Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenodeb.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Mr Christopher O’Neal (Asiant yr ymgeisydd) fuddiant personol oherwydd ei fod yn aelod o Gyngor Gwynedd.

 

Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) ei fod yn briodol o dan y rheoliadau iddo fod yn bresennol yn y cyfarfod gan ei fod yn gweithredu hawl sydd gan y cyhoedd i fod yn bresennol ac i gyfrannu.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

4.

CAIS RHYBUDD DIGWYDDIAD DROS DRO SAFONOL 1 pdf eicon PDF 241 KB

342, STRYD FAWR, BANGOR, GWYNEDD LL57 1YA

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar hysbysiadau gwrthwynebu a dderbyniwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ac Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd i Rybudd Digwyddiad Dros Dro (TEN) a dderbyniwyd ar 12 Tachwedd 2015 gan Mrs Susan Roberts mewn perthynas â chynnal gweithgareddau trwyddedig arfaethedig yn 342 Stryd Fawr, Bangor am 3 diwrnod fel a ganlyn:

27 Tachwedd 2015 o 11:00 – 03:00

28 Tachwedd 2015 o 11:00 – 03:00

29 Tachwedd 2015 o 11:00 – 23:59.

 

Nodwyd mai 2 opsiwn oedd ar gael i’r Is-bwyllgor, sef:

     Gwneud dim a chaniatáu i’r digwyddiad fynd yn ei flaen yn y modd a ddisgrifir yn yr hysbysiad digwyddiad dros dro; NEU

     I gyhoeddi gwrth-hysbysiad, h.y. i wrthod y digwyddiad yn unol â Rhan 105(2)(b) o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 os yw’r is-bwyllgor yn ystyried fod angen gwneud hynny er mwyn hyrwyddo un o’r amcanion Trwyddedu. 

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed y nifer o eiddo trwyddedig yn y cyffiniau oedd ar agor dan 03:00, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod yr Academi, Mirage, Peep a Skerries ar agor hyd at yr amser yma ar ddyddiau yn amrywio rhwng dydd Gwener a dydd Sul.

 

Holodd asiant yr ymgeisydd pryd derbyniwyd y gwrthwynebiad gan Iechyd yr Amgylchedd. Ymatebodd y Rheolwr Trwyddedu gan nodi y derbyniwyd y gwrthwynebiad ar 17 Tachwedd 2015.

 

Manylodd yr Arolygydd Brian Kearney ar wrthwynebiad Heddlu Gogledd Cymru i’r TEN, nododd y prif bwyntiau canlynol:

     Y cynhaliwyd cyfarfod efo’r ymgeisydd ar 26 Hydref 2015 yng ngorsaf heddlu Bangor lle trafodwyd digwyddiadau, amseroedd, gofynion o ran diogelwch, a’r angen am deledu cylch cyfyng (TCC) oedd yn gweithredu’n llawn gan recordio ac y dylid cadw’r recordiad am 31 diwrnod. Ychwanegwyd y nodwyd y broses o ran delio ac aflonyddwch a’r angen i hysbysu’r heddlu o ddigwyddiad o’r fath. Nodwyd dymuniad yr heddlu i’r eiddo ymuno â Pubwatch.

     Pwysleisiwyd yn dilyn y cyfarfod roedd yr ymgeisydd yn hollol ymwybodol o’i chyfrifoldebau;

     Manylwyd ar ddigwyddiad treisgar yn yr eiddo rhwng 01:00 a 02:00 ar y 1af o Dachwedd 2015. Nodwyd na gynigwyd cymorth cyntaf na chyngor i'r dioddefwr;

     Bod y system TCC ddim wedi recordio'r digwyddiad gan nad oedd yr ymgeisydd wedi talu £9.99 ar gyfer cadw'r recordiad ar system cwmwl;

     Y gwrthwynebir y cais ar sail atal trosedd ac anrhefn ac o ran iechyd a diogelwch;

     Nodwyd bod yr ymgeisydd efo profiad o ran rhedeg clwb cymdeithasol ym Maesgeirchen, Bangor ond bod rheoli sefydliad yng nghanol y ddinas yn hollol wahanol;

     Dim ffydd yn yr ymgeisydd i adrodd ar ddigwyddiad o'r math nac ychwaith yn y system TCC i recordio.

 

Rhoddwyd cyfle i'r aelodau ofyn cwestiynau i'r gwrthwynebydd, mewn ymateb nododd cynrychiolydd Heddlu Gogledd Cymru:

     Nad oedd staff yr eiddo yn ymwybodol os oedd y system TCC yn gweithio a bod gofyn i rywun fod yn bresennol i lawrlwytho'r recordiad gan mai dim ond 24 awr oedd gan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

CAIS RHYBUDD DIGWYDDIAD DROS DRO SAFONOL 2 pdf eicon PDF 241 KB

342, STRYD FAWR, BANGOR, GWYNEDD LL57 1YA

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar hysbysiadau gwrthwynebu a dderbyniwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ac Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd i Rybudd Digwyddiad Dros Dro (TEN) a dderbyniwyd ar 12 Tachwedd 2015 gan Mrs Susan Roberts mewn perthynas â chynnal gweithgareddau trwyddedig arfaethedig yn 342 Stryd Fawr, Bangor am 2 diwrnod fel a ganlyn:

