Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad
yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas
y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd
gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd
gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r
Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a
chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor
ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir
y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd
ar y DBS yn rhai hanesyddol a’i fod erbyn hyn wedi aeddfedu, wedi newid ei
ymddygiad ac yn rhiant. Ategodd ei fod wedi cael cynnig gwaith fel gyrrwr tacsi
petai ei gais yn cael ei ganiatáu. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd ch) Rhoddwyd
ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Yn Hydref 2010
cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd ar gyhuddiad o ddefnyddio
ymddygiad afreolus neu eiriau bygythiol / ymosodol / sarhaus sydd yn debygol o
achosi aflonyddwch, ofn neu ofid yn
groes i a5 (1) (A) Deddf Trefn Gyhoeddus
1986. Derbyniodd ryddhad amodol am 12 mis a gorchymyn i dalu £85.00 o gostau.
Ym mis Mawrth 2011 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Gwynedd ar
gyhuddiad o ymosodiad cyffredin yn groes i a39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988.
Derbyniodd orchymyn cymunedol o 6 mis, 2 fis o hwyrgloch (curfew?) gyda thag
electronig i aros mewn cyfeiriad yn ardal Abermaw bob dydd rhwng 19:00 - 07:00
a gorchymyn i dalu costau o £85.00. Yn Medi 2019
derbyniodd 3 pwynt cosb am ddigwyddiad o oryrru. Cadarnhaodd yr ymgeisydd ar
lafar bod y manylion ar y drwydded (a ddarparwyd gan yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau) yn gywir a’i fod wedi derbyn rhybudd cosb sefydlog gan yr
Heddlu am y digwyddiad hwn. Cadarnhaodd hefyd ei fod wedi goryrru mewn
digwyddiad pellach ar ddyddiad amhenodol, ond ei fod wedi dilyn cwrs
ymwybyddiaeth cyflymder mewn perthynas â'r digwyddiad hwnnw. Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |