Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mr Adrian Roberts (Preswylydd Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO Siop Hwylus, Brook
House, Stryd Fawr,
Llanberis LL55 4SU I ystyried y cais Penderfyniad: Caniatau y cais yn
unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003. Oriau Gwerthu alcohol 08:00 - 23:00 bob dydd. Dim oriau
ychwanegol ar ôl 23:00 Ymgorffori'r materion sydd
wedi eu rhagnodi yn Atodlen Weithredol (Rhan M) y cais fel amodau ar y
drwydded. Ymgorffori'r amodau a
argymhellwyd gan yr Heddlu fel amodau i’r drwydded. Nodyn: Sicrhau cydymffurfio gyda
gofynion y Gwasaneth Tân cyn agor COFNODION: CAIS AM DRWYDDED
EIDDO – Siop Hwylus, Brook House, Stryd Fawr, Llanberis, LL55 4SU Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
a)
Adroddiad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer
menter busnes newydd mewn eiddo sydd ar hyn o bryd yn sefyll yn wag. Eglurwyd
mai’r bwriad yw addasu a gwella’r adeilad er pwrpas bod yn siop hwylus, yn
gwerthu amrywiaeth o nwyddau gan gynnwys alcohol. Cyfeiriwyd at
oriau arfaethedig safonol ar gyfer gwerthiant alcohol oddi ar yr eiddo o 06:00
tan 23:00 pob diwrnod yr wythnos; er bod bwriad wedi ei nodi fel amser
ansafonol i werthu alcohol o’r siop o 06:00 tan 02:00 drannoeth, bob diwrnod
o’r 1af o Ebrill tan 30ain o Fedi. Cyfeiriwyd at ohebiaeth a ddaeth i law gan
gynrychiolydd yr ymgeisydd yn nodi cynnig i leihau oriau gwerthu alcohol o
06:00 tan 23:00 (hyd 00:00 rhwng 1af o Ebrill a 30ain o Fedi), fyddai yn
cyfarch rhai o’r pryderon. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod
y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau
perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i
hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu
cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at yr
ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod
gwrthwynebiadau i’r cais wedi eu derbyn gan aelod o’r cyhoedd, y Cyngor Cymuned
a’r Aelod Lleol oedd yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas ar Amcanion
Trwyddedu o Atal Trosedd ac Anrhefn, Niwsans Cyhoeddus, Diogelwch y Cyhoedd a
Diogelu plant rhag niwed. Amlygwyd bod
Heddlu Gogledd Cymru yn cwestiynu’r oriau estynedig sylweddol ar gyfer gwerthu
alcohol am hanner y flwyddyn fel amseroedd ansafonol ar y cais ac roedd y
Gwasanaeth Tân yn nodi na fu’n bosib asesu cydymffurfiaeth gyda darpariaethau
gofynion tân gan nad oedd gwybodaeth ddigonol ynglŷn â pherchnogaeth y
safle. Er y cynnig gan
gynrychiolydd yr ymgeisydd i leihau’r oriau ansafonol, argymhellwyd i’r
Pwyllgor geisio eglurder llawn ynglŷn ag oriau ansafonol y cais,
sylwadau’r Heddlu a gofynion Deddf Drwyddedu 2003. a)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau i
gynrychiolydd y Cyngor. ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr ymgeisydd neu ei
gynrychiolydd i ofyn cwestiynau i gynrychiolydd y Cyngor. ·
Rhoi cyfle i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd
ymhelaethu ar y cais a galw tystion ·
Rhoi cyfle i Aelodau’r is-bwyllgor ofyn cwestiynau
i’r ymgeisydd a/neu ei gynrychiolydd ·
Ar ddisgresiwn y Cadeirydd gall cynrychiolydd y
Cyngor ofyn cwestiynau i’r ymgeisydd neu ei gynrychiolydd ·
Rhoi gwahoddiad i bob Ymgynghorai gefnogi unrhyw
sylwadau ysgrifenedig ·
Rhoi cyfle i gynrychiolydd y Cyngor a’r ymgeisydd
neu ei gynrychiolydd grynhoi eu hachos. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r nifer o siopau sydd yn gwerthu alcohol tan hanner nos yng Ngwynedd, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod yr oriau yn amrywio ar draws y Sir. Amlygwyd bod siopau eraill yn Llanberis yn gwerthu alcohol tan ... view the full COFNODION text for item 4. |