Lleoliad: Cyfarfod Rhithriol
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Graham
Boase (Cyngor Sir Ddinbych) a Karen Evans (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam). Croesawyd y Cynghorydd Mared Eastwood i’w
chyfarfod cyntaf o Gydbwyllgor GwE. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Chwefror, 2023 fel rhai cywir. COFNODION: Cadarnhawyd fod y cofnod a gyflwynwyd o’r
cyfarfod ar y 15fed o Chwefror, 2023 yn gywir. |
|
CYFRIFON GwE 2022-2023 - ALLDRO REFENIW I ddiweddaru aelodau’r Cydbwyllgor ar adolygiad
ariannol terfynol cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23. Mae yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr
amrywiadau ariannol sylweddol, gydag Atodiad 1 yn cynnwys y wybodaeth ariannol
gyflawn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y diweddariad ar adolygiad ariannol terfynol
cyllideb GwE am y flwyddyn gyllidol 2022/23, gan nodi yr amrywiadau ariannol
sylweddol. COFNODION: Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Bennaeth Adran Cyllid,
ble nododd nad Cyfrifon Terfynol yw y rhain ond darlun mwy eglur o hanes
ariannol GwE. Nododd bod gofyn i’r
Cydbwyllgor wneud tri phenderfyniad : Nodi a derbyn Cyfrif Incwm a Gwariant
Refeniw Cydbwyllgor GwE am 2022/23. Cymeradwyo trosglwyddiad ariannol o gronfa
wrth gefn GwE i ariannu gorwariant o £138,871 yn 2022/23, ar ôl ystyried y prif
wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant. Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol
2022/23 fydd yn sail i’r datganiadau ariannol statudol GwE am y flwyddyn sydd
i’w cynhyrchu, eu hardystio a’u cyhoeddi gan Adran Gyllid yr awdurdod lletya
cyn y dyddiad statudol o 31 Mai. Cyfeiriwyd at yr adroddiad oedd yn manylu yr
amrywiadau ariannol, gan nodi bod GwE mewn sefyllfa o orwariant o dan rhai
penawdau, tanwariant o dan eraill gyda rhai penawdau yn eithaf agos i’w lle. Nodwyd bod tanwariant bychan o ran costau
gweithwyr. Ar y llaw arall, roedd
gorwariant dan y pennawd Eiddo, a hynny yn bennaf oherwydd bod llai o incwm
wedi ei dderbyn o ddefnydd adeiladau na’r hyn oedd yn y gyllideb, gan nad oedd
rhentu adeiladu wedi ail-gychwyn i’r graddau disgwyledig. Nodwyd bod cludiant hefyd mewn sefyllfa o
danwariant. Roedd gorwariant ar rhai
prosiectau penodol, ond mewn gwirionedd roedd hyn yn deillio o ddefnyddio
balansau oedd wedi cronni. Holodd, nododd a chwestiynodd y Cydbwyllgor
fel a ganlyn : Cadarnhawyd bod grantiau wedi eu rhannu gydag
ysgolion ac o hynny y bydd canlyniadau yn cael eu cyflawni. Cadarnhawyd bod arian dysgu proffesiynol yn
fwriadol wedi ei roi yn ôl i’r ysgolion oherwydd oblygiadau y cwricwlwm newydd,
gan gadarnhau bod yr arian yn rhoi sail gychwynnol i ysgolion. PENDERFYNWYD Derbyn y diweddariad ar adolygiad ariannol terfynol cyllideb GwE am y
flwyddyn gyllidol 2022/23, gan nodi yr amrywiadau ariannol sylweddol. |
|
CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG I gyflwyno'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) diwygiedig i'r Cyd-Bwyllgor ei gymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC)
diwygiedig. COFNODION: Cyflwynwyd yr Adroddiad Cynllun Ariannol
Tymor Canolig (CATC) gan Bennaeth yr
Adran Cyllid, gyda chais i’r Cydbwyllgor ei gymeradwyo. Nodwyd bwriad y
Cynllun i geisio edrych ymlaen mewn
cyfnod ansefydlog, gan amlinellu y materion ariannol fydd yn wynebu GwE dros y
