Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf
Llywodraeth Leol 1972. Mae’r
paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am
unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus
sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n
gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o
blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd
cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais Mr A (copi arwahan i
aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Penderfyniad: Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol, adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu
Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Mewn ymateb i’r adroddiad, gofynnwyd i’r ymgeisydd pam
roedd wedi nodi ‘na’ ar ei
ffurflen gais mewn ateb i gwestiwn oedd yn holi os oedd ganddo unrhyw
gollfarnau, blaenorol, rhybuddion neu unrhyw gyhuddiadau yn yr arfaeth. Nododd yr ymgeisydd nad oedd wedi
ystyried bod digwyddiad 2007 yn ‘gofnod troseddol’ ac roedd yn
ymddiheuro dros gamddeall y cwestiwn. Mewn ymateb i ddiffyg cyfeiriad at y collfarnau moduro yn yr adroddiad
oedd wedi arwain at dderbyn 6 pwynt cosb, nododd
y Swyddog Trwyddedu bod 6 pwynt yn cael
ei ystyried fel mater ymylol er yn derbyn bod
paragraff 13.3 o’r polisi yn nodi
6 pwynt fel cyfanswm disgwyliedig at ddibenion polisi. Ategodd bod y collfarnau
hyn angen eu hystyried wrth ddod i benderfyniad. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y pwyntiau cosb ar ei drwydded,
cefndir i gollfarn 2007 a’i amgylchiadau personol. Nododd fod digwyddiad 2007 yn gamgymeriad, yn ddigwyddiad hanesyddol, teuluol. Ategodd ei fod
yn gweithio fel goruchwyliwr a bod ganddo nifero
gyfrifoldebau yn y gymuned leol lle
mae angen iddo ymddwyn yn
broffesiynol. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Rhagfyr 2007cafwyd yr ymgeisydd
yn euog o ddau gyfrif o ymosodiad
oedd yn achosi
gwir niwed corfforol (ABH) sydd yn groes i’r
Ddeddf Troseddau Corfforol Yn Medi 2020 derbyniodd gollfarn
moduro a 3 pwynt cosb (SP30) am dorri terfyn cyflymder
ar ffordd gyhoeddus Yn Mawrth 2022 derbyniodd gollfarn moduro a 3 pwynt cosb (SP30) am dorri terfyn cyflymder ar ffordd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |