Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

 

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais. Amlygodd ei fwriad o gyflogi'r ymgeisydd petai'r drwydded yn cael ei chaniatáu gan gynnig hyd at 30awr yr wythnos iddo. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i rannu gwybodaeth am gefndir y troseddau ac amlygodd mai camddealltwriaeth oedd y prif reswm dros ei gamgymeriad. Cadarnhaodd bod ganddo drwydded yrru gyfredol lawn.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

            Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Yn dilyn collfarn gan Lys Ynadon De Ynys Môn (Medi 2000) am un digwyddiad o drais ABH derbyniwyd dedfryd o wasanaeth yn y gymuned a gorchymyn i dalu iawndal a chostau. Yn unol â pharagraff 6.5 o bolisi’r Cyngor  bydd cais yn cael ei wrthod os bydd llai na 3 blynedd wedi pasio ers derbyn collfarn o drais ABH. O ystyried bod y gollfarn yma wedi digwydd dros 16 mlynedd yn ôl, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd yn disgyn o fewn gwaharddiad cymal 6.5 ac felly nid yn sail i wrthod y cais.

 

Yn dilyn collfarn gan Lys Ynadon De Ynys Môn (Rhagfyr 2003) am un cyhuddiad o ymddygiad meddw ac afreolus derbyniwyd dirwy a gorchymyn i dalu costau. Nid yw polisi’r Cyngor yn cyfarch trosedd o’r fath yn benodol, fodd bynnag amlygwyd bod cymal 17.1 o’r polisi yn nodi bod gofyn i 12 mis basio ers y gollfarn. O ystyried bod y gollfarn yma wedi digwydd 13 mlynedd yn ôl, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd yn disgyn o fewn gwaharddiad cymal 17.1 ac felly nid yn sail i wrthod y cais.

 

Yn dilyn collfarn gan Lys Ynadon Ynys Môn (Mawrth 2009) am un cyhuddiad o ddefnyddio cerbyd heb yswiriant  (Chwefror 2009) derbyniwyd 7 pwynt cosb a gorchymyn i dalu dirwy, gordal dioddefwr a chostau. Ni chafodd yr ymgeisydd ei wahardd rhag gyrru. Yn unol â pharagraff 12.2 o’r polisi ystyrir y drosedd  fel un moduro difrifol ac y dylai 6 mis basio ers derbyn y gollfarn. O ystyried bod y gollfarn yma wedi digwydd 8 mlynedd yn ôl,  roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na ddylai’r gollfarn yma fod yn sail i wrthod y cais.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.