Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Haf Williams (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Claire Armisted (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Jonathan Morgan (Cynrychiolydd Ysgolion Arbennig), Rhys Howard Hughes (Cyngor Sir Ynys Môn), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Karen Evans (Cyngor Sir Ddinbych) a Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 81 KB (copi wedi
ei atodi) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar y 11 Medi 2019 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD AR DDEILLIANNAU 2019 PDF 76 KB Alwyn Jones i gyflwyno adroddiad ar berfformiad ar draws Gogledd Cymru gan
gydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Penderfynwyd derbyn yr adroddiad fel model ar gyfer adrodd i
bwyllgorau craffu o ran y cyd-desun rhanbarthol a pherfformiad lleol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr egwyddorion o ran
sut y bydd GwE yn adrodd ar berfformiad wedi eu cymeradwyo eisoes. Ychwanegwyd
fod yr adroddiad yn amlinellu’r cefndir a’r cyd-destun mewn perthynas â’r
newidiadau cenedlaethol ar sut yr adroddir ar berfformiad a'i fod yn egluro’r
materion a godwyd yn y datganiad ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cymdeithasol
Llywodraeth Leol Cymru ac Estyn. Mynegwyd ei fod yn rhoi trosolwg rhanbarthol o ddeilliannau
GwE ond y bydd dadansoddiad lleol yn cael ei wneud i bob awdurdod hefyd. Nodwyd
nad yw’r data yn derfynol ar hyn o bryd ac y bydd gwaith yn cael ei wneud i’w
gwblhau erbyn mis Ionawr. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Croesawyd fformat newydd yr adroddiad. ¾ Pwysleisiwyd yr angen i sicrhau fod y wybodaeth yn cael ei rhannu â phawb a’i fod yn cael ei ddefnyddio yn gywir. ¾ Pwysleisiwyd mai newid mewn diwylliant yw hwn a'i fod yn daith o ganolbwyntio ar y disgyblion yn hytrach na’r canlyniadau. Ychwanegwyd fod angen pwysleisio hyn a bod gwaith pellach angen ei wneud. ¾
Nodwyd fod angen sicrhau fod yr un negeseuon yn
cael ei rannu ar draws y rhanbarth. |
|
Adroddiad
Arwyn Thomas sydd yn
amlinellu adnoddau a chwmpas presennol y gwasanaeth rhanbarthol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai dechrau trafodaeth yw pwrpas yr
adroddiad. Mynegwyd ei fod yn amlygu fod dwy elfen i’r gyllideb - yr elfen
graidd ac agenda Llywodraeth Cymru. Mynegwyd fod yr adroddiad yn esbonio beth
mae GwE yn ei wneud ac yr amrediad eang o grantiau sydd yn cael ei dderbyn gan
GwE. Ategwyd fod dull monitro ar gyfer pob un o’r grantiau a bod angen pwyso ar
Lywodraeth Cymru er mwyn ail edrych ar hyn. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd ei bod yn agoriad llygaid ac yn rhoi
syniad i bobl beth yn union mae GwE yn ei wneud. ¾
Nodwyd efallai fod angen ffigyrau gada rhai o’r
grantiau er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth. ¾
Pwysleisiwyd fod angen edrych ar y grantiau a’r
gwaith o’u monitro – bydd angen trafodaeth bellach ar hyn. |
|
CYLLIDEB GwE 2019-20 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 PDF 120 KB Arwyn
Thomas a Dafydd Edwards i ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad
ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2019/20. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyniwyd
yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi nad oes llawer o newid wedi bod ers chwarter cyntaf
2019/20. Nodwyd mai’r prif newid yw’r arbedion i’w darganfod gan fod y
Cydbwyllgor bellach wedi cymeradwyo strategaeth barhaol i wireddu arbedion.
