

YMATEB I GWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 260 KB

I dderbyn ymateb i gwestiynau ffurfiol a dderbyniwyd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol gan Gyngor Cymuned Llangelynnin a Chyngor Cymuned Llanbedr.

 

Cyngor Cymuned Llangelynnin –  gosod rhwystrau damweiniau a thrwsio wal derfyn ar yr A493 rhwng Llwyngwril a Friog. (Yr ymateb eisoes wedi ei drafod yn eitem 8 uchod). Y Cynghorydd Louise Hughes (Aelod Lleol Llangelynnin) yn derbyn yr ymateb ac am adrodd yn ôl i’r Cyngor Cymuned

 

Cyngor Cymuned Llangelynnin

 

Ynglŷn a gosod rhwystrau ar draws y ffordd, amlygodd SH ei fod wedi trafod y mater gyda’r tîm asedau. Nododd bod cynllun ar y gweill i wella’r orsaf gyda bwriad o ychwanegu rhwystr i’r groesfan. Cadarnhaodd bod cyllideb ar gyfer y gwaith ac er nad oedd amserlen bendant, awgrymodd y byddai’r gwaith yn cael ei wneud ar derfyn tymor yr Haf 2022. Ategodd bod ramp i sicrhau mynediad hefyd yn cael ei ychwanegu i gefn y platfform – hyn yn welliant.

 

Amlygwyd bod trigolion Llanbedr yn siomedig bod gwariant a gwelliannau i orsafoedd Tŷ Gwyn a Llandanwg ond dim i orsaf Llanbedr sydd yn orsaf brysur iawn. Gofynnwyd a oedd cynlluniau i uwchraddio’r orsaf i’r dyfodol. Nododd SH y byddai’n rhannu’r pryderon gydag Uwch Reolwyr Network Rail. Gofynnodd am syniadau o’r hyn y dymunwyd a bod cyllideb efallai ar gael (2022/23) ar gyfer adnewyddu.

 

Mewn ymateb, nododd y Cynghorydd Annwen Hughes (Aelod Llanbedr) gyda dyfodiad ffordd osgoi Llanbedr a datblygiadau yn y maes awyr, gellid ystyried posibilrwydd cytundeb 106 fyddai’n cyfrannu’n ariannol at faterion rheilffordd.

 

Nododd y Cadeirydd bod Gorsaf Llanbedr yn cael ei hesgeuluso ac wedi bod yn fater o bryder ers blynyddoedd – byddai unrhyw addasiadau, gwelliannau i’w croesawu. Mewn ymateb, nododd SH y byddai modd trefnu ymweliad a’r Orsaf i drafod posibiliadau. SH i drefnu bod Uwch Reolwyr Network Rail a swyddogion Trafnidiaeth Cymru yn cyfarfod gyda’r Cyngor Cymuned i drafod posibiliadau – SH i rannu manylion trefniadau

 

Diolchwyd  am y cwestiynau ac am yr atebion ffafriol a gafwyd gan y swyddogion.

 

Materion eraill:

 

a)    Gweithwyr rheilffordd yn osgoi gwisgo masgiau – Amlygodd y Cyng Anne Lloyd Jones bod mater wedi dod i’w sylw bod rhai gweithwyr rheilffordd yn osgoi gwisgo masgiau mewn siopau

·         Cyng Anne Lloyd Jones i nodi’r pryderon mewn e-bost at SH.

·         SH i gyfeirio’r pryder ymlaen at Reolwyr Prosiect fel mater brys iddynt sicrhau bod gweithwyr rheilffordd yn cydymffurfio gyda chanllawiau covid.

 

b)    Amlygodd Bedwyr Gwilym

·         bod Adroddiad Grwp APPG Heritage Rail wedi ei gyhoeddi  - copi i’w rannu  gydag Aelodau’r Pwyllgor

·         bod cais am gyllid wedi ei gyflwyno (Mawrth 2021) i gynnal astudiaeth fer ar wasanaeth trên posib rhwng Bangor ac Afonwen - cytunwyd gosod y mater fel eitem ar gyfer y cyfarfod nesaf

 

11.

ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG

Derbyn adroddiad gan Swyddog o’r Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig

Cofnod:

Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig yn bresennol i gyflwyno adroddiad

 

LHE i sicrhau bod adroddiad ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno os na fydd cynrychiolydd yn gallu bod yn bresennol i’r dyfodol