Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 95 KB

Ty Beechwood, Stryd y Bont, Dolgellau

 

I ystyried y cais

Cofnod:

TŶ BEECHWOOD, BRIDGE STREET, DOLGELLAU

 

Ar ran yr eiddo:                     Dean Hawkins  (Ymgeisydd)

                                                Llinos Rowlands (Cynllun Gwarchod Tafarndai / Perchennog Dylanwad Da)

                                               

Eraill a wahoddwyd:             Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

                                                Lis Williams (Heddlu Gogledd Cymru)

                                                Mark Mortimer (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Croesawyd Lis Williams i’r cyfarfod fel cynrychiolydd newydd Heddlu Gogledd Cymru gan y byddai Mr Ian Williams yn ymddeol o’r Heddlu. Diolchwyd i Mr Williams am ei wasanaeth a'i gefnogaeth a dymunwyd ymddeoliad iach a hapus iddo.

 

Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Tŷ Beechwood, Bridge Street, Dolgellau. Gwnaed y cais mewn perthynas ag eiddo ar gyfer siop drwyddedig a bar, drwy drawsnewid y llawr gwaelod. Y bwriad yw gwerthu alcohol oddi ar yr eiddo.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Amlygwyd, ers cyhoeddi’r adroddiad bod yr ymgeisydd wedi cytuno i oriau cyfyngedig ac felly ystyriwyd y cais fel un diwygiedig.  Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded. Tynnwyd sylw at un gwrthwynebiad a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori oedd yn mynegi pryder ar faterion gwrthgymdeithasol o ran sŵn, cwsmeriaid yn ysmygu tu allan ynghyd a materion glanweithdra y tu ôl i’r eiddo.

Nid oedd gan yr Heddlu na’r Gwasanaeth Tân wrthwynebiadau i’r cais ond roedd yr Heddlu wedi nodi sylwadau mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng. Roedd yr ymgeisydd hefyd wedi cytuno i amodau Adran Gwarchod y Cyhoedd o ran cyfaddawdu gyda’r oriau agor.

b)         Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Mai ar gyfer digwyddiadau arbennig e.e., Sesiwn Fawr fyddai’r amseroedd ansafonol

·         Ei fod yn derbyn yr amodau a gynigiwyd gan Adran Gwarchod y Cyhoedd a’i fod yn barod i gwtogi'r oriau agor

·         Bod bwriad i greu bar o safon fel rhywle i ymlacio ac nid creu awyrgylch tŷ tafarn. Creu rhywbeth gwahanol yn y dref fel bod modd cadw pobl yn lleol a chyfrannu at yr economi leol.

Ategwyd y sylwadau canlynol gan Llinos Rowlands

·         Bod cynlluniau’r fenter yn fanwl

·         Bod y fenter yn ychwanegiad da i’r dref

·         Byddai’r fenter yn cyflogi pobl  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.