skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd cynrychiolydd (a darpar gyflogwr) yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir troseddau yr ymgeisydd. Amlygodd bod y troseddau yn rhai hanesyddol a bod yr ymgeisydd yn derbyn ei fod wedi gwneud camgymeriadau yn y gorffennol ond bellach yn canolbwyntio ar fagu a chefnogi ei deulu. Er bod ganddo swydd lawn amser, nodwyd bod angen swydd hyblyg arno i dreulio amser a chefnogi ei fab oedd yn mynychu sesiynau hyfforddi peldroed ym Manceinion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn a fyddai’r cyflogwr yn fodlon cyflogi person gyda throseddau yn ymwneud ag anonestrwydd, amlygodd y byddai yn barod i roi cyfle iddo.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

           gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

           ffurflen gais yr ymgeisydd

           sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y gwrandawiad

           adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ieuenctid Bangor (Mawrth1995) am ladrad ac ymosodiad cyffredin. O ganlyniad cafodd orchymyn gwasanaeth cymunedol. Derbyniodd gollfarn gan  Lys Ieuenctid Bangor (Chwefror 1996)  am ymosodiad cyffredin ac affräe. O ganlyniad cafodd orchymyn gwasanaeth cymunedol, gorchymyn i dalu iawndal o £50.00 a chostau o £150.00. Derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Bangor (Medi 1999) am fod yn feddw ​​ac yn afreolus. Cafodd ddirwy o £35.00 a gorchymyn i dalu costau o £65.00. Derbyniodd gollfarn gan Lys Ynadon Conwy (Mai 2008) am ddefnyddio geiriau sarhaus ac ymddygiad bygythiol gyda bwriad i achosi ofn neu gymell trais, ac ymosodiad cyffredin. Ar gyfer y troseddau hyn, cafodd orchymyn cymunedol, cyrffew 3 mis a gorchymyn i dalu costau o £60.00.

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

 

Cofnod:

Croesawodd y Cadeirydd pawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

·         Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

·         Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

·         Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

·         Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

·         Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

·         Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Amlygodd bod y troseddau yn rhai hanesyddol ac wedi digwydd yn ystod ei arddegau. Roedd yn cyfaddef iddo wneud pethau gwirion. Bellach roedd yn gwneud gwaith gwirfoddol yn y gymuned ac amlygodd ei gymydog nad oedd y troseddau yn adlewyrchiad o’i gymeriad erbyn hyn.

 

PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

·         gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gymydog yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.


Derbyniodd yr  ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Leek (Mai 1988) am gyhuddiad o ladrad cerbyd a thri o fân droseddau traffig. O ganlyniad cafodd ddirwy o £260.00, gorchymyn i dalu costau o £30.00, a’i ddiarddel rhag gyrru am 6 mis. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Leek (Tachwedd 1988) am gyhuddiad o gymryd cerbyd heb awdurdod, tra wedi ei ddiarddel, gyrru heb yswiriant a gyrru cerbyd dan ddylanwad alcohol. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Leek (Mawrth 1989) am ddau drosedd o ddifrod troseddol.  Cafodd orchymyn prawf 2 flynedd a gorchymyn talu iawndal o £111.00. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Dwyrain Dorset am yrru cerbyd o dan ddylanwad alcohol. Cafodd ddirwy o £200.00, gorchymyn i dalu costau o £55.00 a'i ddiarddel rhag gyrru am 3 blynedd. Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn gan Lys Ynadon Dwyrain Dorset (Chwefror 2002) am fod yn feddw ​​ac yn afreolus. Cafodd rhyddhad amodol o 6 mis a gorchymyn i dalu costau o £55.00.

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.