Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Anwen Daniels oedd hefyd yn datgan
buddiant oherwydd bod ei gwr yn
gweithio i gwmni Llechwedd |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 260 KB Gwesty Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, LL41 3NB I ystyried y cais Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu’r cais COFNODION: Ar
ran yr eiddo: Mr Michael
Bewick Gwesty
Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog Eraill
a wahoddwyd: Mark Mortimer - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y Cadeirydd y byddai gan
bob parti hawl i hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Gwesty
Plas Weunydd, Llechwedd, Blaenau Ffestiniog. Gwnaed y cais mewn
perthynas â gwerthu
alcohol, cerddoriaeth byw ar yr eiddo
a cherddoriaeth wedi ei recordio ar,
ac oddi ar yr eiddo Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei
gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd
yr ymgeisydd yn ei argymell
i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn
cael eu cynnwys
ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr ymatebion
a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sylwadau wedi ei
derbyn gan yr Heddlu ac Adran
Gwarchod y Cyhoedd a bod yr ymgeisydd eisoes
wedi cyfaddawdu i’r amodau a gynigiwyd: ·
Cytunodd drwy gwtogi oriau
chwarae cerddoriaeth oddi ar yr
eiddo am 9y.h. ·
Rhoi cais rhybudd digwyddiad dros dro os
ydynt yn bwriadu cynnal digwyddiad ar ôl
11y.h. ·
Peidio gwagio biniau boteli ac ailgylchu ar ôl
9:30y.h. ·
Cynnal asesiad risg ac i gyflogi
goruchwylwyr drysau os bernir o’r
asesiad risg fod angen hynny,
neu ar unrhyw
adeg arall ar gais a chytundeb
yr Heddlu. Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cais yn unol
â’r hyn a gytunwyd gydag Adran Gwarchod y Cyhoedd, yr Heddlu
a gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu ·
Gwahodd
yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i'r Heddlu ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd
y drwydded a’r ymgynghorai b)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd
yr ymgeisydd: ·
Bod yr adeilad hanesyddol bellach wedi ei
drosi yn westy moethus ·
Y gobaith yw y bydd y safle,
i’r dyfodol yn rhan o Safle
Treftadaeth y Byd ·
Bod cynnydd yn nifer yr
ymwelwyr i’r ardal – y gwesty yn ymateb i’r
angen ·
Bwriad yw cynnig gwasanaeth o werth uchel ac ansawdd da i ymwelwyr ·
Byddai’r gwesty yn creu
swyddi yn yr ardal ·
Bwriad bod yn gymdogion da a chydweithio gyda’r gymuned – bod cynnig arhosiad diogel a distaw yn rhan o’r
gwasanaeth c)
Manteisiodd
yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a
gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr. Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,
·
Bod Llechwedd wedi cydymffurfio gyda’r holl ofynion Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd gan yr Heddlu
ch) Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei achos ... view the full COFNODION text for item 4. |