skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Glynda O'Brien  (01341) 424301 E-bost: glyndaobrien@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

 

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ethol y Cynghorydd E. Selwyn Griffiths yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2017-18.

 

Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i:

 

(a)  Ddiolch i'r aelodau am ei ethol y Gadeirydd.

(b)  Llongyfarchodd yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas ar ei benodiad diweddar yn Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Llywodraeth Cymru.  

(c)  Croesawodd Bedwyr Gwilym i'w gyfarfod cyntaf ar ran Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18.

Cofnod:

Penderfynwyd:          Ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2017-18.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth Y Cynghorwyr John Brynmor Hughes, Gethin Williams,  Owain Williams (Cyngor Gwynedd), Cyng Trevor Roberts (Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig-Aberystwyth), Mr Tudur Williams (Pennaeth Ysgol Ardudwy), Yr Heddwas Rob Newman (Heddlu Trafnidiaeth Prydain), Mrs Liz Saville Roberts (AS Dwyfor/Meirionnydd), Cyng Freya Bentham (Parc Cenedlaethol Eryri), Mr Neil Hamilton (AC Canolbarth a Gorllewin Cymru), Mr Stuart Williams (Rheilffordd Talyllyn), Mr Aled Jones-Griffiths (Pennaeth Cynorthwyol Coleg Meirion-Dwyfor), Ms Claire Williams (Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian), Ms. Ann Elias (GMW).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.  

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw fater sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. 

Cofnod:

Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys

6.

COFNODION pdf eicon PDF 244 KB

I gadarnhau cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2017.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod y gynhadledd a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2017. 

 

Penderfynwyd:          Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion.

 

7.

ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL

I dderbyn adroddiad llafar gan Mr Sam Hadley, Network Rail.

Cofnod:

Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru a Mr George Collins i'r cyfarfod.

 

Adroddodd Mr Hadley fel a ganlyn:

 

(a) Dathliadau Pen-blwydd 150 Traphont Abermaw

 

Bu'r dathliad uchod yn Abermaw yn llwyddiant mawr. Roedd Mr Andy Thomas, Rheolwr Llwybrau Cymru, wedi cyfarfod gyda'r Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad a'r aelodau sir a lleol yn ystod penwythnos y dathliadau.   

 

Nodwyd bod ymrwymiad i fuddsoddi yn y bont uchod, i'w gwneud yn hyfyw am y 150 mlynedd nesaf.  

 

(b) Blocâd afon Artro

 

·         Datblygwyd dull arloesol ar y cyd rhwng y dylunwyr, contractwyr a pheirianwyr Network Rail i uchafu'r allbwn yn ystod y blocâd 10 diwrnod, gyda gwaith dros dro yn codi'r system a ddefnyddir ar bont afon Artro.   Roedd y system yma'n golygu nad oedd angen tynnu'r trac i gyd.  

·         Afon Wen - ymgymerwyd â gwaith brys yma pan agorodd llyncdwll ar ôl stormydd diweddar a defnyddiwyd 66 metr ciwbig o goncrid wedi'i atgyfnerthu i gyflymu'r broses ac felly nid oedd angen gosod 'mesh'.   Gwelwyd fod rhagor o niwed gerllaw gan storm a bydd Network Rail yn delio â hyn cyn gynted â phosib.

·         Traphont Abermaw - newidwyd y preniau hydredol ar y draphont and roedd yn braf gweld unedau cyflenwi eraill yn defnyddio Blocâd Artro i gynnal y rhwydwaith.

·         Gwnaed gwaith i rwydo cerrig hefyd yn ardal Aberdyfi, ac mae hyn yn mynd rhagddo a'r bwriad yw atal cau y lein yn ddi-rybudd yn y dyfodol gan fod cerrig wedi syrthio.

 

(c) Penhelig

Bydd Gorsaf Penhelig ynghau am dri mis o'r 3 Ionawr i ganiatau ymgymryd â gwaith sylweddol i adnewyddu'r platfform.  Roedd llythyrau wedi eu hanfon i drigolion lleol a chynhelir sesiwn galw heibio ym mis Rhagfyr.

 

Adroddwyd ymhellach y byddai gwaith rhwydo cerrig yn digwydd yn yr ardal leol.

 

Gwnaeth yr aelodau y sylwadau a ganlyn:

 

(i)            I ateb cwestiwn gan aelod lleol Aberdyfi am fynd ag offer i ymgymryd â'r gwaith ym Mhenhelig, addawodd Mr Hadley y byddai yn holi am y manylion ac yn cysylltu gyda'r aelod efo'r wybodaeth. 

(ii)        Diolchwyd i beirianwyr/contractwyr Network Rail am y gwaith wnaed ar flocâd 

afon Artro, a nodwyd nad oeddent was amharu ar y trigolion cyfagos.

