Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD COFNODION: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol
gan ei fod yn debygol y datgelir
gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd
ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd
cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT Penderfyniad: COFNODION: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r
cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn yn
fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol ac adroddiad yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn
argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais. Roedd trwydded
yrru'r ymgeisydd yn drwydded lân. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg yr ymgeisydd i nodi ei golfan ar
y ffurflen gais ac nad oedd cyfeiriad
at hyn yn yr adroddiad (er bod Canllawiau Cenedlaethol IOL yn nodi hyn
fel mater difrifol), nododd y Rheolwr Trwyddedu bod ymgeiswyr o dro i dro yn
camddeall yr hyn sydd angen ei
nodi ar y ffurflen gais gan ystyried mai collfarnau / arnodiadau gyrru neu gollfarnau
diweddar sydd angen eu cofnodi. Ategwyd, gyda chynnydd
yn y nifer o geisiadau sydd yn cael eu cyflwyno
ar y wefan, bod llai o gyfle
i ymgeiswyr holi swyddogion,
ac felly yn rhoi cyfle
i’r ymgeisydd ymhelaethu ar y mater yn yr is-bwyllgor. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu
ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir
y gollfarn a’i amgylchiadau personol. Nododd ei ddymuniad
o gael swydd y byddai’n rhoi incwm
ychwanegol iddo a swydd fyddai’n codi hyder yn
ei allu i gyfathrebu gyda’r cyhoedd. Ategodd nad oedd wedi
cynnwys y gollfarn ar y ffurflen gais gan fod cyfnod o dair
blynedd wedi mynd heibio ac
roedd dan yr argraff nad oedd angen
datgelu collfarn hanesyddol. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd
yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. Wrth gyrraedd eu penderfyniad,
roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat
a Cherbydau Hacni Cyngor
Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad
DBS ac adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau ·
sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol Cefndir Yn Chwefror 2014 cafwyd yr ymgeisydd yn euog o Ddinistrio neu Ddifrodi eiddo (gwerth yr eiddo £5000 neu lai o dan Ddeddf Difrod Troseddol 1971 yn unig), yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971, a.1(1). Bu iddo dderbyn ‘rhyddhad amodol’ ynghyd a gorchymyn i dalu costau £85, iawndal o £30 a ... view the full COFNODION text for item 5. |