skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 271 KB

Gŵyl Awyr Agored Eryri, Fferm Gwern Hefin, Llanycil, Bala, LL23 7YH

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Brian Welts (CTM Brand Events), Mr Will Johnson (CTM Brand Events) a Ms Nicola Meadley (Brand Event Ltd)

 

            Eraill a wahoddwyd:                Mr Ian Williams ( Heddlu Gogledd Cymru)

Mr Euron Thomas (Uwch Swyddog Iechyd Amgylchedd, Gwarchod y Cyhoedd – Cyngor Gwynedd)

                                                            Cynghorydd Elwyn Edwards – Aelod Lleol

 

 

a)                    Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Gŵyl Agored Eryri, Fferm Gwern Hefin, Llanycil, Y Bala gan Brand Events TM Ltd, 4, Vencourt Place, Llundain.

 

Gwnaed y cais mewn perthynas â chyflenwi  alcohol, chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio, cerddoriaeth fyw perfformiadau dawns, dangos ffilmiau a dramâu ynghyd ac unrhyw adloniant arall a chyflenwi lluniaeth hwyr y nos ar ddydd Gwener, Sadwrn a Sul. Amlygwyd y byddai’r Ŵyl yn cael ei chynnal dros un penwythnos yn flynyddol ar yr eiddo, petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu.

 

Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod pump o lythyrau / e-byst wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a diogelwch cyhoeddus. Tynnwyd sylw at y sylwadau a’r argymhellion a gyflwynwyd gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Tan ac Achub,  Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd a Swyddog Uned Bwyd ac Iechyd a Diogelwch, Iechyd Amgylchedd Cyngor Gwynedd.

 

Ategwyd bod y trefnwyr wedi bod mewn cysylltiad gyda’r ymatebwyr i geisio datrys y pryderon a nodwyd y byddai'r gerddoriaeth fyw yn dod i ben am 22:30; y byddai ffens diogelwch yn amgylchynu’r safle gyda goruchwyliaeth i sicrhau na fyddai neb sy'n mynychu’r Ŵyl yn tramwyo ar eiddo cyfagos. Amlygwyd ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi bod 4 allan o’r 5 gwrthwynebydd wedi tynnu eu sylwadau yn ôl yn swyddogol yn dilyn trafodaethau cymodi gyda’r ymgeisydd.

 

Cadarnhawyd bod Swyddog Iechyd a Diogelwch yn fodlon bod Cynllun Rheoli Digwyddiad  wedi ei gwblhau ac ategodd Uwch Swyddog Iechyd Amgylchedd bod sawl trafodaeth wedi eu cynnal ar faterion sŵn, gyda chytundeb i gynnwys amodau sŵn priodol yn y cais.

 

Nododd y Cadeirydd bod yr adroddiad yn un cynhwysfawr a diolchwyd i bawb am gydweithio i geisio datrys y pryderon. Mewn ymateb i sylw pam nad oedd Caeau Rhiwlas ar gael ar gyfer y digwyddiad (safle sydd wedi arfer a chynnal digwyddiadau mawr), amlygodd yr Aelod Lleol nad oedd y caeau ar gael oherwydd newid mewn dull amaethu.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.