Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Dim i’w nodi.

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi.

3.

MATERION BRYS

.

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 42 KB

THE OLD MARKET HALL, STRYD Y PLAS, CAERNARFON

 

Ystyried y cais

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

1.            CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – THE OLD MARKET HALL, STRYD Y PLAS, CAERNARFON

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol. Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:         Mr David Williams (ymgeisydd) a Mr Edward Grant (Capita PLC - asiant yr ymgeisydd)

 

Eraill a fynychwyd:   Corrina Favento, Mandy Mathews a Cliff Roberts (preswylwyr cyfagos); Moira Duell-Parri (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd)

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am amrywiad i drwydded eiddo ar gyfer The Old Market Hall, Stryd y Plas, Caernarfon. Amlygwyd bod y ffurflen gais yn nodi bod natur y sefydliad wedi newid ers i’r busnes ddechrau yng Ngorffennaf  2014 a bod yr eiddo wedi cynnal sawl digwyddiad amrywiol o dan drefn Hysbyseb Digwyddiad Dros Dro. Natur  yr amrywiad arfaethedig yw ymestyn y gweithgareddau trwyddedig i gynnwys yr holl fathau o adloniant wedi ei rheoleiddio, ymestyn gwerthu alcohol a darparu lluniaeth hwyr y nos. Cyfeiriwyd at y tabl a oedd yn manylu'r amrywiad. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’r cais.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd nad oedd gan y Gwasanaeth Tân ac Achub unrhyw sylwadau ar y cais. Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd yn gwrthwynebu y cais, ond roeddynt yn cynnig amodau penodol i’w hychwanegu ar y drwydded. Adroddwyd bod yr Awdurdod Trwyddedu wedi derbyn cadarnhad gan yr ymgeisydd ei fod yn derbyn yr amodau hyn ac yn dymuno eu gosod ar y drwydded. Derbyniwyd tri gwrthwynebiad i’r cais gan breswylwyr lleol yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Atal Niwsans Cyhoeddus. Awgrymwyd un gwrthwynebydd nad oedd hysbyseb y cais wedi ei arddangos mewn lle amlwg, ond bod yr Awdurdod Trwyddedu yn fodlon bod yr hysbysebu yn cwrdd â’r rheoliadau perthnasol. Derbyniwyd hefyd un llythyr o gefnogaeth gan Cyngor Tref Caernarfon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag oriau agor sefydliadau cyfagos, nododd y Rheolwr Trwyddedu bod oriau trwyddedu sefydliadau cyfagos yn amrywio gydag amrediad o werthu alcohol hyd at 1am; chwarae cerddoriaeth hyd at 1am ac oriau cau hyd at 2am.

 

b)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·     Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·     Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·     Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·     Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·     Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

c)    Wrth ymhelaethu ar y cais nododd asiant ar ran yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr eiddo yn cael ei reoli yn gyfrifol

·         Y bwriad yw isafu unrhyw bryderon gan breswylwyr lleol a’u bod yn derbyn sylwadau a phryderon y gwrthwynebwyr

·         Bod y busnes yn cynnig lletygarwch ac adloniant

·         Bod yr eiddo yn cau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.