Nodwyd fod amcangyfrif gorwariant net yn erbyn y gyllideb ond y bydd modd
defnyddio balansau GwE ar gyfer mantoli hyn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. |
|
CYNLLUN BUSNES 2019-20 - MONITRO CHWARTER 2 PDF 104 KB Arwyn
Thomas i gyflwyno Adroddiad Monitro Chwarter 2 - Cynllun Busnes Lefel 1
i’r Cyd-bwyllgor Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad monitro ar gyfer Chwarter 2 a gofynnwyd am
drafodaeth pellach ar y defnydd o blatfform G6 a’i ddiwylliant. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad a thywyswyd drwy’r amcanion a blaenoriaethau
GwE. Nodwyd o ran Amcan Strategol 6, fod GwE yn parhau i ddisgwyl am y setliad
drafft cyn symud ymlaen i gyflawni adolygiad o’r gyllideb a’r gweithlu. |
|
STRATEGAETH RHANBARTHOL Y GYMRAEG PDF 94 KB Alwyn Jones i gyflwyno strategaeth ‘Datblygu’r
Gymraeg mewn Addysg yn rhanbarth Gogledd’ i'r Cyd-bwyllgor i’w gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y ddogfen ‘Datblygu’r Gymraeg mewn Addysg yn rhanbarth
Gogledd Cymru’. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cynllunio strategaeth ar gyfer Rhanbarth y Gogledd yn cynnig cryn her,
gan fod amrywiaeth sylweddol o fewn y rhanbarth.
Ategwyd fod y strategaeth yn gosod amcanion a chamau gweithredu ac yn
rhoi cyfeiriad i’r rhanbarth. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Croesawyd yr adroddiad gan nodi cefnogaeth i’r 6
maes sydd yn cael ei blaenoriaethu.
Holwyd beth fydd yn deillio o’r strategaeth a sut y bydd yn datblygu. ¾
Amlygwyd y bydd yn broses anodd gan fod
gwahaniaethau dros y rhanbarth a phwysleisiwyd yr angen i beidio dyblygu.
Ychwanegwyd mai strategaeth tymor hir yw’r strategaeth a holwyd os oes digon o
athrawon Cymraeg. ¾
Mynegwyd fod cael cefnogaeth rhieni yn mynd i fod
yn holl bwysig er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o bwysigrwydd a buddion
defnyddio’r iaith. |
|
GDD / PMG - DIWEDDARIAD PDF 72 KB Arwyn Thomas i gyflwyno diweddariad i’r
Cyd-bwyllgor ar y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer dysgwyr sy'n derbyn gofal
a dysgwyr a arferai dderbyn gofal. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Nodwyd a derbyniwyd
yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai GwE sydd yn gyfrifol am waith
gweinyddu a chydlynu cyffredinol y grant. Mynegwyd fod y broses yn dryloyw a
fod yr adroddiad yn dangos yn glir sut mae’r arian yn cael ei ddyrannu. Mynegwyd fod yr
adroddiad yn nodi’r proses ynghyd â gofynion, telerau a chanllawiau’r grant.
Nodwyd fod y gyllideb yn £970,000. |
|
ADOLYGIAD O GYNNYDD GwE - ADRODDIAD STEVE MUNBY PDF 96 KB Arwyn
Thomas i gyflwyno adroddiad ‘Adolygiad o gynnydd GwE’ gan Steve Munby i’r Cyd-bwyllgor Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNIAD Nodwyd a derbyniwyd yr adroddiad TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod Steve Munby flwyddyn yn ôl wedi cynnal adolygiad ar
gyfeiriad GwE. Bu iddo ail ymweld â'r rhanbarth yn ddiweddar i
werthuso'r gwasanaeth ymhellach. Ychwanegwyd
o edrych ar y gwelliannau a gyflwynwyd y llynedd, fod cynnydd wedi ei wneud o
ran datblygu diwylliant GwE er mwyn gweithio er lles pawb o fewn y system.
Mynegwyd fod y cyfnod wedi bod yn anodd a heriol ond fod yr adroddiad yn un
calonogol. |