skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

CROESO

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i rannu eu sylwadau.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 206 KB

VICTORIA-N-SLIPWAY. MARINE PARADE, TYWYN, GWYNEDD, LL36 0DG

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

THE VICTORIA-N-SLIPWAY, MARINE PARADE, TYWYN

 

Ar ran yr eiddo:         Mr Mark Greaves (ymgeisydd), Ms Karen L Darby (asiant)

 

Aelod Lleol:               Cyng. Mike Stevens

 

Eraill a fynychwyd:    Mr Robert Wynne (Preswylydd Lleol)

 

Ymddiheuriadau:      R Price, S Pickering a Mr Oliver (Preswylwyr Lleol), Sheryl Le Bon Jones (Rheolwr Trwyddedu), Mr J Hughes (Gwasanaeth Tân), Mr Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru), Cynghorydd Anne Lloyd Jones (Aelod Lleol) a Cynghorydd Angela Russell

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais Mr Mark Andrew Greaves ar ran cwmni Victoria-N-Slipway Pub am drwydded eiddo o’r newydd ar gyfer The Victoria-N-Slipway, Marine Parade, Tywyn. Cais ydoedd ar gyfer eiddo newydd fydd yn cynnwys lle bwyta dros ddau lawr ar gyfer 150 o bobl gyda balconi allanol a gardd gwrw i’r ochr. Nodwyd  manylion am yr oriau cyfredol a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad.

 

Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’r cais.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gwrthwynebu’r cais ond yn dymuno bod  teledu cylch cyfyng (TCC) yn cael ei osod ar yr eiddo yn destun i amodau penodol TCC.  Derbyniwyd saith gwrthwynebiad i’r cais oddi wrth breswylwyr lleol yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Atal Trosedd ac Anrhefn ac Atal Niwsans Cyhoeddus.  Roedd eu pryderon yn ymwneud ac oriau agor hwyr, agosatrwydd yr eiddo i gartrefi preswylwyr, fydd o ganlyniad yn debygol o greu niwsans cyhoeddus a diffyg cyfleusterau parcio.

 

b)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

·         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

 

c)      Wrth ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno a chadarnhaodd bod yr ymgeisydd, yn dilyn trafodaethau gyda Heddlu Gogledd Cymru wedi cytuno i amodau TCC. Sylwadau ychwanegol o fwriad yr ymgeisydd;

 

·         Cynnal enw da, yn lleol gyda gwasanaeth o ansawdd da.

·         Ni fydd aflonyddwch i drigolion lleol. Yr adeilad wedi ei lunio gyda phreswylwyr mewn golwg. Nid oedd unrhyw fwriad i greu gofid i breswylwyr lleol, ond i gydweithio.

·         Nid yw’r cynlluniau wedi eu haddasu - bwyty yw’r bwriad ac nid clwb nos.

·         Deunyddiau atal/lleihau sŵn i’w defnyddio.

·         Hyblygrwydd gydag amseroedd agor yn ddibynnol ar ddigwyddiadau ac ar y busnes. Yr oriau yn gyfatebol i oriau tafarndai cyfagos.

·         Yr eiddo mewn lleoliad sydd yn boblogaidd gyda thwristiaid. Bydd hefyd yn darparu gwasanaeth sydd yn ymateb i’r galw yn lleol ac yn creu swyddi yn lleol.

·         Bydd yr ardal yn debygol o gael ei phlismona yn aml oherwydd cynnydd mewn gweithgarwch.

·         Nid oes prinder mannau parcio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.