Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd
allan o’r cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd. Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth
am gefndir y collfarnau a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai
hanesyddol a’i fod erbyn hyn
gyda theulu ac yn yrrwr
HGV a PSV profiadol. Ei fwriad oedd sefydlu
busnes i’w feibion. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
Tystysgrif meddygol yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ·
sylwadau ar lafar
gan yr ymgeisydd ch) Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol Yn Mai 1991 cafwyd yr ymgeisydd
yn euog gan
Lys Ynadon Bangor ar gyhuddiad o ddifrod troseddol (yn groes
i a1 Deddf Difrod Troseddol 1971), derbyn arian drwy
dwyll ( yn
groes i a15 Deddf Dwyn 1968) a lladrata (yn groes
i a1 Deddf Dwyn 1968). Derbyniodd cyfanswm dirywion o £275 a gorchymyn i dalu
£53.00 o iawndal a chostau
o £15 am dderbyn arian drwy dwyll. Yn Rhagfyr 1991 derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn
gan Lys Ynadon Caernarfon am gyhuddiad o ddifrod troseddol yn groes
i a1 Deddf Difrod Troseddol 1971. Derbyniodd ddirwy o £100 a gorchymyn i dalu
iawndal o £276.91. Yn Mai 1998 cafwyd yr ymgeisydd
yn euog gan
Lys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o fyrgleriaeth ddifrifol / treisgar yn groes i
a10 Deddf Dwyn 1968. Derbyniodd yr ymgeisydd
ddedfryd o 3 mlynedd o garchar. Yn Awst 2000 dyfarnwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys Ynadon Aberconwy ar gyhuddiad o fethu a darparu sampl prawf yn
groes i a7 Deddf Traffig Ffordd
1988. Derbyniodd ddirwy o
£200, gorchymyn i dalu costau o £35 a gwaharddiad rhag gyrru am 20 mis gyda’r dewis o leihau’r cyfnod cosb o 25% drwy gwblhau cwrs erbyn
Medi 2001. Yn Hydref 2001 cafodd yr ymgeisydd yn euog gan ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |