skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sion Owen 

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Cofnod:

Etholwyd y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn Gadeirydd ar gyfer 2019-20.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Cofnod:

 

Etholwyd Delwyn Evans yn Is-gadeirydd ar gyfer 2019-20.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan

 

Liz Saville Roberts (AS Dwyfor Meirionnydd),

Mrs Claire Williams (Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian),

Cyng. Annwen Hughes, (Cyngor Gwynedd)

Cyng. Freya Bentham (Cyngor Gwynedd)

Trefor Jones (Cynrychiolydd Dwyfor Unllais Cymru),

Ann Elias (GMW)

Mr Stuart Williams (Rheilffordd Talyllyn)

Chris Wilson

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

I ystyried unrhyw faterion sydd yn faterion brys yn nhyb y cadeirydd.

Cofnod:

Nid oedd y Cadeirydd wedi derbyn unrhyw faterion brys.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 92 KB

I derbyn cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2018

Cofnod:

Cyflwynwyd:    Cofnodion cyfarfod y gynhadledd a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd 2018. 

 

Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion.

 

7.

ADRODDIAD GAN NETWORK RAIL

I dderbyn adroddiad gan Sam Hadley, Network Rail.

Cofnod:

Croesawyd Sam Hadley, Rheolwr Materion Cyhoeddus Llwybrau Cymru, i'r cyfarfod ac fe adroddodd ar y materion isod:

 

o   Fod Perfformiad ar y rheilffyrdd heb fod yn ddigon da dros yr haf, gyda phroblem ysbeidiol wedi ei chanfod gyda’r system signalau oedd bellach wedi ei datrys.

o   Mynegodd bosibilrwydd o gynnal ymweliad i grŵp bychan er mwyn gweld y ganolfan signalau ym Machynlleth, neu drefnu cyflwyniad ar gyfer cyfarfod y Gynhadledd yn y dyfodol.

o   Roedd tywydd garw hefyd wedi bod yn broblem, gyda phroblemau mewn ardaloedd eraill wedi cael effaith ar wasanaethau Rheilffordd Arfordir y Cambrian. Cydnabu rwystredigaeth defnyddwyr y rheilffordd, gan nodi fod Network Rail yn monitro mannau problemus yn ofalus, gan weithio ar ddatrysiadau hirdymor.

o   ‘Fod trefniadau monitro perfformiad bellach yn monitro yn fwy manwl gan ganolbwyntio ar amseroedd cyrraedd gorsafoedd unigol yn hytrach na dechrau a gorffen taith.

o   ‘Roed y newid yma wedi arwain at wneud newidiadau bychain yn lleol er mwyn gwella effeithlonrwydd.

o   Fod model busnes newydd wedi ei ddatblygu, gan ennill mwy o hyblygrwydd er mwyn targedu gwariant yn y mannau oedd ei angen.

o   Fod gwelliannau a wnaethpwyd yn dilyn Hydref 2018 wedi dwyn ffrwyth, gan arwain at lai o ddifrod i olwynion a chadw mwy o gerbydau yn weithredol. Golyga hynny yn ei dro na fyddai cerbydau yn cael eu tynnu oddi ar Reilffordd y Cambrian a’u dargyfeirio i liniaru prinder mewn ardaloedd eraill.

o   Fod Adolygiad Williams yn debygol o adrodd wedi’r etholiad, gyda rhagdybiaeth o newidiadau sylweddol i’r rheilffyrdd.

o   Wal y Friog - Fod swyddog o Network Rail wedi bod i gyfarfod y gymuned, bod cynlluniau wedi eu datblygu ar y cyd gyda’r Cyngor i wneud y gwaith. Nad oedd dyddiad wedi ei osod eto.

o   Croesfan Talwrn Bach - Roedd gwaith wedi ei gynllunio ar gyfer blwyddyn 3 o’r cyfnod ariannu presennol, sef 2021-22. ‘Roedd hefyd angen cynnal cydweithio gyda thirfeddianwyr lleol.

o   Pont Afon Artro - Dangoswyd lluniau o’r gwaith, oedd wedi achosi cau'r lein dros dro. Nododd fod nifer uchel o bontydd pren ar Reilffordd Arfordir y Cambrian, a bod Network Rail yn defnyddio’r gwaith cynnal a chadw er mwyn datblygu technegau i’w defnyddio ar Bont Abermaw.

o   Ymddiheuro bod gwybodaeth wedi ei yrru yn uniaith Saesneg i fudd-ddeiliaid yn ddiweddar, a bu iddo ymddiheuro gan fynegi syndod ei fod wedi digwydd mewn ardal mor Gymreig.