(iii)       O ran y sefyllfa y ddiweddaraf am osod rhwystrau yng nghroesfan  

Talwrn Bach, Llanbedr, dywedodd Mr Hadley bod y gwaith yma wedi ei drefnu ar gyfer 2018.  

(iv)       Ni roddwyd unrhyw ddiweddariad am Faes Parcio Gorsaf Dyffryn Ardudwy ond addawodd Mr Hadley i gysylltu â'r aelod lleol pan roedd gwybodaeth wedi dod i law.

 

Penderfynwyd:            Derbyn a nodi’r adroddiad a diolch i Mr Sam Hadley am ei adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD GAN TRENAU ARRIVA CYMRU CYF.

I dderbyn adroddiad llafar gan gynrychiolydd o Trenau Arriva Cymru Cyf.

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies a Mr Lewis Bencher i'r cyfarfod. 

 

Roedd Ms Claire Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian oedd newydd ei phenodi, wedi ymddiheuro am nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod ond roedd wedi anfon adroddiad at Mr Davies ac fe wnaeth yntau ei gyflwyno fel a ganlyn: 

 

Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at weithgareddau cyn ac ar ôl penodiad Claire.  Cyn ymuno â byd Rheilffyrdd Cymunedol, gweithiodd am bum mlynedd fel Swyddog Partneriaeth Cymunedol gyda Chyngor Caerdydd ac roedd ei gwaith yn cynnwys holl agweddau Diogelwch Cymunedol, Iechyd a Llesiant, Materion Amgylcheddol ac Addysg a Chyflogaeth ac felly gyda chefndir mewn ymgysylltu cymunedol fe ddaw â chyfoeth o brofiad gyda hi.

 

Yn ystod y cyfnod byr yma roedd Claire wedi cyfarfod gyda nifer o bartneriaid ariannu a strategol i gyflwyno ei hun ac i drafod sut y gellid barhau i weithio ar y cyd i sicrhau nad yw'r gwaith yn cael ei ddyblygu a chael y gwerth gorau i arian cyhoeddus.

 

Masnachfraint Rheilffyrdd a chefnogaeth Llywodraeth Cymru

Yn ddiweddar, roedd Ms Claire Williams wedi mynychu cyfarfod gyda Threnau Arriva Cymru ble trafodwyd dyfodol Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a sut y byddant yn ffitio i mewn gyda'r fasnachfraint nesaf a bydd yn cyfarfod KeolisAmey a MTR Corporation (Cymru) Ltd    yn yr wythnosau nesaf.   

 

 

 

Arolygon

Mae Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn falch o gael gweithio gyda Phwyllgor Cyswllt Rheilffordd Amwythig i Aberystwyth gan gomisiynu arolwg a gynhaliwyd yng ngwanwyn 2017 fel rhan o grant gan Lywodraeth Cymru.  Mae'r arolygon yn dilyn llwyddiant arolygon 2013 a 2015 a olygodd well gwasanaethau ar Leiniau'r Cambrian.   Cyflwynir canlyniadau'r arolwg i Gareth Evans, Economegydd Rheilffyrdd Llywodraeth Cymru gan y Pwyllgor ar Dachwedd 17eg 2017 mewn cyfarfod ym Mharc Cathays.

 

Ymgyrch Hyrwyddo 201/2018

Derbyniodd y bartneriaeth arian ychwanegol oedd yn caniatau iddynt baratoi gwefan newydd sbon yn canolbwyntio ar ymwelwyr ac mae'r wefan bellach yn fyw, y cyfeiriad yw www.walesonrails.com gan gynhrychu mwy o ffilmiau byr fydd yn cael eu rhyddhau yn Chwefror/Mawrth tan ddechrau'r haf eleni.  Bydd yr ymgyrch wedi ei seilio yn uniongyrchol ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac ar 'Flwyddyn y Môr 2018'.  

 

2018 yw Blwyddyn y Môr ac ar y cyd gyda Croeso Cymru, TAC and amryfal bartneriaid allweddol eraill cynhelir nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu cymunedol yn ystod y flwyddyn ar sail amrywiaeth o themâu i bob tymor gyda'r holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ardal Arfordir y Cambrian a rhai yn digwydd ar y trên.   Bydd mwy o fanylion ar gael yn y cyfarfod nesaf. 

 

Ychwanegodd Mr Ben Davies y bydd Trenau Arriva Cymru yn gweithio'n agos mewn partneriaeth gyda Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian ac roeddent yn awyddus i gysylltu cymunedau gyda'i gilydd gan hyrwyddo teithio ar y trên.  Un digwyddiad a awgrymwyd oedd troi trên yn garnifal yn ystod misoedd yr haf, cynnal cystadleuaeth adeiladu castell tywod yng Nghricieth i ddenu mwy o bobl, gweithio mewn partneriaeth gyda Hafan y Môr Pwllheli, Croeso Cymru, Rheilffordd Ffestiniog ac ati.