tair blynedd nesaf. Mae Tabl 4.11 yn nodi Effeithiau Cronnol ac
yn gosod y senario. Fel y gwelir, yn
ystod 23/24 adnabyddir y senario orau, gydag arbed ariannol o £102,000. Atgoffwyd y Cydbwyllgor nad yw Cytundeb
Soulbury yn wybodus ar hyn o bryd, ac efallai y bydd angen ôl-ddyddio’r cynnydd
cyflog hyd at Medi 2022. Ar y pegwn arall, nodwyd ei bod yn anodd iawn
edrych ar 24/25 heb wybod beth sydd gan y dyfodol i gynnig ac mae y senario
gorau ar gyfer 24/25 fyddai dim rhagor o doriadau. O ran gwerth am arian, arfarnu a dal
effaith, cadarnhawyd ei bod yn ofynnol i osod cyllideb gytbwys, gan edrych am
werth am arian a pharatoi ymlaen llaw, a
theimlwyd bod y papur yn cydnabod y sefyllfa ac yn cynnig datrysiad. Holodd, nododd a chwestiynodd y Cydbwyllgor
fel a ganlyn : Nodwyd ei bod yn ddogfen ddefnyddiol iawn ac
y byddai yn ddefnyddiol edrych ar y toriadau hanesyddol mae GwE wedi
ymgymryd (a grybwyllir yn Her Ariannol
yr adroddiad). Un sialens yw ystyried
beth yw senario ystyrlon tra yn ceisio gwerth am arian ac effaith, ac mae gwaith
yn parhau ar hyn. Teimlwyd bod gan GwE y
cryfder o weithio mewn partneriaeth, ac
nad oeddynt eisiau eu cyfyngu i doriadau yn unig. Yr allwedd yw gweledigaeth glir ac
arweinyddiaeth glir a chroesawyd y cyd-ddatrysiad. Nodwyd y pryder bod y ddogfen yn son am
sialensiau o ddifrif. Teimlwyd bod y
ffigyrau yn siarad trostynt eu hunain, gyda chyllidebau wedi eu casglu a
chwestiynwyd onid oes angen i’r Cydbwyllgor siarad gyda y Llywodraeth? Yn sgil hyn, cyfeiriodd un Aelod at yr
ad-daliad cyfraniad pensiwn oedd Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Wrecsam wedi ei
dderbyn fel credyd un-tro a chwestiynwyd pryd fydd y gronfa bensiwn yn cael ei
hail-brisio? Cadarnhaodd Pennaeth Cyllid yr Awdurdod
Lletyol bod gwahaniaeth rhwng Cynllun Pensiwn Gwynedd a Chynllun Pensiwn
Clwyd. Cadarnhawyd mai lleihau y
cyfraniad, yn hytrach na rhoi ad-daliad, sydd wedi digwydd yn achos GwE. Diolchwyd am yr adroddiad a nododd un Aelod
bod y sefyllfa yn peri pryder, yn enwedig yn sgil bod y maes wedi bod drwy
’Lymder Un’ eisoes. Atgyfnerthodd y sylw
bod yn rhaid pwyso ar y Llywodraeth ar bob cyfle posib, neu ni fydd modd symud
ymlaen heb fuddsoddiad. Cadarnhawyd bod
y maes addysg angen mwy o gyllid, a nodwyd er y byddai yn fuddiol gosod achos
i’r Llywodraeth, bod Llywodraeth Cymru yn ddibynnol ar Lywodraeth y DU, gan mai
penderfynu ar ddefnydd yr arian mae Llywodraeth Cymru. Nodwyd yr angen i drafod rhai syniadau yn
aeddfed, a herio gwariant Llywodraeth Cymru felly. Cyfeiriwyd at gyfarfod diweddar gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â phwysau cyllidebol ar Awdurdodau Lleol, ac o hynny pwysau ar yr ysgolion. Adroddwyd bod Aelodau yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd, ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2022-23 GwE Cyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE 2022-2023 i'r Cyd-Bwyllgor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn Adroddiad Blynyddol GwE 2022-2023 gan ystyried cynnal gweithdy i
drafod materion penodol mewn mwy o fanylder. COFNODION: Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar berfformiad y gwasanaeth o safbwynt
cyflawni swyddogaethau a nodau allweddol y Gwasanaeth gan y Cyfarwyddwr Cynorthwyol. Diolchwyd i Reolwr Rheoli Perfformiad GwE
am y gwaith o gyd-gordio y wybodaeth..