 

 

 

Cwestiynau a sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

o   O ran Pont Artro, oni fyddai wedi bod yn fuddiol i wneud gwaith ar bontydd Tŷ Gwyn a Llandanwg ar yr un pryd?

 

Mewn ymateb nododd Sam Hadley fod hynny’n awgrym synhwyrol, a’i fod yn tybio bod rheswm synhwyrol dros wneud y gwaith ar y bont yma’n unig. ‘Roedd Network Rail wedi gweld wrth wneud gwaith ar lein Dyffryn Conwy ei fod yn gost effeithiol gwneud nifer o ddarnau o waith cynnal a chadw ar yr un pryd ar ran o’r lein.

 

o   Sut  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD GAN TRAFNIDIAETH CYMRU.

I dderbyn adroddiad gan, Lowri Joyce Trafnidiaeth Cymru

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Lowri Joyce, Trafnidiaeth Cymru, i gyflwyno ei hun ac adrodd ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru hyd yma ac fe adroddodd ar y materion isod:

 

o   Ei bod wedi ei phenio i Drafnidiaeth Cymru yn Ebrill 2019, wedi blynyddoedd o weithio yn y diwydiant Niwclear.

o   Fod llwybr wedi ei ailagor er mwyn galluogi trenau i deithio o Wrecsam i Lerpwl yn uniongyrchol.

o   Fod Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar gynyddu capasiti, gan gynnwys dychwelyd trenau yn cael eu tynnu gan injan.

o   Fod cynllun ‘delay repay’ wedi dechrau oedd yn ad-dalu tocynnau os oedd trên 15 munud neu fwy yn hwyr.

o   Fod bwriad i weithio’n agos gyda chymunedau er mwyn gwella cydweithio cymunedol ac annog trigolion i helpu.

o   Fod perfformiad bellach yn cael ei fesur yn wahanol, ac yn fwy manwl.

o   Fod 120 o swyddi newydd bellach, gyda chynrychiolaeth gref o’r Gogledd fyddai’n eirioli er mwyn gwella’r ddarpariaeth.

o   Eu bod wedi dysgu o brofiad defnyddwyr gyda’r newid yn y tocynnau teithio am ddim. Ni fyddai unrhyw deithiwr yn cael eu troi ymaith wedi i’r tocynnau newydd ddod yn weithredol felly nid oed angen i ddeiliaid trwyddedau bryderu.

o   Fod gwaith da wedi ei wneud mewn partneriaeth gyda’r Cyngor wrth fynd i lyfrgelloedd er mwyn cynorthwyo trigolion gyda cheisiadau am docyn newydd.

o   Roedd cynllun gwerth £195 miliwn wedi ei lansio er mwyn rhoi gwell profiad i gwsmeriaid, gan gynnwys gosod CCTV, cysylltedd diwifr, cysgodfan a man cadw beic ym mhob gorsaf.

o   Byddai’r cynllun yn dechrau yng ngorsafoedd Machynlleth a Chyffordd Dyfi ar Reilffordd y Cambrian, gyda gorsaf Machynlleth hefyd yn dod yn orsaf beilot fel gorsaf dementia cyfeillgar.

o   Fod bwriad i edrych ar adeiladau segur er mwyn annog eu defnyddio.

 

Cwestiynau a sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

o   Pan fo bysus yn cymryd lle trenau, fod bws rhy fach wedi cael ei ddarparu, gan olygu fod teithwyr yn cael eu gadael ar ôl, yn enwedig rhai gyda beiciau a chadeiriau olwyn.

o   Fod darparu digon o le ar gyfer beiciau yn bwysig gan fod galw amlwg am y ddarpariaeth ar drenau Rheilffordd Arfordir y Cambrian. Y gobaith oedd y byddai’r lle angenrheidiol wedi ei ddarparu ar y cerbydau newydd fyddai’n cael eu darparu.

 

Mewn ymateb nododd Lowri Joyce fod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol o broblemau gyda’r bysus, a byddai ymdrech yn cael ei wneud er mwyn lleddfu’r problemau i’r dyfodol.

 

o   Nodwyd bod dim digon o amser er mwyn trosglwyddo o’r trên i fws er mwyn parhau a thaith ar brydiau, yn ogystal â thyllau yn y ddarpariaeth mewn mannau eraill.

 

Mewn ymateb nododd Lowri Joyce fod ymdrech yn cael ei wneud er mwyn integreiddio’r gwasanaethau cludiant yn well, a bod croeso i fudd-ddeiliaid i gysylltu â hi gyda phroblemau.

 

o   Tra bod glanhau gorsafoedd yn cael ei groesawu, pam fod cwmni tramor wedi ei gytundebu i wneud y gwaith?

