Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Cofnod:

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni / hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â Pholisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

       Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

       Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

       Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

       Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

       Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

       Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r ‘materion eraill’ sydd yn gysylltiedig ag addasrwydd unigolyn i fod yn yrrwr cerbyd hacni/hurio preifat

 

Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais a hynny oherwydd nad oedd ymddygiad yr ymgeisydd mewn gwrthdrawiad diweddar yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig gan yrrwr tacsi.

 

Dangoswyd fideo TCC oedd yn tystiolaethu’r gwrthdrawiad.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais gan roi gwybodaeth am gefndir y gwrthdrawiad ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Nododd bod yr ymgeisydd wedi bod yn yrrwr tacsi dibynadwy ers 2010 ac nad oedd unrhyw gwyn wedi ei dderbyn ynglŷn â’i yrru. Eglurwyd, er i’r ymgeisydd adael lleoliad y ddamwain, roedd wedi gwneud hynny am resymau dealladwy ac wedi cysylltu gyda’i gyflogwr i ymdrin â’r digwyddiad.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pham nad oedd yr Heddlu wedi dwyn achos yn erbyn yr ymgeisydd, nodwyd er bod yr Heddlu wedi ymateb i’r digwyddiad, cafwyd cadarnhad drwy lythyr na fyddai gweithred bellach. Ategwyd, er nad oedd yr Heddlu wedi mynd ar achos yn bellach bod gan yr Is-bwyllgor, yn unol â Pholisi Trwyddedu’r Cyngor, hawl i ystyried addasrwydd person i fod yn yrrwr tacsi.

 

PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·     Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·     Adroddiad yr Adran Drwyddedu

·     Ffurflen gais yr ymgeisydd

·     Datganiad DBS

·     Adroddiad Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau

·     Diddymiad Trwydded Gyrrwr

·     Tystiolaeth Teledu Cylch Cyfyng - TCC

·     Sylwadau llafar gan gynrychiolydd yr ymgeisydd

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Cefndir

 

Yn Awst 2024 cyflwynwyd rhybudd i’r ymgeisydd o dan adran 61 Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 oedd yn diddymu trwydded gyrru tacsi'r ymgeisydd yn ddi-oed ar sail tystiolaeth TCC o wrthdrawiad.

 

Roedd gan yr ymgeisydd droseddau gyrru oedd yn pontio dros 10 mlynedd, gydag un mân drosedd traffig yn arwain at 3 pwynt oedd yn dal i fodoli ar ei drwydded am oryrru

 

CYMALAU PERTHNASOL Y POLISI

 

Ystyriwyd paragraff 1.5 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r os na fydd ymgeiswyr yn datgelu unrhyw gollfarnau; rhybuddion; hysbysiadau cosb, gorchmynion neu geryddon blaenorol ar eu ffurflen gais, gan gynnwys unrhyw achosion llys yn yr arfaeth neu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.