skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Glyder Fawr, Swyddfeydd y Cyngor, Penrallt, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1BN. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan Mr Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 101 KB

2, MITRE PLACE, PWLLHELI, LL53 5HE

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

Ar ran yr eiddo:                     Mr Fatih Yilmaz a Mrs Mary Yilmaz

                                               

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer 2, Mitre Place, Pwllheli. Gwaned y cais mewn perthynas â darparu bwyd poeth fel lluniaeth hwyr yn nos i’w fwyta ar ac oddi ar yr eiddo. Amlygwyd bod perchnogion yr eiddo wedi dal trwydded eiddo gyda Chyngor Gwynedd ers 2005. Nodwyd bod trwydded eiddo gwerthu bwyd poeth gan yr eiddo yn y gorffennol ac nad yw’r oriau a nodwyd ar y cais yn wahanol i’r hyn a oedd wedi ei nodi ar y drwydded honno.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod 2 lythyr wedi ei derbyn yn gwrthwynebu’r cais oherwydd pryderon y byddai’r gweithgareddau trwyddedig arfaethedig yn tanseilio dau o’r amcanion trwyddedu - atal niwsans cyhoeddus ac atal trosedd ac anrhefn. Amlygwyd bod e-bost hwyr wedi ei dderbyn gan y Gwasanaeth Tân, ond nid oeddynt yn gwrthwynebu’r cais.

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeiswyr ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. Amlygwyd bod deilydd y drwydded flaenorol wedi ildio’r drwydded yn ystod y cyfnod roedd yr ymgeiswyr yn prynu’r eiddo

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Ei bod yn byw yn lleol ac yn manteisio ar y cyfle i brynu eiddo ei hunain

·         Mai ail leoli'r busnes oeddynt o stryd gyfagos

·         Bod ganddynt brofiad o redeg busnes

·         Cadarnhawyd y byddai Teledu Cylch Cyfyng ar gael

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ychwanegu drws cefn i’r eiddo nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda chymdogion a bod cynlluniau ar y gweill i ymestyn y to, cael drws ar gefn yr adeilad ac i ail ddylunio y tu mewn. Nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd ynglŷn ag ail gofrestru’r adeilad gan ei fod wedi cau ers dwy flynedd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryderon sbwriel a threfniadau casglu gwastraff, nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r dafarn gerllaw i geisio safle storio biniau. Nodwyd mai trafodaethau ar lafar oedd wedi eu cynnal ond bod disgwyl cadarnhad ffurfiol o’r drafodaeth ar e-bost. O ran cadw dalgylch y siop yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.