Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Linda Morgan (Aelod Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 251 KB BRYNFFYNNON,
LOVE LANE, DOLGELLAU, LL40 1RR Ystyried
y cais uchod Cofnod: 1.
CAIS AM AMRYWIAD I DRWYDDED EIDDO – Brynffynnon,
Love Lane, Dolgellau, LL40
1RR Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb
oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno
sylwadau uniongyrchol ar y cais. Wrth amlygu absenoldeb gwrthwynebwyr y cais,
gofynnodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Trwyddedu gadarnhau os oedd y gwrthwynebwyr
wedi derbyn llythyr yn nodi dyddiad ac amser y gwrandawiad. Mewn ymateb,
cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu bod llythyr wedi ei anfon at bob gwrthwynebydd gyda
thystiolaeth yn cefnogi hyn. Ar ran yr
eiddo: Mr
Steven Holt Ms
Debra Harries Mrs
Angela Lienz Mr
Bernhard Lienz a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adain Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn
manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Brynffynnon, Love
Lane, Dolgellau mewn perthynas â chyflenwi alcohol a dangos ffilmiau i
unigolion nad ydynt yn breswylwyr gwely a brecwast sydd yn aros ar yr eiddo,
ynghyd a’r hawl i weini lluniaeth hwyr y
nos i rai nad ydynt yn breswylwyr rhwng 23:00 a 01:00 mewn digwyddiadau
arbennig. Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Eglurwyd bod gan yr eiddo drwydded bresennol
ar gyfer gwerthu alcohol a dangos ffilmiau i breswylwyr yr eiddo yn unig.
Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno er mwyn denu cwsmeriaid, nad ydynt yn
breswylwyr i’r bwyty, a galluogi bod diodydd alcohol ar gael iddynt. Nodwyd bod swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu
gyda thystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y
Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd
yn argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd
yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod Cyngor Tref Dolgellau yn gefnogol i’r
cais a bod chwe llythyr wedi eu derbyn yn
gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, atal
trosedd ac anrhefn a diogelwch y
cyhoedd. Amlygwyd bod yr holl wrthwynebwyr yn cyfeirio sail eu pryderon am
anaddasrwydd y ffordd fynediad cul i gynnydd mewn traffig: pryder y byddai
cynnydd mewn ymwelwyr i’r eiddo yn creu sefyllfa lle na fyddai cerbydau
argyfwng yn cael mynediad i’r eiddo; bod yr eiddo o fewn ardal breswyl ddistaw
ac y byddai caniatáu'r drwydded yn cynyddu sŵn; bod potensial o gynnydd
mewn trosedd ac anrhefn b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu. ·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahoddwyd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded. ·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai c)
Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei
fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei
gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol: ·
Prif amcan y cais oedd gwerthu alcohol i rai nad
ydynt yn breswylwyr ·
Mai cynhwysedd yr ystafell yw 20 · Bod mannau parcio digonol yn y dref ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |