skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

          Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Amlygodd bod y troseddau yn rhai hanesyddol a'i fod bellach wedi sefydlu busnes llwyddiannus yn cyflogi dau berson. Nododd ei fod yn berson cyfrifol o gymharu â’i flynyddoedd cynnar ac nad oedd wedi troseddu ers dros 12 mlynedd. Ychwanegodd ei fod yn gwirfoddoli fel Marsial Rali Cymru ac wedi cwblhau achrediad diogelwch.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

           gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

           ffurflen gais yr ymgeisydd

           sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

           adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Bod cyfres o gollfarnau (Ebrill 1990) wedi eu datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd yn cynnwys troseddau gyrru, megis, yfed a gyrru, gyrru heb ofal, gyrru tra wedi ei wahardd, gyrru heb yswiriant a dwy drosedd traffig. O ganlyniad, cafodd ei ddedfrydu i 6 mis o garchar am y drosedd yfed a gyrru, dedfryd o 6 mis ar gyfer gyrru heb ofal (yn rhedeg ar yr un pryd) a 4 mis o garchar am y gwaharddiad (hefyd yn rhedeg ar yr un pryd). Cafodd hefyd ei wahardd rhag gyrru am 5 mlynedd.

 

Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y collfarnau yn gyfystyr â throseddau Yfed a Gyrru a Throseddau Traffig Difrifol oedd yn unol â pharagraffau 11 a 12 o bolisi'r Cyngor. Wrth ystyried paragraff 11.2 oedd yn nodi y byddai’n annhebygol rhoi trwydded i ymgeiswyr sydd a mwy nag un gollfarn am yrru neu fod yn gyfrifol am gerbyd dan ddylanwad alcohol, oni bai bod 10 mlynedd wedi mynd heibio, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon nad oedd y troseddau yn sail i wrthod y cais oherwydd bod cyfnod o 22 mlynedd wedi pasio ers adfer y drwydded yrru.

 

Yr un oedd y farn ynglŷn â’r collfarnau gyrru heb ofal, gyrru tra wedi ei wahardd, gyrru  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

·         Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

·         Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

·         Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

·         Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

·         Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

·         Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Nododd bod rhai o’r troseddau yn hanesyddol, arwahan i un o ymosodiad yn Mehefin 2017. Ymhelaethwyd ar amgylchiadau'r ymosodiad a nodwyd bod yr ymgeisydd yn cyfaddef ei fod wedi gwneud camgymeriad. Er yn ymwybodol o’r drosedd roedd wedi bod yn agored a gonest wrth gyflwyno’r cais. Nodwyd  nad oedd tebygolrwydd y byddai yn ail droseddu a bod cael gwaith yn gyfle iddo wella ansawdd ei fywyd a darparu ar gyfer ei blant. Gofynnwyd i’r panel rhoi ystyriaeth lawn i’r sefyllfa ac awgrymwyd  mai canllaw yn unig oedd y polisi ac felly bod modd gwyro i gyrraedd y penderfyniad cywir. 

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Bod cyfres helaeth o gollfarnau  wedi eu datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd oedd yn cynnwys troseddau (rhwng 1990 a 1998) am ddifrod troseddol, troseddau gyrru, codi cynnwrf, lladrad ac ymosodiad cyffredin. Roedd yr Is Bwyllgor o’r farn bod nifer o’r collfarnau hyn yn berthnasol i droseddau lladrad gyda’r un mwyaf diweddar wedi ei wneud yn 1996. Wrth ystyried paragraff 8.2 o’r polisi a bod y troseddau hyn yn rhai hanesyddol, nid oedd yn sail i wrthod y cais.

 

Yr un oedd y farn ynglŷn â’r collfarnau hanesyddol gyrru a thrais lle ystyriwyd paragraffau 12 a 6.5 o’r polisi.

 

Roedd yr Is Bwyllgor er hynny yn amlygu pryder wrth ystyried collfarn o ymosod ac aflonyddu (Mehefin 2017) lle derbyniodd yr ymgeisydd, o dan adran 2 o’r Ddeddf Gwarchod rhag Aflonyddu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.