skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gwyrfai - Pencadlys Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan yr ymgeisydd

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan y wasg ar cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf LLywodraeth Leol 1972.Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma . O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Amlygodd y Swyddog Trwyddedu bod cais wedi dod i law gan yr ymgeisydd i ohirio’r gwrandawiad gan nad oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd ymrwymiadau gwaith.

 

PENDERFYNWYD gohirio’r gwrandawiad fel bod modd i’r ymgeisydd fod yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno ei gais.