skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma’n berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw’r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. Fel canlyniad, mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i ddatgelu.

 

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. 

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod y digwyddiadau treisgar yn rhan o’i orffennol a’i fod bellach yn rhedeg cwmni tacsi. Ategodd nad oedd y collfarnau wedi eu trafod yn ystod ei gais blaenorol am drwydded a bod disgwyl am wrandawiad a phenderfyniad wedi golygu ei fod wedi colli gwaith. Nododd nad oedd cwynion wedi dod i law am ei wasanaeth

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         GofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

 

   ch)    Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn ym Mehefin 2004 gan Lys Ynadon Caernarfon am drosedd o  ymosodiad cyffredinol yn groes i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988. Cafodd orchymyn i dalu dirwy o £50 ac iawndal o £100. Derbyniodd gollfarn ym Mawrth 2006 gan  Lys Ynadon Sir Ddinbych am drosedd o guro yn groes i adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. Derbyniodd hefyd gollfarn am ddefnyddio geiriau bygythiol, ymosodol/sarhaus oedd yn debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod yn groes i Ddeddf Trefn Cyhoeddus 1986.  Cafodd orchymyn cymunedol a gorchymyn goruchwylio am 12 mis yn dilyn y digwyddiad ynghyd a gorchymyn i dalu iawndal o £75, costau o £350. Ym Mehefin 2018 derbyniodd 6 pwynt cosb ar ei drwydded gyrru am dorri gofynion rheoli cerbyd, ffôn symudol ayyb.

 

    d)     Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.