Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan Euron Thomas (Uwch Swyddog Iechyd Amgylchedd – Cyngor Gwynedd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 260 KB The Firecat Country House’, Camlan Uchaf, Mallwyd, SY20 9EP Ystyried y cais uchod Cofnod: CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED
EIDDO – THE FIRECAT COUNTRY HOUSE B&B, CAMLAN UCHAF, MALLWYD Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn
bresennol. Llongyfarchwyd y
Cynghorydd Annwen Daniels ar
ei phenodiad fel Is Gadeirydd y Cyngor. Atgoffwyd pawb bod y gwrandawiad a
gynhaliwyd 21.7.2016 wedi ei ohirio er mwyn i’r Is Bwyllgor Trwyddedu gynnal
ymweliad safle yn dilyn gwrthwynebiadau i’r cais ar sail diogelwch y cyhoedd.
Cadarnhawyd bod Aelodau'r Is Bwyllgor wedi ymweld â’r
safle 28 Gorffennaf 2016 gyda’r Swyddog Trwyddedu. Ar ran yr
eiddo: Mr
Robin Worgan (ymgeisydd) ac
Amber Worgan Aelod Lleol: Cynghorydd
John Pughe Roberts a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adain Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn
manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer The Firecat
Country House Bed and Breakfast, Mallwyd mewn perthynas â chyflenwi alcohol,
cerddoriaeth wedi ei recordio, cerddoriaeth fyw perfformiadau dawns, dangos
ffilmiau a dramâu, unrhyw adloniant arall a chyflenwi lluniaeth hwyr y nos.
Gofynnwyd am hawl i gyflenwi alcohol a chynnal adloniant tu fewn a thu allan
i’r eiddo hyd 1:00 y bore, saith diwrnod yr wythnos. Eglurwyd bod yr eiddo yn
cael ei redeg fel gwesty gwely a brecwast bychan, gyda thair llofft yn cael eu
gosod i westeion. Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau
arfaethedig, ond nodwyd ers cyflwyno y cais bod yr amgylchiadau wedi newid a
bod y cais wedi ei ddiwygio. Amlygwyd bod e-bost wedi ei dderbyn gan yr
ymgeisydd yn cadarnhau’r diwygiadau hyn. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd
yn argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu (fel rhan o’r cais gwreiddiol)
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod yr
Aelod Lleol, y Cyngor Cymuned a phreswylwyr cyfagos yn gwrthwynebu
gweithgareddau trwyddedig ar gyfer rhai nad ydynt yn breswylwyr. Roedd y
gwrthwynebiadau yn gyffredinol yn cael eu gwneud ar sail yr amcanion trwyddedu
o Atal Niwsans Cyhoeddus a Diogelwch y Cyhoedd. Nodwyd nad oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu’r
cais, ac yn dilyn ymweliad i’r safle, nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno i
weithredu Polisi Her 25. Nid oedd y Gwasanaeth Tân yn gwrthwynebu’r cais, ond
rhoddwyd argymhelliad o ran niferoedd y dylid eu caniatáu o fewn ystafelloedd
cyhoeddus yr adeilad. Cyfeiriwyd at sylwadau ac argymhellion
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a oedd wedi cynnal trafodaethau gyda’r ymgeisydd i
geisio mwy o fanylion am gynnwys y cais. Gohebwyd
ynglŷn ag amlder digwyddiadau ac adroddwyd nad oedd digon o fanylion i
benderfynu os oedd y rhagofalon cywir yn
debygol o gael eu gweithredu i sicrhau na fyddai'r amcan trwyddedu o Atal
Niwsans Cyhoeddus yn cael ei danseilio. Amlygwyd mai gwrthod y cais gwreiddiol
fyddai awgrym y Swyddog, ond yn dilyn trafodaethau pellach a diwygiadau i’r
cais gwreiddiol, cadarnhawyd nad oedd gan y Swyddog unrhyw wrthwynebiad i
werthiant alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos. Cyfeiriwyd at ohebiaeth a dderbyniwyd gan y Parc Cenedlaethol (nad oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad) lle amlygwyd gan fod dros 50% o’r ystafelloedd gwely o fewn yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |