skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 256 KB

Y LLANGOLLEN, STRYD FAWR, BETHESDA, GWYNEDD, LL57 3AN

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:         Mr Joseph Barrett (ymgeisydd)

 

Aelod Lleol:               Cynghorydd Ann Williams (Ogwen)

 

a)    Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo o’r newydd ar gyfer Y Llangollen, Bethesda mewn perthynas â chyflenwi alcohol a chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio ar yr eiddo.

 

Amlygwyd bod gan yr eiddo drwydded yn y gorffennol, ac fe ildiwyd y drwydded gan Punch Taverns (y perchnogion ar y pryd) yn mis Tachwedd 2015. Yn flaenorol, roedd y gweithgareddau trwyddedig yn cynnwys cerddoriaeth fyw yn ogystal â cherddoriaeth wedi ei recordio.

 

Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad ynghyd a chymhariaeth y gweithgareddau trwyddedig i’r drwydded flaenorol.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod yr Aelod Lleol a Chyngor Tref Bethesda  yn gefnogol i’r cais, ond bod deunaw llythyr wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac anrhefn. Amlygwyd bod yr holl wrthwynebwyr yn cyfeirio sail eu pryderon at ymddygiad gwrthgymdeithasol cwsmeriaid a materion niwsans cyhoeddus megis sŵn a sbwriel, gan nodi bod llawer o broblemau wedi codi yn y gorffennol pan roedd yr eiddo o dan berchnogaeth a rheolaeth eraill.

 

b)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)    Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod problemau hanesyddol gyda’r sefydliad dros y 5 mlynedd diwethaf

·         Ei fod wedi buddsoddi a chanolbwyntio ar newid rhagolygon y sefydliad drwy adnewyddu ac ailddodrefnu’r dafarn a symud y byrddau pwl, y bwrdd dartiau a’r jiwc bocs oddi ar yr eiddo er mwyn creu bwyty.

·         Bydd 10 aelod o staff yn cael eu cyflogi (lleol)

·         Bod yr oriau cau yn caniatáu i’r eiddo reoli ymadawiad trefnus o bobl fel nad oes criw yn cronni ar y stryd ar ddiwedd noson

·         Bod bwriad creu 8 ystafell wely gydag ystafell ymolchi yr un uwchben yr eiddo fel gwesty -  hyn yn creu 4 swydd rhan amser ychwanegol

 

ch)   Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod wedi cytuno i argymhellion yr Heddlu a bod camerâu cylch cyfyng ynghyd ac offer recordio priodol wedi ei osod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.