Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni
dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4,
Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol
oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw
fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac
yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth
yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg
a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod
yn ystod y drafodaeth ar yr
eitemau canlynol gan ei fod yn
debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd
bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes
unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu
gwybodaeth bersonol am yr unigolion
nac yn gofyn
am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus
o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn
gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried
cais Mr A (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Croesawodd y Cadeirydd
bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas
a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r
cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl
anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn
hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y drosedd a hefyd ei amgylchiadau
personol. Nododd Mr A bod ei ymddygiad
allan o gymeriad ac nad oedd
yn berson treisgar. Roedd yn edifar am
yr hyn a ddigwyddodd a'i fod wedi cael
ei gythruddo ers peth amser gan y dioddefwr. Ategodd bod ganddo gwmni
tacsis o safon, ei fod yn
cyflogi gyrwyr lleol a’i flaenoriaeth
yw cadw’r busnes. Dangoswyd y fideo
i’r Is Bwyllgor a’r Cyfreithiwr gyda’r ymgeisydd yn egluro'r digwyddiad. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell
tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod
y cais. PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd. Wrth wneud
eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: • Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio
Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ • ffurflen gais yr ymgeisydd • sylwadau
llafar, dogfennau, lluniau a gyflwynodd yr ymgeisydd yn
ystod y gwrandawiad • llythyrau geirda a dderbyniwyd yn cefnogi cais yr
ymgeisydd • adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu
collfarnau. Rhoddwyd ystyriaeth
benodol i’r materion canlynol. Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ffurfiol gan Heddlu Gogledd Cymru (Mai 2018) ar gyhuddiad o
ymosod ar berson yn groes i adran 39 o’r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988.
Ystyriwyd
paragraff 2.3 o’r Polisi lle cyfeirir at rybuddion ffurfiol. Mae paragraff 6 o’r Polisi yn cyfarch
troseddau o drais a pharagraff 6.2 yn nodi y bydd cais
lle mae ymgeisydd
wedi ei gael
yn euog o drosedd yn ymwneud
â thrais yn annhebygol o gael trwydded hyd
nes ei fod
yn rhydd rhag collfarn o’r
fath am 3 blynedd o leiaf. Mae paragraff 6.5 o’r Polisi yn nodi y bydd cais am drwydded fel rheol yn cael ei wrthod os oes gan yr ymgeisydd fater i’w ystyried (gan gynnwys rhybuddion) am ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |