skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAIS AM DRWYDDED EIDDO pdf eicon PDF 90 KB

Canolfan Garddio Camlan, Siop Fferm a Chaffi, Dinas Mawddwy, Machynlleth

 

I ysytried y cais

Cofnod:

Canolfan Garddio Camlan, Siop Fferm a Chaffi, Dinas Mawddwy, Machynlleth

 

Ar ran yr eiddo:                     Mrs Lisa Allsop (Perchennog)

 

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Canolfan Garddio Camlan, Siop Ffarm a Chaffi, Dinas Mawddwy. Gwnaed y cais mewn perthynas ag eiddo sydd yn cynnwys siop fferm a chaffi yn gwerthu yn bennaf cynnyrch Cymreig, ffrwythau a llysiau. Y bwriad yw gwerthu alcohol ar ac oddi ar yr eiddo ynghyd a chynnal oddeutu deuddeg o ddigwyddiadau dros dro megis nosweithiau bwyty, te prynhawn a digwyddiadau siopa yn hwyr y nos.

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r mesurau hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Nodwyd bod sylw wedi ei dderbyn gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn awgrymu cynnwys amod i’r ymgeisydd leihau oriau sydd wedi eu datgan ar y ffurflen gais i 10:00 - 16:00 ar Ddydd Sul a Gwyliau’r Banc yn unol â Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Derbyniwyd sylw hefyd gan breswylydd cyfagos yn mynegi pryder o ran sŵn yr hwyr.

Argymhellwyd i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gytuno   i gydymffurfio ag amodau cynllunio sydd wedi ei gosod gan y Parc Cenedlaethol.

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Mai ar gyfer digwyddiadau arbennig (ee nosweithiau bwyty, digwyddiadau siopa yn hwyr y nos a the prynhawn) fyddai’r amseroedd ansafonol

·         Ei bod yn derbyn yr amodau a gynigiwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac yn barod i gwtogi yr oriau agor

·         Bod bwriad gwerthu cynnyrch Cymreig o safon yn y siop

·         Nad oedd bwriad gwerthu alcohol rhad

·         Bod modd rheoli'r sefyllfa parcio yn effeithiol. Bod parcio ychwanegol ar gael ar gyfer nosweithiau bwyty

 

c)            Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

d)         Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog          Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar yr ymgeisydd yn y gwrandawiad.   Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl         ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.