Rhaglen a chofnodion
Lleoliad: Ystafell Dwyryd, Uned 2b, Parc Busnes Eryri, Minffordd, Penrhyndeudraeth, LL48 6LD. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Peter Read. Nodwyd ei fod wedi
derbyn llawdriniaeth yn ddiweddar ac anfonwyd dymuniadau am wellhad buan ato |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Mae’r paragraff yma yn
berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol
sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion
yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn
eithriedig. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan
4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan
sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am
ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r
wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais
gan Mr A (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am
gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Amlygodd bod collfarn 1988 yn un
a ddigwyddodd pan oedd yn ei arddegau ac nad oedd wedi bod mewn unrhyw fath o
drwbl ers hynny. Ategodd nad oedd collfarn 1989 yn berthnasol iddo ef ac fe
gyflwynodd lythyr gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
(dyddiedig 26.9.19) yn cadarnhau hynny. Nododd hefyd y byddai tystysgrif
ddiwygiedig yn cael ei anfon ato. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a
phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor
Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ch) Ym Medi 1988 canfuwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys
Ynadon Porthaethwy ar ddau gyhuddiad - un o ymosod yn achosi niwed corfforol yn
groes i adran 47 Deddf Troseddau Corfforol 1861, ac un cyhuddiad o affräe yn
groes i adran 3 Deddf Trefn Gyhoeddus 1986. Cafodd ddirwy o £400.00 a gorchymyn
i dalu costau o £47.00. d) Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor
lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol
gael ei wahardd rhag cael trwydded, ond bydd disgwyl iddo fod yn rhydd rhag
unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir yn y Polisi, a dangos
tystiolaeth ei fod yn unigolyn addas a phriodol i ddal trwydded. Mae
cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd i brofi ei fod yn berson addas a phriodol. Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais
gan Ms B (copi arwahan i aelodau’r
Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud
yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd.
Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod
canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r
nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol • Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest • Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu • Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio
preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i
ymhelaethu ar ei chais a rhoi
gwybodaeth am gefndir y drosedd a’i hamgylchiadau
personol. Amlygodd bod y drosedd wedi digwydd
o ganlyniad i ‘fod yn y lle
anghywir ar yr amser anghywir’.
Nododd bod ei theulu yn rhedeg
cwmni tacsi a'i bod wedi cael
cynnig gwaith i gynorthwyo gyda’r
busnes dros y penwythnosau. Ymneilltuodd yr ymgeisydd
o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor
drafod y cais. b) PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson
addas a phriodol ar gyfer trwydded
gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat
gyda Chyngor Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen gais yr ymgeisydd ·
sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd
yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ch) Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd
gan Heddlu Gogledd Cymru (Mehefin 2015) am un drosedd o guro (battery) yn groes i
adran 39 Deddf Cyfiawnder Troseddol 1988. d) Mae
paragraff 2.2 o Bolisi’r
Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson
sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd
i brofi ei
fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.3 yn nodi bod rhybuddion yn cael eu
cynnwys fel ‘materion eraill i’w hystyried’ Ystyriwyd paragraff 4.5 sydd yn nodi bod y Gorchymyn
Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn, p’run
ai ydynt wedi eu treulio o dan
Ddeddf 1974 neu beidio. Mae adran 6 o’r Polisi yn cyfarch troseddau o drais. Ym mharagraff 6.1 nodir, gan fod gyrwyr trwyddedig yn dod i gysylltiad agos ar cyhoedd yn rheolaidd y byddai is-bwyllgor yn mabwysiadu safbwynt cadarn at y rhai hynny sydd â throseddau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT I ystyried cais gan Mr C (copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig) Cofnod: Hefyd
yn bresennol : Owain Williams (Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd –
swyddog cyfrifol am arwain yr erlyniad Medi 2016) ac Alun Merfyn Roberts
(Swyddog Gorfodaeth Gwarchod y Cyhoedd - arsylwi) a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor
Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth
ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nôd o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau: • Bod
yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol • Nad
yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd • Bod
y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest • Bod
plant a phobl ifanc wedi'u diogelu • Bod
pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu • Bod
y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig. Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad
ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr C am drwydded gyrru cerbyd
hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r
cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am
gefndir y troseddau a’i amgylchiadau personol. Mynegodd ei fod wedi bod drwy
gyfnod anodd yn ddiweddar gyda thor priodas, ei fab wedi bod mewn damwain
ddifrïol a marwolaeth un o’i frodyr. Nododd,er nad oedd yn chwilio am esgus bu
iddo adael i bethau lithro o ran gweinyddu a rhedeg ei fusnes tacssi. Ategodd
ei fod yn yrrwr da a'i fod yn dymuno dychwelyd i Ogledd Cymru i weithio.
Dadleuodd na ddylai gael ei feirniadu ar un camgymeriad ac yntau wedi bod yn
yrrwr tacsi difai. Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais. b) PENDERFYNWYD nad oedd yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd. c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor
wedi ystyried y canlynol: ·
Gofynion
‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’ ·
ffurflen
gais yr ymgeisydd ·
sylwadau
llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd yn ystod y gwrandawiad ·
sylwadau llafar a gyflwynodd y
swyddog gorfodaeth yn ystod y gwrandawiad ·
adroddiad
yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS ch) Derbyniodd yr ymgeisydd gollfarn (Mehefin
1979) gan Lys Ieuenctid Lerpwl ar un cyhuddiad o
ddwyn, yn groes i Adran 1 Deddf Lladrata 1968. Derbyniodd ryddhad amodol am 12
mis (collfarn 1). Yn mis Awst 1984 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys
Ynadon Wirral ar un cyhuddiad o ddwyn o
gerbyd yn groes i Ddeddf Lladrata 1968. Cafodd ddirwy o £50.00 a gorchymyn i
dalu iawndal o £12.00 (collfarn 2). Yn mis Tachwedd 1986 cafwyd yr ymgeisydd yn euog gan Lys Ynadon Birkenhead ar ddau gyhuddiad
o hawlio budd-dal plant drwy dwyll, yn groes i adran 11 Deddf Budd-dal Plant
1975. Derbyniodd ddirwy o £60.00, a gorchymyn i dalu costau o £30.00 ac iawndal
o £ 8.00 (collfarn 3).
|