Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau o absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Paul Smith (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 161 KB Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 2 Hydref 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Derbyniodd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il
Hydref 2024 |
|
Cyflwyno
Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad, Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ac
Llythyr Cynrychiolaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
·
Derbyn a nodi adroddiad ISA260
gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ·
Cymeradwyo Datganiad Cyfrifon 2023/24 ·
Awdurdodi’r Cadeirydd a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd (fel Swyddog Cyllid Statudol GwE) i lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r cydbwyllgor ystyried a
chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2023/24 (ôl-archwiliad), adroddiad
‘ISA260’ Archwilio Cymru a’r Llythyr Cynrychiolaeth cyn awdurdodi’r Cadeirydd
a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r llythyr yn electroneg. Arweiniodd y
Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), yr
Aelodau drwy’r datganiad gan eu hatgoffa bod cyfrifon amodol wedi eu cyflwyno
i’r Cydbwyllgor ym mis Hydref 2024 ble amlygwyd y prif faterion a’r nodiadau
perthnasol. Adroddwyd na fu unrhyw newid i brif ddatganiadau ariannol yr
adroddiad hwnnw (y Fantolen, Datganiad Incwm a Gwariant, Datganiad Llif Arian
na’r Datganiad o’r Symudiadau mewn Reserfau), ond bod ambell addasiad i’r
nodiadau sydd yn cefnogi’r Datganiad; ·
Nodyn
17b ‘Taliadau i Swyddogion – dim newid wedi bod yn y nifer sydd yn ymddangos yn
y tabl ar gyfer 2023/24 (43 o swyddogion), ond yn hytrach bod newid i’r bandiau cyflog roedd tri swyddog yn
ymddangos ynddo. Nodwyd nad oedd chwyddiant cyflogau Soulbry 2022/23 wedi ei
gadarnhau tan 2023/24 ac felly yn cymhlethu’r sefyllfa. Y nodyn bellach yn
adlewyrchu y darlun am gyflogau y flwyddyn ariannol 2023/24 yn unig. · Nodyn 20 Partïon Cysylltiedig / Aelodau -
bu modd tynnu'r datgeliad gan nad oedd yn ofynnol ei gynnwys i gydymffurfio efo
gofynion CIPFA. Yn ychwanegol i
hyn roedd nifer fach o fân ddiwygiadau naratif. Gofynnwyd
i’r Cydbwyllgor i ystyried a chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon a’r ISA260
gan Archwilio Cymru ar gyfer cyfrifon 2023/24. Ar ran Archwilio
Cymru, nododd Osian Roberts bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn
di-amod ar gyfrifon 2023/24 gan ategu bod y cyfrifon yn rhoi darlun gwir a theg
o’r sefyllfa, yn cydymffurfio ag arferion priodol ac mai gweithio i lefel o
‘berthnasedd’ roedd Archwilio Cymru. Adroddwyd bod y lefel o berthnasedd yn
cael ei bennu i geisio adnabod a chywiro
camddatganiadau allai beri fel arall i’r sawl sydd yn defnyddio’r cyfrifon gael
eu camarwain. Pennwyd y lefel perthnasedd o £356,000 ar gyfer archwiliad
2023/24 ac adroddwyd ar gamddatganiadau
trothwy uwchlaw £17,000, (a gyfrifir fel 5% o berthnasedd). Ategodd bod y camau
gweithdrefn bellach wedi eu cwblhau ac nad oedd materion ychwanegol i adrodd
arnynt. Yng
nghyd-destun cydymffurfio moesegol, nodwyd bod Archwilio Cymru wedi parhau yn
annibynnol a diolchwyd i Dîm Cyllid Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth. Croesawyd yr
adroddiad a diolchwyd i bawb am eu gwaith. Cynigwyd ac
eiliwyd derbyn yr adroddiad. PENDERFYNWYD: ·
Derbyn
a nodi adroddiad ISA260 gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru ·
Cymeradwyo
Datganiad Cyfrifon 2023/24 ·
Awdurdodi’r
Cadeirydd a Phennaeth Cyllid Cyngor
Gwynedd (fel Swyddog Cyllid Statudol GwE) i lofnodi’r llythyr cynrychiolaeth |
|
CYLLIDEB GwE 2024/2025 - ADOLYGIAD HYD AT DDIWEDD HYDREF 2024 PDF 168 KB Diweddaru
aelodau’r Cydbwyllgor ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb GwE am y
flwyddyn gyllidol 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn
a chymeradwyo’r adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid
Cyngor Gwynedd yn diweddaru aelodau ar yr adolygiad ariannol diweddaraf o gyllideb refeniw
GwE am y flwyddyn gyllidol 2024/25 a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol -
Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar yr amrywiannau
ariannol sylweddol ynghyd â gwybodaeth ariannol gyflawn a bod yr adolygiad wedi ei gynnal yn seiliedig
