Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatgan o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 194 KB

PANT YR ARDD,  TREGARTH, BANGOR, LL57 4PL

 

Ystyried y cais uchod

Cofnod:

CAIS AM AMRYWIAD TRWYDDED EIDDO – PANT YR ARDD, TREGARTH, BANGOR

 

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Tudor Owen . Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd yn bresennol

 

Ar ran yr eiddo:         Mr Kenneth Richard Williams (yr ymgeisydd) a Mr Robert Williams

 

Aelod Lleol:               Cyng. Gwen Griffith

 

Eraill a fynychwyd:    Mr Huw Jones (Cyngor Cymuned Llandygai), Mr P a Mrs H Jones (trigolion cyfagos)

 

Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu.

 

a)    Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais Mr Kenneth Richard Williams am drwydded eiddo ar gyfer Pant yr Ardd, Tregarth, Bangor. Er mai cais ydoedd ar gyfer tŷ tafarn gyda gardd gwrw, tynnwyd sylw nad oedd cynllun yr eiddo a dderbyniwyd gyda’r ffurflen gais yn cynnwys lleoliad yr ardd gwrw. O ran gwybodaeth gefndirol, nodwyd bod trwydded eiddo wedi bodoli ar gyfer yr eiddo ers 24.11.2005 ond cafodd ei ildio 20.05.15. Cyfeiriwyd hefyd bod yr ymgeisydd wedi cynnwys camau priodol i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu fel rhan o’i gais ac yn dilyn trafodaethau gyda Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a’r Awdurdod Trwyddedu wedi cytuno i’r amodau sŵn ac i amodau teledu cylch cyfyng

 

b)    Yn dilyn cyfnod ymgynghori, nodwyd bod gwrthwynebiad i’r cais gan Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd ac yr Awdurdod Trwyddedu. Nid oedd sylwadau wedi ei derbyn gan Heddlu Gogledd Cymru ac nid oedd gwrthwynebiad gan y  Gwasanaeth Tân ac Achub. Yn ychwanegol, derbyniwyd pum gwrthwynebiad gan bartïon eraill yn seiliedig ar yr amcanion trwyddedu o Atal Trosedd ac Anrhefn ac Atal Niwsans Cyhoeddus. Prif bryderon y gwrthwynebwyr oedd cynnydd mewn sŵn, anrhefn, sbwriel a gweithgareddau trwyddedadwy fydd yn cael eu cynnig yn yr ardd gwrw.

 

c)    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

 

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

·         Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·         Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai.

 

Cyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i rannu eu sylwadau. Nodwyd hefyd bod yr Aelodau wedi cynnal ymweliad safle.

 

          ch)   Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno a'i fod eisoes wedi cytuno gyda’r amodau sŵn a theledu cylch cyfyng ac wedi gostwng rhai oriau agor. Mynegodd na fydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae tu allan i’r eiddo, yn y maes parcio/gardd gwrw, a phe bai eisiau cynnal digwyddiad trwyddedadwy yn y maes parcio/gardd gwrw yn y dyfodol, roedd yn ymwybodol o’r angen i wneud cais am drwydded ychwanegol. Roedd yr ymgeisydd yn barod i gydweithio gyda gofynion y gymuned drwy ystyried gostyngiad yn yr oriau a chau drysau a ffenestri i geisio atal sŵn.

 

d)    Cydnabuwyd llythyr a dderbyniwyd gan Mr Brazier

 

dd)  Mewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.