skip to main content

Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Lis Williams (Heddlu Gogledd Cymru) a Carol Turner (preswylydd cyfagos)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 346 KB

Black Sheep, Lon Pont Forgan, Abersoch

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu’r cais

 

Cofnod:

Ar ran yr eiddo:        

 

Ms Heidi McKinnell (ymgeisydd)       

            Mr Dylan Evans (cynrychiolydd yr ymgeisydd)

           

Eraill a wahoddwyd:

           

Preswylwyr Cyfagos:

 

Margot Jones

Martin Turtle

Mike Parry ar ran Grahame a Les Oddy

Robert Kennedy

Einir Wyn – Clerc Cyngor Cymuned

Wyn Williams

Mark McClure

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Dewi Roberts

 

Adran Gwarchod y Cyhoedd:  Moira Duell Parry (Swyddog Iechyd yr Amgylchedd)

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 5 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Black Sheep, 1 Lon Pont Morgan, Abersoch. Gwnaed y cais mewn perthynas â gwerthu alcohol, darparu lluniaeth hwyr a cherddoriaeth wedi ei recordio gyda'r cyfan wedi ei ddarparu ar ac oddi ar yr eiddo

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol. Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ac amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod sawl gwrthwynebiad wedi ei dderbyn gan breswylwyr cyfagos a phryderon wedi eu cyflwyno gan Cyngor Cymuned Llanengan a’r Aelod Lleol.

 

Roedd y gwrthwynebiadau yn cyfeirio at bob un o’r amcanion trwyddedu. Awgrymwyd y byddai materion trosedd ac anrhefn yn deillio o ymddygiad gwrthgymdeithasol; cynnydd mewn ysbwriel a sŵn o ganlyniad i’r oriau arfaethedig; yr eiddo ger lôn brysur, diffyg palmant a diffyg parcio yn diystyru diogelwch y cyhoedd.

 

Adroddwyd nad oedd cytundeb wedi ei gyrraedd gyda’r ymgeisydd ac Adran Gwarchod y Cyhoedd o ran cyfaddawdu i gwtogi oriau defnydd allanol yr eiddo o ran chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio a darpariaeth alcohol, yn unol a mannau eraill yn y pentref. Amlygwd bod yr ymgeisydd wedi diwygio’r cais i gyfarch pryderon o ran defnydd tu allan i’r eiddo ar gyfer cwsmeriaid, gydag alcohol a cherddoriaeth hyd at 21:00 yn hytrach na 23:00. Er hynny, roedd yr Adran yn parhau i wrthwynebu’r cais ar sail bod yr ardal yn un preswyl a bod busnesau tebyg gyda llecynnau allanol wedi cyfyngu eu horiau mewn mannau eraill yn y pentref.

 

Argymhellwyd fod y Pwyllgor yn gwrthod y cais yn unol â’r hyn a amlygwyd gyda’r ymgynghoriad, ac yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003. 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i'r Heddlu

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded a’r ymgynghorai

b)         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd:

·      Bod yr adeilad, yn y gorffennol wedi cael ei ddefnyddio fel lle bwyta -  y cais yn un  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.