ar wybodaeth diwedd Hydref 2024. Cyfeiriwyd at dalfyriad o’r sefyllfa derfynol gyda’r rhagolygon yn awgrymu y bydd tanwariant
o £78 mil erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Tynnwyd sylw at y prif faterion; ·
Gweithwyr –
tanwariant o £18 mil. Cyllideb GwE ar gyfer y flwyddyn gyfredol wedi ei sefydlu
yn seiliedig ar nifer staff yn Chwefror 2024. Yr arbediad wedi ei wireddu wedi
i rai o aelodau staff GwE adael eu swyddi ynghyd â derbyniad grant sydd wedi ei
ddefnyddio i gyllido swyddi. Ategwyd bod y ffigyrau hefyd wedi ymgorffori
penderfyniad y Cydbwyllgor ar 1af Awst, gan gynnwys ailstrwythuro’r Uwch Dîm
Reoli. ·
Rhent -
gorwariant o bron i £10 mil. Hyn yn unol â’r tueddiad hanesyddol, a rhagwelir y
bydd GwE yn gorwario ar y pennawd yma eto eleni a hynny yn bennaf o ganlyniad i
GwE yn rhentu gofod mwy o faint yn swyddfa Caernarfon. ·
Cludiant -
y darlun yn parhau i fod yn gyson gydag adolygiadau blaenorol gyda thanwariant
o £50 mil ar y pennawd yma gan fod costau teithio wedi lleihau o ganlyniad i
ffyrdd newydd o weithio dros y blynyddoedd diwethaf. ·
Cyflenwadau
a Gwasanaethau - Rhagwelir tanwariant o bron i £20 mil ar y pennawd yma. O ran sefyllfa cronfa wrth gefn, nodwyd
mai swm y gronfa agoriadol oedd £221 o filoedd, ac yn dilyn ychwanegu’r
tanwariant a ragwelir, bydd cyfanswm y gronfa yn tyfu i £300 o filoedd. Diolchwyd am yr
adroddiad a diolchwyd i’r staff am gwblhau’r gwaith o fewn cyfnod anodd. Cynigiwyd ac
eiliwyd cymeradwyo’r adroddiad. PENDERFYNWYD: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad. |
|
Cyflwyno
adroddiad cynnydd i Aelodau Cyd-bwyllgor GwE ar yr elfen ‘Diwygio’ o’r Grant
Addysg Awdurdod Lleol (GAALl), yn benodol: Cwricwlwm i Gymru a Dysgu
Proffesiynol ac Arweinyddiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a chymeradwyo’r adroddiad cynnydd. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Pennaeth Gwasanaeth GwE - Dysgu Proffesiynol. Eglurwyd penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyfuno
prif grantiau addysg o dan un pennawd sef yGrant Addysg Awdurdodau Lleol
(GAALl) o 2024-25 ymlaen. Bydd y grant yn cael ei dalu yn uniongyrchol i’r
Awdurdodau Lleol / Ysgolion gyda
gofynion, risgiau telerau ac amodau’r grant bellach yn gyfrifoldeb yr Awdurdod
Lleol unigol. Eglurwyd, er
mwyn sicrhau parhad y gefnogaeth i ysgolion tra bod adolygiad haen ganol y
system addysg yng Nghymru yn mynd yn ei flaen, nododd Llywodraeth Cymru'r
disgwyliad bod unrhyw drefniadau gweithio rhanbarthol presennol yn parhau yn
ystod y cyfnod yma a'u bod yn cael eu hwyluso drwy'r cyllid grant penodol i
gefnogi'r cwricwlwm a dysgu proffesiynol mewn ysgolion. Ategwyd bod yr elfennau ‘Cwricwlwm i Gymru’ a
‘Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth’ wedi ei drosglwyddo o’r GAALl ‘Diwygio’
yn llawn i GwE gan holl Awdurdodau Lleol y rhanbarth er mwyn cynnig darpariaeth
i gefnogi’r agweddau yma ac sydd yn
bodloni telerau ac amodau'r grant. Yn unol â
chynlluniau busnes GwE a’r Awdurdodau Lleol ar gyfer 2024-25, bydd GwE yn
adrodd i’r Cydbwyllgor ar yr elfen Diwygio
- ‘Cwricwlwm i Gymru’ a ‘Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth’. Yn ogystal, ac yn unol â gofynion monitro’r
GAALl, bydd GwE yn darparu adroddiadau ddwywaith y flwyddyn ar yr elfennau yma,
fel bod modd i’r Awdurdodau Lleol gyflwyno adroddiadau monitro yn erbyn y
dibenion a'r amcanion a osodwyd, i Lywodraeth Cymru. Cyfeiriwyd at yr adroddiad cynnydd am y
cyfnod 01/04/2024 – 30/09/2024 oedd wedi ei gynnwys gyda’r adroddiad, gan nodi
nad oedd cwtogiad i’r ddarpariaeth ac nad oedd risgiau i’r gefnogaeth ar hyn o
bryd. Tynnwyd sylw hefyd at lefel uchel o staff oedd wedi mynychu’r sesiynau
hyfforddi er cyfyngiadau i’r gwasanaeth. Diolchwyd am yr adroddiad. Nododd y Cadeirydd bod y data yn
rhyfeddol o ystyried yr holl newidiadau sydd yn digwydd yn GwE a diolchwyd i’r
staff, er gwaethaf y sefyllfa, am sicrhau parhad i’r gwasanaeth a’r gefnogaeth
i ysgolion. Ategodd ei bod yn ddiolchgar iawn o’u hymrwymiad i’r gwaith. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r data rhanbarthol ac a yw ar gael fesul Awdurdod Lleol,
cadarnhawyd bod y wybodaeth yn cael ei rannu gydag Awdurdodau Lleol unigol y
Rhanbarth. Cynigiwyd ac
eiliwyd cymeradwyo’r adroddiad. PENDERFYNWYD: Derbyn a
chymeradwyo’r adroddiad cynnydd. |