Yn gryno, adroddwyd bod nifer o bethau cyffroes ar y gweill a bod
cynnydd wedi ei wneud yn erbyn y pump maes - Gwella Arweinyddiaeth, Gwella'r
Dysgu a'r Addysgu, Cwricwlwm a Darpariaeth, Cynnydd a Safonau Dysgwyr a Chymorth a Her i Ysgolion sy'n Destun
Pryder. Cytunwyd ei bod yn ddogfen
gynhwysfawr iawn. Cwestiynwyd y Cynllun
Cefnogaeth o ran sut y byddai yn
gweithio yn GwE a gofynnwyd tybed fyddai modd iddo fod yn eitem agenda i’r dyfodol? Cadarnhawyd y byddai modd unai ei drafod mewn cyfarfod o’r Cydbwyllgor i'r dyfodol neu
opsiwn arall fyddai cynnal gweithdy i edrych ar nifer o faterion gan gynnwys
materion trawsnewid, deall rolau, gwaith partneriaeth, gwell defnydd o amser ac
ati. PENDERFYNWYD Derbyn Adroddiad Blynyddol GwE 2022-2023 gan ystyried cynnal gweithdy
i'r dyfodol i drafod materion penodol mewn mwy o fanylder. |
|
CYMERADWYO CYNLLUN BUSNES GwE 2023-2026 Cyflwyno Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023-2026 i aelodau'r Cyd-bwyllgor. Penderfyniad: Cymeradwyo
y Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023-2026 COFNODION: Cyflwynwyd Cynllun Busnes GwE
2023-2026 gan Reolwr Gyfarwyddwr GwE a Chyfarwyddwr Arweiniol GwE / Cadeirydd y
Bwrdd Rheoli. Nodwyd bod y Cynllun yn
cyfarch blaenoriaethau ac anghenion ysgolion, ,
cyfeiriad a blaenoriaethau chwe
Awdurdod y gogledd, a chyfeiriad a
blaenoriaethau dogfennau cenedlaethol Llywodraeth Cymru gan
gynnwys wyth ffactor cyfrannol gwireddu'r cwricwlwm yn llwyddiannus a'r chwe
amcan a amlinellir yn Cenhadaeth ein Cenedl: safonau a dyheadau uchel i bawb. Cyfeiriwyd at y saith amcan strategol sydd yn y Cynllun:Gwella Ysgolion,
Cwricwlwm ac Asesu, Datblygu dysgu ac addysgu o safon uchel, Arweinyddiaeth,
Profiad addysg gadarnhaol i bawb, Mae Cymraeg yn perthyn i bawb a Busnes, gan
gadarnhau bod ieithwedd yr amcanion yn agos at ieithwedd y Llywodraeth a
blaenoriaethau lleol a rhanbarthol Yn
ogystal, cadarnhawyd fod pob Awdurdod Lleol gyda Chynllun Busnes unigol sydd yn
cynnwys materion penodol i’w Awdurdod penodol.
Holodd, nododd a chwestiynwyd y Cydbwyllgor fel a ganlyn : Nodwyd ei bod yn gynllun gwybodus iawn, yn ddogfen ar gyfer symud
ymlaen, sydd wedi ei gosod yn glir, gan ddefnyddio ieithwedd Llywodraeth Gymru,
gyda phroses adolygu gan gymheiriaid yn
rhedeg drwyddo draw. Cyfeiriwyd yn benodol at
Amcan 5 - Profiad addysg gadarnhaol i bawb -
gan nodi ei fod yn un positif iawn a nodwyd balchder yn hynny. Cadarnhawyd bod cynlluniau busnes manwl yn
cyd-fynd â’r amcanion i gyd, ac y bydd
adroddiad cynnydd ar y rhain yn cael ei gyflwyno i'r Cydbwyllgor yn
chwarterol. Nodwyd y byddai modd
cynnwys unrhyw faterion y dymuna’r Aelodau eu trafod ymhellach yn y gweithdy yn ogystal. Diolchwyd i’r Rheolwr Rheoli
Perfformiad am eglurer yr adroddiad. PENDERFYNWYD Cymeradwyo y Cynllun Busnes Rhanbarthol 2023-2026 |
|
ADOLYGU'R GOFRESTR RISG Cyflwyno Cofrestr Risg ddiweddaraf GwE i'r Cyd-Bwyllgor. Penderfyniad: Derbyn yr addasiadau diweddaraf
i’r Gofrestr
Risg. COFNODION: Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr
Cyfarwyddwr GwE. Atgoffwyd y Cydbwyllgor
mai pwrpas y gofrestr risg yw ffurfioli’r broses o adnabod risgiau a chymryd
camau gweithredu dilynol i’w lliniaru, a’i bod yn ddogfen fyw sydd yn cael ei
diweddaru yn amserol. Cadarnhawyd bod yr
holl risgiau wedi eu hadolygu a’u diweddaru a’r
diwygiadauwedi eu nodi mewn coch
sef trefniadau gweithredu a strwythur staffio GwE, recriwtio a
chynllunio olyniaeth, gwella ysgolion a hinsawdd undebol. Cadarnhawyd nad oes risg wedi ei ddileu. Roedd y Cydbwyllgor yn fodlon gyda y pedwar
ychwanegiad, oedd yn addas iawn yn yr hinsawdd bresennol, ac yn fodlon i’r
gweddill aros. PENDERFYNWYD
Derbyn yr addasiadau diweddaraf i’r Gofrestr Risg. |
|
ADOLYGU'R TREFNIADAU GWEITHREDU A'R STRWYTHUR STAFFIO PRESENNOL I gyflwyno cylch
gorchwyl drafft i aelodau’r Cyd-bwyllgor mewn perthynas â Adolygu trefniadau
gweithredu GwE a'r strwythur staffio presennol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gohirio yr Eitem a thrafod cyn gynted â phosib ar ôl Mehefin 7fed, 2023 COFNODION: Nodwyd bod penderfyniad wedi ei wneud i
ohirio trafodaeth ar yr eitem yma gan y bydd yn cael ei ystyried mewn cyfarfod
o Brif Weithredwr y Gogledd ar y 7 Mehefin.
