Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Kevin Morris Jones (Aelod
Lleol) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CAIS AM DRWYDDED EIDDO PDF 106 KB Rheilffordd
Y Wyddfa, Llanberis I ystyried
cais yr eiddo uchod Cofnod: Ar ran yr eiddo: Mr
Chris Jones a)
Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu
ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Rheilffordd Fynydd yr Wyddfa Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig
yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth
ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003
a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei
argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn
ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod 3 llythyr wedi ei derbyn yn
gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon y byddai’r gweithgareddau trwyddedig
arfaethedig yn tanseilio dau o’r amcanion trwyddedu - sicrhau diogelwch y
cyhoedd a diogelu rhag niwsans cyhoeddus. Mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau,
amlygwyd bod cyfarfod cyflafareddu wedi ei gynnal ar yr 20fed o Chwefror 2019 er mwyn i’r
gwrthwynebwyr drafod eu pryderon gyda’r ymgeisydd. O ganlyniad, cytunodd yr
ymgeisydd i gyfaddawd sylweddol gan gynnig newidiadau a derbyn amodau newydd ar
y cais. Adroddwyd bod y gwrthwynebwyr bellach wedi derbyn y cais a bod y cais
yn cael ei gyflwyno i’r Is Bwyllgor i gadarnhau'r newidiadau hynny yn ffurfiol. Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-: ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu. ·
Gwahodd
yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais ·
Rhoi cyfle i’r ymgynghorai
gyflwyno eu sylwadau ·
Gwahodd
deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r
sylwadau ·
Rhoi cyfle
i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y
drwydded. ·
Rhoi
cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn unol â’r amodau diwygiedig 1.
Cytunwyd i gyfyngu oriau gwerthiant alcohol yn y Trading Post i 09:00 tan
18:00 2.
Cytunwyd i werthu poteli
cwrw a gwirodydd ‘arbenigol’ yn unig
yn y Trading Post 3.
Cytunwyd i werthu alcohol i’w yfed oddi
ar yr eiddo
Trading Post yn unig. 4.
Dim cerddoriaeth wedi ei recordio
i’w chwarae o’r Trading Post nac y Maes Parcio ar
unrhyw adeg. 5.
Oriau gweithgareddau trwyddedig
ac amodau arfaethedig i aros yr
un fath a’r cais gwreiddiol ar gyfer Caffi
Gorsaf Llanberis a’r Siop Anrhegion Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor
ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb,
adroddiad y Swyddog Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar cynrychiolydd yr
ymgeisydd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd
hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u
mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o
dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef: i. Atal trosedd ac anhrefn ii. Atal niwsans cyhoeddus iii. Sicrhau diogelwch cyhoeddus iv. Gwarchod plant rhag niwed Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r 3 llythyr a dderbyniwyd
gan drigolion cyfagos yn mynegi pryderon
y byddai’r cais ar ei ffurf wreiddiol yn niweidio’r amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a sicrhau diogelwch
cyhoeddus. Yn gryno, codwyd pryderon y byddai caniatáu’r
cais gwreiddiol yn golygu bod y Trading Post yn benodol, · yn agos at ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |