skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Mr Jim Hughes (Gwasaneth Tan)

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 193 KB

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED EIDDO  - BELLE VUE, BANGOR, LL57 2EU

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO – BELLE VUE, FFORDD CAERGYBI, BANGOR

 

Ar ran yr eiddo:         Mr Christopher Jere, Bethany Shooman

 

Aelod Lleol:   Cyng. June Marshall

 

Eraill a fynychwyd:    Mr Ian Williams ( Heddlu Gogledd Cymru), Mrs Arfona Davies (Cymdeithas Bangor Uchaf / Preswylydd Lleol)

 

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)         Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais Mr Christopher Jere am drwydded eiddo ar gyfer Belle Vue, Ffordd Caergybi, Bangor. Yn unol â’r ffurflen gais, natur yr amrywiad arfaethedig oedd ymestyn ardal trwyddedadwy yr eiddo i gynnwys yr adeiladau allanol yn yr ardd gwrw i weithredu fel bar a bod yr  oriau cyflenwi alcohol yn yr ardd gwrw yr un fath a’r tŷ tafarn.  Yn ychwanegol bwriedid gostwng oriau agor y sefydliad o 08:00 - 01:30 dydd Llun i ddydd Sul i 09:00 - 01:30 dydd Llun i ddydd Sul.

 

Cyfeiriwyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar  amcan trwyddedu fel rhan o’i gais.

 

Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd bod sylwadau oddi wrth Heddlu Gogledd Cymru yn nodi  nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais ond yn dymuno bod y teledu cylch cyfyng (TCC) sydd wedi ei osod ar yr eiddo yn destun i amodau penodol TCC.  Derbyniwyd un gwrthwynebiad i’r cais oddi wrth breswylydd lleol lle awgrymwyd nad oedd yr ymgeisydd wedi hysbysebu y cais mewn man amlwg ar yr eiddo ac yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Diogelwch y Cyhoedd ac Atal Niwsans Cyhoeddus.  Ategwyd bod Swyddog Gorfodaeth yr Uned Trwyddedu wedi ymweld â’r eiddo ar 7 Gorffennaf 2015 i wirio bod yr hysbyseb wedi ei arddangos yn unol â’r rheoliadau.  Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn fodlon bod yr hysbysebion yn cwrdd â’r rheoliadau. 

 

b)         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

·         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

 

c)         Mewn ymateb i’r adroddiad gofynnwyd i’r Rheolwr Trwyddedu beth oedd diffiniad ‘gardd  gwrw’? Nodwyd bod yr ardd gwrw yn rhan o’r eiddo ac o fewn y ffin ac wedi ei gynnwys yn y drwydded gyfredol, ond bod y cais yn ymwneud â defnyddio’r adeilad yn yr ardd i werthu cwrw. O ran defnydd o ardal ysmygu nodwyd bod deddfwriaeth arall ar gyfer hyn. Yn ychwanegol, cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi dangos hysbyseb ar yr eiddo am y cyfnod priodol o 28 diwrnod.

 

ch)    Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a chadarnhaodd bod TCC o fewn yr adeilad wedi ei osod yn unol â gofynion yr  Heddlu ac yn weithredol. Nodwyd mai cais ydoedd i ffurfioli'r defnydd o’r adeilad tu allan er mwyn gwerthu alcohol, yn hytrach  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.