PENDERFYNWYD
Gohirio yr eitem. |
|
I rannu gwybodaeth ag aelodau'r Cyd-bwyllgor ynghylch ymgynghoriadau perthnasol dros ben sydd ar y gweill Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth sydd wedi ei rannu ag aelodau'r
Cyd-bwyllgor ynghylch ymgynghoriadau perthnasol dros ben sydd ar y gweill. COFNODION: Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr
Gyfarwyddwr GwE, er gwybodaeth, yn nodi’r ymgynghoriadau perthnasol sydd ar y
gweill, sef ‘Llywodraeth Cymru - Adolygu rolau a chyfrifoldebau partneriaid
addysg yng Nghymru a chyflawni trefniadau i wella ysgolion’, ‘Estyn - Arolygiadau
gwasanaethau addysg llywodraeth leol 2024’ a ‘Llywodraeth Cymru - Bil Addysg y
Gymraeg: papur gwyn’. Gofynnwyd i’r
Cydbwyllgor nodi yr uchod a chadarnhawyd y byddai swyddogion GwE yn paratoi
ymatebion. Nododd y Cydbwyllgor bod Ymgynghoriad Estyn
- Arolygiadau gwasanaethau addysg llywodraeth leol 2024 yn newid mawr a’i bod
yn bwysig iawn bod yn rhan o’r ymgynghoriad hwn. PENDERFYNWYD
Derbyn y wybodaeth sydd wedi ei rannu ag
aelodau'r Cydbwyllgor ynghylch ymgynghoriadau perthnasol dros ben sydd ar y
gweill. Swyddogion
GwE a’r Awdurdodau lleol i baratoi ymateb i'r ymgynghoriadau. |
|
DIWRNOD DATHLU Y DAITH DDIWYGIO - 22/06/2023 Cyflwyno
gwybodaeth i aelodau'r Cyd-bwyllgor am y bwriad i gynnal ‘Marchnad Cwricwlwm i
Gymru’ i arweinwyr ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue Cymru, Llandudno er mwyn dathlu y daith ddiwygio hyd
yma. Penderfyniad: Croesawu y bwriad i gynnal ‘Marchnad Cwricwlwm i Gymru’ i arweinwyr
ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue
Cymru, Llandudno er mwyn dathlu y daith ddiwygio hyd yma COFNODION: Cyflwynwyd yr Adroddiad gan Reolwr
Gyfarwyddwr GwE am y bwriad i gynnal ‘Marchnad Cwricwlwm i Gymru’ i arweinwyr
ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue Cymru, Llandudno er mwyn
dathlu y daith ddiwygio hyd yma.
Cyfeiriwyd at y bwriad i drefnu gweithdai, stondinau a chyfle i ddewis
pynciau o ddiddordeb, megis asesu, meysydd dysgu a phrofiad, pontio a
thrawsnewid. Cadarnhawyd bod gwahoddiad
i bob un oedd yn yr ystafell. PENDERFYNWYD
Croesawu y bwriad i gynnal ‘Marchnad
Cwricwlwm i Gymru’ i arweinwyr ysgolion y rhanbarth ar 22 Mehefin 2023 yn Venue
Cymru, Llandudno er mwyn dathlu y daith ddiwygio hyd yma. Dechreuodd y
cyfarfod am 10.35 y.b a daeth i ben am 12.05 y.p. _________________________________ CADEIRYDD |