 

Ail-agor Gorsaf Rhyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD SWYDDOG PARTNERIAETH RHEILFFORDD Y CAMBRIAN

I gyflwyno Claire Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian, ac i dderbyn diweddariad o weithgareddau hyd yma.  

Cofnod:

Gweler eitem 8 uchod.

10.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 269 KB

I dderbyn ymateb i’r cwestiynau amgaeedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf:

 

(i)            Atodiad 1 -  Cwestiwn gan Gymdeithas Teithwyr Amwythig/Aberystwyth

(ii)           Atodiad 2 – Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin

(iii)          Atodiad 3 – Cwestiwn gan Gyngor Cymuned Llangelynnin

(iv)          Atodiad 4 – Cwestiwn gan Cyngor Tref Cricieth

(v)           Atodiad 5 – Llythyr a dderbyniwyd gan Cyngor Tref Porthmadog

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion ac atebwyd fel a ganlyn:

 

(i)         Fel noddwyr signalu ERTMS a ddefnyddir ar y Cambrian, mae'n ofynnol fod Network Rail yn pwyso ar i bob cerbyd teithwyr sydd wedi eu trawsnewid i gael eu defnyddio ar y rheilffordd.   Mae hyn yn golygu bod Network Rail yn cymryd cyfrifoldeb nad oes cerbydau Dosbarth 158 ar y Cambrian.   Dylid un ai defnyddio'r cyfan o'r 24 uned Dosbarth 158 a'u dyrannu'n briodol neu fod Network Rail yn ariannu trawsnewid cerbydau eraill i gwrdd â'r galw.

 

Wrth ateb, dywedodd Mr Sam Hadley ei fod wedi trafod hyn gyda'r Cyng Trevor Roberts pan gyfarfu ag ef yn Abermaw, mewn perthynas â'r trên stêm.    O safbwynt y  mater ehangach, nid oedd yn sicr pwy oedd yn gyfrifol am hyn.   Roedd Llywodraeth y DU yn edrych i ehangu gwella digidol.    Aeth Mr Lewis Bencher yn ei flaen i ddweud y lleiaf o ddefnydd oedd o'r 158 y tu allan i Lein y Cambrian, roedd mwy o bosibilrwydd o'u defnyddio ar leiniau eraill.   Roedd 24 (158 uned) allan o Fachynlleth yn rif delfrydol ac yn fflyd eithaf sylweddol.

 

Roedd trafodaethau yn parhau gyda Aelod Seneddol Dwyfor/Meirionnydd a dywedodd Mr Hadley y byddai'n diweddaru'r Pwyllgor hwn pan fyddai rhagor o wybodaeth wedi dod i law. 

 

(ii)        Rhwystrau diogelwch/wal derfyn - Prif ffordd (A493) - rhwng Llwyngwril   a'r Friog 

 

Dywedodd Mr Hadley yn dilyn y cyfarfod diwethaf o'r Pwyllgor hwn roedd y mater yma wedi ei godi gyda'r Rheolwr Asedau Llwybrau.   Cynhaliwyd cyfarfod safle rhwng swyddogion o Network Rail ac Ymgynghoriaeth Gwynedd ble cytunwyd y byddai Network Rail yn anfon cylch gwaith i Dylan Davies, Uwch Beiriannydd gyda Ymgynghoriaeth Gwynedd i ymgymryd â'r gwaith.   Ar hyn o bryd nid oedd unrhyw ddyddiad dechrau i'r gwaith, ond addawodd Mr Hadley i roi gwybod i'r Pwyllgor am unrhyw ddatblygiadau.

 

(iii)  Diffyg goleuadau ym maes parcio Gorsaf Llwyngwril

 

Dywedodd Mr Hadley nad oedd Network Rail yn derbyn arian i wneud gwelliannau ond roedd yn falch o gael adrodd eu bod yn edrych ar gynllun goleuo yn y maes parcio gan fod cyfle wedi codi i wneud y gwaith yma.   Nid oedd dyddiad hysbys i'r gwaith ond bydd Mr Hadley yn i roi gwybod am unrhyw ddatblygiadau i aelodau'r Pwyllgor.    

 

(iv)  A yw Trenau Arriva Cymru yn medru sicrhau eu bod yn cynnig gwasanaeth dwyieithog?

 

Dywedodd Mr Ben Davies fod Trenau Arriva Cymru yn ateb gohebiaeth yn ddwyieithog ond roeddent yn cael trafferth gyda gwasanaeth dwyieithog ar y trenau oherwydd diffyg ariannu. Hyderir y bydd cwmni llwyddiannus y fasnachfraint newydd yn gallu cynnig gwasanaeth cyhoeddi dwyieithog yn y gorsafoedd ac ar y trenau.   

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at lythyr a dderbyniwyd gan Gyngor Tref Porthmadog am ddiffyg defnydd a blaenoriaeth i'r Gymraeg.   Dywedodd hefyd fod y mater uchod wedi ei drafod yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.