 

Mewn ymateb nodwyd mai cwmni  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

ADRODDIAD HEDDLU TRAFNIDIAETH BRYDEINIG

I dderbyn adroddiad gan gynrychiolydd o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i PC Andy Greaves o’r Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig.

 

Nododd fod Rheilffordd y Cambrian yn un o’r llwybrau mwyaf diogel ar system Trafnidiaeth Cymru. Yr unig adegau ble’r oedd problemau yn codi oedd pan fyddai trenau yn cael eu gohirio yn ddirybudd, ond ‘roedd yn ymwybodol bod ymdrechion ar waith er mwyn datrys problemau.

 

10.

CWESTIYNAU FFURFIOL pdf eicon PDF 741 KB

I dderbyn ymateb i’r cwestiynnau sydd wedi eu cynnwys yma a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.

Cofnod:

Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan amryw o Gynghorau Cymuned a chafwyd yr atebion isod:  

 

1

Cyngor Tref Porthmadog - i Trafnidiaeth Cymru

 

1.1

Pa ddatblygiadau sydd ar y gweill ar y trenau i sicrhau gwasanaeth dwyieithog?

 

Nodwyd bod ymdrechion yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod staff yn medru ynganu enwau lleoedd Cymraeg yn gywir, gan gynnwys cynnig gwersi Cymraeg.

 

1.2

Pam fod yna gymaint o drenau yn cael eu gohirio mor aml ac yn rhedeg yn hwyr?

 

Trafodwyd y mater yma eisoes yn y cyfarfod.

 

1.3

Pa bryd maent am roi darpariaeth ychwanegol  ar y trenau i fedru cario mwy o feiciau?

 

Trafodwyd y mater yma a derbyniwyd ymateb yn gynharach yn y cyfarfod

 

1.4

Beth yw eu trefniadau nhw ynglŷn â chasglu sbwriel ar hyd y lein gan nodi problemau ger Cambrian Terrace ym Mhorthmadog.? (Nodwyd y gallai’r sbwriel fynd i mewn i’r Cyt a chreu problemau amgylcheddol).

 

Nodwyd fod sbwriel yn cronni yn broblem, ac ‘roedd angen sicrhau cydweithio holistig rhyngasiantaethol er mwyn datrys y broblem. ‘Roedd angen hefyd atal i deithwyr ollwng sbwriel, yn ogystal â stopio tipio slei bach. Byddai ymdrechion yn cael eu gwneud yn y dyfodol er mwyn lleihau’r gwastraff fyddai’n cael ei gynhyrchu gan deithwyr, a byddai cynllun o fabwysiadu gorsafoedd yn cael ei gynnig maes o law.

 

1.5

Oes yna gynlluniau i gynnig gwasanaeth cyflym rhwng Pwllheli ac Amwythig yn y bore a gyda’r nos fel bod modd gwneud y siwrne mewn dwy awr yn lle tair?

 

Nodwyd fod y syniad yma wedi ei gynnig yn y gorffennol, ond wedi wynebu gwrthwynebiad gan ddefnyddwyr gorsafoedd bach y lein.

 

1.6

Ydi’n bosib cael darpariaeth bwyd a diod o Bwllheli i Fachynlleth?

 

Nodwyd fod ymdrechion ar wait hi sicrhau darpariaeth yn y gorsafoedd mwy, a byddai gwelliannau pellach yn cael eu cynnig yn y flwyddyn newydd.

 

1.7

Pam nad ydi pobl sydd efo cardiau teithio am ddim yn cael eu defnyddio ar Reilffordd Cambrian trwy’r flwyddyn fel mae defnyddwyr y trên rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno ?

 

Nodwyd nad oedd yn bosib cynnig yr un hawl gan fod y trenau ar Reilffordd y Cambrian yn rhy llawn yn yr haf.

 

 

2

Cyngor Tref Criccieth - i Trafnidiaeth Cymru

 

2.1

A fedrwn gael diweddariad os gwelwch yn dda am gynlluniau'r gweithredwr trenau ar gyfer stesion Criccieth

 

Nodwyd y byddai’r orsaf yn derbyn yr un sylw a’r gorsafoedd eraill yn unol â chynlluniau uwchraddio Trafnidiaeth Cymru.

2.2

(i Network Rail) Mae consyrn ynglŷn â chyflwr rhai o’r llwybrau cerdded o gwmpas stesion Criccieth: Yr angen i wella cynnal a chadw'r llwybrau canlynol: y llwybr cul o’r maes parcio i’r stesion a hefyd yr ugain llath gyntaf o lwybr rhif 1 tuag at gyfeiriad Ysgol Treferthyr. 

 

Nodwyd nad oedd sicrwydd ynglŷn a pherchnogaeth tir ym maes parcio gorsaf Criccieth, ond bod Network Rail wedi  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.