Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Ystafell 2, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, Gwynedd. LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

 

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

 

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

 

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraffau 12 ac 13, Rhan 4, Atodiad 12 A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.  Mae’r paragraffau yma yn berthnasol oherwydd bod gan yr unigolion dan sylw'r hawl i breifatrwydd ac nad oes unrhyw fudd cyhoeddus sy’n gofyn am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion nac yn gofyn am eu hadnabod.  O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus o gadw’r wybodaeth yn eithriedig yn gorbwyso’r budd cyhoeddus o’i datgelu.

 

5.

CAIS AM DRWYDDED HACNI/HURIO PREIFAT

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is-bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

a)    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd y byddai'r penderfyniad yn cael ei wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau ar y meini prawf wrth ystyried cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:

 

           Bod yr unigolyn yn unigolyn addas a phriodol

           Nad yw'r unigolyn yn fygythiad i'r cyhoedd

           Bod y cyhoedd wedi'u diogelu rhag pobl anonest

           Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu

           Bod pobl ddiamddiffyn wedi'u diogelu

           Bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus wrth ddefnyddio cerbydau trwyddedig.

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Ms A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor wrthod y cais.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd a’i darpar gyflogwraig i ymhelaethu ar y cais a rhoi gwybodaeth am gefndir y collfarnau ac amgylchiadau personol yr ymgeisydd. Eglurodd yr ymgeisydd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai hanesyddol ac wedi digwydd pan oedd yn mynd drwy gyfnod anodd yn ei harddegau. Ategodd ei bod gyda phlentyn ei hun erbyn hyn ac eisiau gosod esiampl dda a chael sefydlogrwydd yn ei bywyd. Nododd darpar gyflogwraig yr ymgeisydd ei bod yn ymwybodol o gefndir Ms A, ond bod ganddi ffydd ynddi  ac yn barod i roi cyfle iddi. Ategwyd ei bod wedi derbyn geirda gan gyngyflogwr Ms A fel gofalwr mewn cartref plant.

 

b)    PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

c)    Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS

·         sylwadau ar lafar gan yr ymgeisydd a’i darpar gyflogwr

 

ch)  Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol

 

Derbyniodd yr ymgeisydd rybudd ym Mehefin 2003 gan Heddlu Gogledd Cymru am ymosodiad a achosodd niwed corfforol i berson arall yn groes i Ddeddf Troseddau yn erbyn y Person 1861. Ym Medi 2004 derbyniodd gollfarn gan Lys Ieuenctid Conwy am drosedd yn gysylltiedig â chymryd cerbyd heb awdurdod sydd yn groes i Ddeddf Lladrata 1968. Cafodd orchymyn wedi ei gyfeirio am 5 mis a gorchymyn i dalu costau o £20. Yn Mai 2006 derbyniodd yr ymgeisydd ddwy gollfarn gan Lys Ieuenctid Gwynedd - un cyhuddiad o wrthsefyll neu rwystro person oedd yn cynorthwyo heddwas, ac un o ymosod ar heddwas, yn groes i Ddeddf Yr Heddlu 1996. Derbyniodd Orchymyn Cynllun Gweithredu am 3 mis ar gyfer y naill drosedd ynghyd a gorchymyn i gwblhau gweithgaredd cymunedol a gorchymyn penodol o 10 awr i wneud yn iawn am ei hymddygiad. Yng Ngorffennaf 2015 derbyniodd rybudd arall am ddirfod i eiddo oedd yn groes i Ddeddf Difrod Troseddol 1971.

 

Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd i berson  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.