Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei
fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol
oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth
am unigolion penodol sydd â hawl i
breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd
cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n
gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid
cadw’r wybodaeth yn eithriedig COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad
oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn
gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu
Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini
prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr
unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y
cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod y
cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol ynghyd ag adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a
Cherbydau a thystysgrif feddygol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r
Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Mewn ymateb i gyflwyniad y swyddog trwyddedu, oedd yn nodi’r angen i’r
ymgeisydd ymhelaethu ar pam na fu iddo gydnabod trosedd yfed a gyrru ar ei
ffurflen gais am drwydded, amlygodd y swyddog trwyddedu mai camgymeriad oedd y
frawddeg yma yn yr adroddiad ac ymddiheurwyd am gamarwain yr is-bwyllgor. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan
roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ar ei drwydded a’i amgylchiadau
personol. Nododd bod y collfarnau yn rhai hanesyddol ac wedi digwydd mewn
cyfnod anodd yn ei arddegau. Amlygodd bod y gollfarn olaf wedi digwydd 37 o flynyddoedd
yn ôl ac ers y gollfarn honno yn 1985 ei fod wedi dilyn gyrfa ym myd gofal
plant ac oedolion gydag anghenion dysgu. PENDERFYNWYD bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar
gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r
datganiad DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd ·
Canllawiau'r
Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
Ffurflen feddygol yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Collfarn.1 : Ym Medi 1980, cafwyd yr ymgeisydd yn euog am ddwyn drwy
ladrata o siop yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968a.1. Roedd yr ymgeisydd yn 15
oed pan ddigwyddodd y drosedd a derbyniodd ddirwy o £25. Collfarn 2 : Ym mis Awst 1983 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o geisio lladrad
o anheddau yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968 a.9 (1)(a). Roedd yr ymgeisydd yn
18 oed pan ddigwyddodd y drosedd a derbyniodd orchymyn prawf dwy flynedd. Collfarn 3 : Ym mis Mawrth 1984 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o ddau achos o
ladrata o siop yn groes i'r Ddeddf Lladrata 1968 a.1 ;Torri
Gorchymyn Profiannaeth - Deddf Pwerau Llysoedd Troseddol 1973 a.6. Roedd yr
ymgeisydd yn 19 oed pan ddigwyddodd y troseddau a chafodd ei roi mewn canolfan
gadw am 21 diwrnod. Collfarn 4 : Ym mis Hydref 1984 ... view the full COFNODION text for item 5. |