Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS COFNODION: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd
cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan
Mr A (copi arwahan i
aelodau’r Is bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd . COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ynghyd a datganiad personol yr ymgeisydd oedd yn rhan
o’i ffurflen gais. Adroddwyd nad oedd
collfarn ar yr adroddiad DBS ond bod rhybudd ar
y drwydded gyrru o ganlyniad i dderbyn 7 pwynt cosb. Roedd
yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb ar ei drwydded
a’i amgylchiadau personol. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd oedd
yn cynnwys datganiad personol ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Mawrth 2020 derbyniodd
yr ymgeisydd 3 pwynt cosb am achosi
(neu’n debygol o achosi) perygl oherwydd llwyth heb ei raffu
ar gefn lori fechan (CU50) Yng Ngorffennaf 2020 derbyniodd
yr ymgeisydd 4 pwynt cosb am yrru
tu hwnt i derfyn cyflymder ar ffordd
gyhoeddus (SP30) CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r
Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn
addas a phriodol i ddal trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi
ei fod yn
berson addas a phriodol.
Mae paragraff 2.4 yn nodi
pan fydd ymgeisydd wedi'i gael yn
euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny,
ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw. Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn ... view the full COFNODION text for item 5. |