Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL - 27 TACHWEDD 2019 PDF 79 KB (copi wedi
ei atodi) |
|
CATEGOREIDDIO CENEDLAETHOL PDF 85 KB Alwyn Jones i gyflwyno gwybodaeth i aelodau’r Cyd-Bwyllgor am y broses Categoreiddio Cenedlaethol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad gan fynegi
pryder am y drefn yn genedlaethol. Gofynnwyd i’r Aelodau’r Cyd-Bwyllgor i godi
eu pryderon gyda’r Gweinidog Addysg yng Nghyfarfod Cymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru. Gofynnwyd hefyd i’r Bwrdd Rheoli
i gynnal adolygiad ar y drefn yn lleol. |
|
CYLLIDEB GwE 2019-20 - ADOLYGU CHWARTER 3 PDF 121 KB Arwyn Thomas a Dafydd Edwards i ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar
adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2019/20. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad. |
|
CYLLIDEB GwE 2020-2021 PDF 95 KB Dafydd Edwards i gyflwyno Cyllideb Sylfaenol GwE 2020/21. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2020/21
fel y cyflwynwyd yn Atodiad 1 o’r adroddiad. |
|
GRANT GWELLA ADDYSG - ADOLYGIAD PDF 108 KB Arwyn Thomas i geisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor i gynnal
adolygiad o’r Grant Gwella Addysg Penderfyniad: Penderfynwyd: 1. Oedi wrth ystyried adolygu
dosbarthiad cyllid Cyfnod Sylfaen y Grant Gwella Addysg nes bydd Llywodraeth
Cymru wedi crisialu ei sefyllfa ar drosglwyddo grant y cyfnod sylfaen, neu
beidio, yn y pendraw. 2. Cynnal adolygiad o ddosbarthiadau cyllid Effeithlonrwydd
Ysgol y Grant Gwella Addysg 3. Adolygu defnydd presennol o elfennau’r Grant nad ydynt wedi’u
dirprwyo. |
|
GRANT GWELLA ADDYSG 2020-2021 PDF 85 KB Arwyn
Thomas i geisio cymeradwyaeth y Cyd-bwyllgor o ran y Grant Gwella Addysg
ar gyfer 2020/21 Penderfyniad: Penderfynwyd gohirio'r penderfyniad er mwyn cael arweiniad
gan Brif Weithredwyr y rhanbarth ar ariannu adnoddau ychwanegol ar gyfer
Cynllun Gweithredu Ôl-Arolwg Wrecsam ac yna bydd cyfarfod brys yn cael ei
gynnal i wneud penderfyniad ar y mater. |
|
CYNLLUN BUSNES 2019-20 - ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 3 PDF 104 KB Arwyn
Thomas i gyflwyno Adroddiad Monitro Chwarter 3 - Cynllun Busnes Lefel 1
i’r Cyd-bwyllgor Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad monitro ar gyfer chwarter 3. |
|
CYNLLUN BUSNES GwE 2020-2023 - BLAENORIAETHAU RHANBARTHOL PDF 94 KB Arwyn Thomas i gyflwyno
Cynllun Busnes drafft a’r blaenoriaethau rhanbarthol ar gyfer 2020 – 2023 i’r
Cyd-bwyllgor i’w cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y Cynllun Busnes drafft a’r blaenoriaethau
rhanbarthol ar gyfer 2020-2023. |
|
Arwyn
Thomas i gyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd y Gofrestr Risg. |
|
GWEITHIO GYDA'N GILYDD I WELLA YSGOLION PDF 76 KB Arwyn
Thomas i gyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor. Penderfyniad: Penderfynwyd cynnal adolygiad o rôl presennol arweinydd
craidd GwE a systemau rhannu gwybodaeth rhwng Awdurdodau Lleol a GwE. |
|
CALENDR CYFARFODYDD 2020-21 PDF 78 KB Arwyn
Thomas i gynnig dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd 2020/21. Penderfyniad: |