18 Rhagfyr 2015 o 11:00 – 03:00

19 Rhagfyr 2015 o 11:00 – 23:59.

 

Nodwyd mai 2 opsiwn oedd ar gael i’r Is-bwyllgor, sef:

     Gwneud dim a chaniatáu i’r digwyddiad fynd yn ei flaen yn y modd a ddisgrifir yn yr hysbysiad digwyddiad dros dro; NEU

     I gyhoeddi gwrth-hysbysiad, h.y. i wrthod y digwyddiad yn unol â Rhan 105(2)(b) o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 os yw’r is-bwyllgor yn ystyried fod angen gwneud hynny er mwyn hyrwyddo un o’r amcanion Trwyddedu. 

 

Manylodd yr Arolygydd Brian Kearney ar wrthwynebiad Heddlu Gogledd Cymru i’r TEN fel y cais blaenorol gan ychwanegu er ei fod yn gwerthfawrogi bod yr ymgeisydd yn ymdrechu i weithredu yn unol â’r gofynion ei bryder nad oedd ganddi'r cefndir angenrheidiol i redeg clwb nos.

 

Manylodd Gwenan M. Roberts ar wrthwynebiad Iechyd yr Amgylchedd i’r TEN ar sail atal niwsans cyhoeddus fel y nodwyd o dan y cais blaenorol.

 

Nododd asiant yr ymgeisydd bod yr ymgeisydd yn berson addas a priodol i ddal TENS wrth ymgeisio am drwydded eiddo parhaol.

 

Cytunwyd i ddelio â’r cais yma fel y cais blaenorol sef bod y bocs darparu adloniant wedi ei reoleiddio o dan y pennawd gweithgareddau trwyddedig angen ei dicio ar y ffurflen gais.

 

6.

CAIS RHYBUDD DIGWYDDIAD DROS DRO SAFONOL 3 pdf eicon PDF 241 KB

342, STRYD FAWR, BANGOR, GWYNEDD LL57 1YA

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar hysbysiadau gwrthwynebu a dderbyniwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ac Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Gwynedd i Rybudd Digwyddiad Dros Dro (TEN) a dderbyniwyd ar 12 Tachwedd 2015 gan Mrs Susan Roberts mewn perthynas â chynnal gweithgareddau trwyddedig arfaethedig yn 342 Stryd Fawr, Bangor am 3 diwrnod fel a ganlyn:

25 Rhagfyr 2015 o 11:00 – 00:00

26 Rhagfyr 2015 o 11:00 – 03:00

27 Rhagfyr 2015 o 11:00 – 23:59.

 

Nodwyd mai 2 opsiwn oedd ar gael i’r Is-bwyllgor, sef:

     Gwneud dim a chaniatáu i’r digwyddiad fynd yn ei flaen yn y modd a ddisgrifir yn yr hysbysiad digwyddiad dros dro; NEU

     I gyhoeddi gwrth-hysbysiad, h.y. i wrthod y digwyddiad yn unol â Rhan 105(2)(b) o’r Ddeddf Trwyddedu 2003 os yw’r is-bwyllgor yn ystyried fod angen gwneud hynny er mwyn hyrwyddo un o’r amcanion Trwyddedu. 

 

Hysbysodd asiant yr ymgeisydd yr Is-bwyllgor y byddai’r oriau masnachu ar 25 Rhagfyr 2015 ond tan ddiwedd y prynhawn gyda defnydd o’r eiddo tan yr hwyr gan deulu a ffrindiau’r ymgeisydd.

 

Nododd Arolygydd Brian Kearney bod gwrthwynebiad Heddlu Gogledd Cymru i’r TEN fel y ceisiadau blaenorol.

 

Nododd Gwenan M. Roberts bod gwrthwynebiad Iechyd yr Amgylchedd i’r TEN ar sail atal niwsans cyhoeddus fel y nodwyd o dan y ceisiadau blaenorol. Ychwanegodd pryder y gwasanaeth o ran oriau ar 25 a 26 Rhagfyr ond ei bod yn croesawu clywed esboniad asiant yr ymgeisydd o ran 25 Rhagfyr.

 

 

Gadawodd y partïon perthnasol y cyfarfod.

 

Trafodwyd y cais gan aelodau’r Is-bwyllgor gan ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roddi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003 sef

 

·           Trosedd ac Anhrefn

·           Diogelwch y Cyhoedd

·           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

·           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon caniatáu i’r 3 digwyddiad fynd yn ei flaen yn y modd a ddisgrifir yn yr hysbysiadau digwyddiad dros dro yn unol â’r cais a’r pedwar amcan trwyddedu. Nodwyd fod yr Is-bwyllgor yn ymddiried y byddai’r system TCC yn weithredol. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu i’r 3 digwyddiad fynd yn ei flaen yn y modd a ddisgrifir yn yr hysbysiadau digwyddiad dros dro.