Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Croesawyd pawb
i’r cyfarfod gan y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Jones Williams. Cyflwynwyd y panel ar swyddogion i bawb oedd
yn bresennol. Derbyniwyd ymddiheuriad gan Sheryl Le Bon (Rheowr
Trwyddedu) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod:
Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod
yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd
cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel
canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Ystyried cais gan Mr A (copi ar wahân
i aelodau’r is-bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Cyflwynodd y
Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am
drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r
newydd. Nodwyd bod
datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno,
ac oherwydd bod troseddau perthnasol
i’r maes trwyddedu wedi eu cynnwys ar y datganiad,
gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, ac yn unol â’r
canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. b) Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais. Cydnabuwyd bod y troseddau a ddatgelwyd yn gywir
ond bellach yn rai hanesyddol. Nododd fod ganddo drwydded
yrru lan ers iddo lwyddo yn
ei brawf gyrru yn 2001. Amlygodd ei fod
yn deall bod ganddo ddyletswydd
fel gyrrwr tacsi i ofalu am
ei deithwyr a bod elfennau o gyfrinachedd i’w swydd. Roedd yn
barod i dderbyn hyfforddiant. Yn cefnogi cais Mr A roedd Perchennog Cwmni Tacsi lleol ac
fe gadarnhaodd ei fod yn
adnabod yr ymgeisydd ers rhai blynyddoedd. Nododd bod yr ymgeisydd yn berson cwrtais,
dibynadwy a gonest a bod swydd ar
gael i Mr A petai’r drwydded yn cael
ei chaniatáu. c) Cydnabuwyd dau lythyr o eirda oedd wedi
eu derbyn d)
Ymneilltuodd yr ymgeisydd a pherchennog y Cwmni Tacsi o’r
ystafell tra y bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais. ch) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y ffactorau canlynol ynghyd a gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd.’ 1. Bod
gan yr ymgeisydd gollfarnau blaenorol am droseddau yn
ymwneud ag yfed a gyrru a thrais. 2. Bod eglurhad yr ymgeisydd
am yr amgylchiadau
o gwmpas y collfarnau hynny yn dderbyniol 3. Bod y collfarnau am droseddau
hanesyddol (dros 10 mlynedd yn ôl)
ac wedi digwydd
tu allan i gofnod y canllawiau perthnasol. 4. Nad oedd yr ymgeisydd
wedi cronni unrhyw gollfarn am droseddau yn
ymwneud â gyrru ers derbyn trwydded yrru yn
2001. 5. Bod ei ddarpar gyflogwr
yn ymddiried ynddo fel darpar
gyflogai yn ei gwmni tacsis. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat a
chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio
preifat. Roedd yr Is Bwyllgor yn ddiolchgar i’r ymgeisydd am ei onestrwydd ac i’r
cyflogwr am ei gefnogaeth. Dymunwyd y
gorau i’r ymgeisydd yn ei swydd newydd. |