Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol
oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw
fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth
yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4,
Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn yn
unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc
wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn gallu bod
yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
y troseddau. Nododd nad oedd bellach yn berchen dryll na thrwydded dryll.
Amlygodd bod cwmni lleol wedi cynnig swydd iddo petai ei gais yn llwyddiannus. Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: • gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen gais yr ymgeisydd • sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad • adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau. Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Caernarfon (Ebrill 1999) ar ddwy
drosedd yn ymwneud a dryll yn groes i Ddeddf Drylliau Tan 1968. Am y troseddau
hyn cafodd ei ddedfrydu i gyfnod mewn sefydliad troseddwyr ifanc. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn
gan Lys Ynadon Manceinion (Medi 2001) am ddifrod
troseddol yn groes i adran 1 o’r Ddeddf Difrod Troseddol 1971. Cafodd ddirwy o £100.00 a gorchymyn i
dalu costau ac iawndal.
Ystyriwyd
paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002
yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob
collfarn, p’run ai ydynt wedi eu treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio. Mae paragraff 6.4 o’r Polisi yn nodi y bydd cais fel rheol yn cael ei
wrthod os oes collfarn sydd yn llai
na 10 mlynedd am drosedd yn ymwneud ‘a dryll yn ei feddiant’ Mae paragraff 6.5
yn dweud y bydd cais am drwydded fel
rheol yn cael ei wrthod lle mae collfarn lai na 3 mlynedd am ddirfod troseddol.
|