Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol.
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol
oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw
fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth
yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A,
Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i
breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth
bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr
A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
y troseddau. Amlygodd ei fod yn hoff iawn o ddreifio ac wedi bod yn dreifio
lorïau ers 35 mlynedd. Nododd ei fod wedi cael cynnig swydd dreifio tacsi gyda
chwmni lleol. Nid oedd wedi ystyried dod a chynrychiolydd gydag ef i’r
gwrandawiad. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi
ystyried y canlynol: • gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a
Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen
gais yr ymgeisydd • sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad • adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd
yn datgelu collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol. Bod y gollfarn (a dderbyniwyd gan Lys Ynadon Porthmadog - Gorffennaf 1982) am
ddefnyddio iaith neu ymddygiad bygythiol, ymosodol neu sarhaus yn groes i adran
5 o’r Ddeddf Trefn Gyhoeddus 1936, yn ogystal ag ymosodiad ‘ABH’ yn groes i
adran 47 o Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861. Derbyniodd yr ymgeisydd
ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu costau o £3 am y drosedd trefn gyhoeddus, ac ar
gyfer y drosedd ABH cafodd ddirwy o £100. Tynnwyd sylw nad oedd ganddo gollfarn
arall ar gyfer troseddau o natur dreisgar. Ystyriwyd paragraff 6.5 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r y byddai cais fel
rheol yn cael ei wrthod pan fydd gan yr ymgeisydd un gollfarn am ABH sydd yn
llai na 3 mlwydd oed. Gyda’r gollfarn wedi digwydd dros 35 o flynyddoedd yn ôl,
roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y gollfarn yn sail dros wrthod y cais. Bod y gollfarn ( a dderbyniwyd gan Lys y Goron, Yr Wyddgrug - Mawrth 2017) am gyfres o droseddau amgylcheddol (2 gyhuddiad o gadw gwastraff a reolir mewn modd tebygol o achosi llygredd neu niwed i iechyd dynol yn groes i adran 33(1)(c) o Ddeddf Gwarchod yr Amgylchedd 1990, a 7 cyhuddiad yn groes i reoliad 38 o’r Rheoliadau Trwyddedau Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2010). Gyda’r cyhuddiad o dan Ddeddf 1990, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais
Ms B (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: ·
Bod yr unigolyn yn unigolyn
addas a phriodol ·
Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd ·
Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest ·
Bod plant a phobl ifanc
wedi'u diogelu ·
Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu ·
Bod y cyhoedd yn gallu bod
yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Ms B am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr
ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau.
Amlygodd bod y troseddau wedi digwydd yn ystod ei harddegau a'i bod bellach yn
fam i dri o blant ac yn ceisio'r gorau iddynt. Ategwyd ei bod wedi ysgrifennu
llythyrau yn ymddiheuro i bawb oedd wedi eu heffeithio gan ei hymddygiad yn
Ionawr 2004. Nododd ei bod wedi cael cynnig swydd rhan amser yn gyrru tacsi ar
gyfer cludo plant, yr henoed a’r anabl. Ei dymuniad oedd cynorthwyo a chynnig
gwasanaeth i’r cyhoedd. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i
aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn
cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy
lythyr i’r ymgeisydd gyda manylion am ei hawl i gyflwyno apêl. |