Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Sioned Williams 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. Cofnod: Y Cynghorydd Garffild Lewis, Diane Chisholm
(Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Mair Herbert (Cynrychiolydd Ysgolion
Uwchradd), Alison Fisher (Cynrychiolydd Llywodraethwr), Dr Lowri Brown (Cyngor
Bwrdeistrefol Conwy), Dafydd L. Edwards (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol –
Cyngor Gwynedd), Steve Vincent (Llywodraeth Cymru), Rhys Howard Hughes
(Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE), Delyth Molyneux (Cyngor Sir Ynys Môn). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad buddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: (a)
Cynhadledd Ranbarthol Athrawon Uwchradd Yn dilyn sylw’r cyfryngau ar y gost i wahodd
siaradwyr i Gynhadledd Ranbarthol Athrawon Uwchradd GwE ym mis Gorffennaf,
rhoddwyd cyfle i Reolwr Gyfarwyddwr GwE ymateb i nifer o gwestiynau, wedi’i
llunio gan Gynghorwyr y Cydbwyllgor, a gosod cyd-destun i’r mater. Ar gais
aelodau, nodwyd y bydd unrhyw drefniadau i gynnal cynhadledd yn y dyfodol yn
dod o flaen y Cydbwyllgor er mwyn trafod y gost ac i sicrhau gwerth am arian (b)
Ailstrwythuro
Cwricwlwm Newydd yng Nghymru Cyflwynodd Uwch Arweinydd Cwricwlwm i Gymru
ddiweddariad ar y gwaith mae GwE yn ei wneud i ddatblygu'r cwricwlwm newydd yng
Nghymru. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 196 KB (copi’n atodedig) Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 4
Hydref 2017, fel rhai cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diolchodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i holl
bartneriaid GwE am eu hymroddiad a’u cyfraniad i lwyddiant yr arolwg, a nodwyd
bod y tîm yn ymfalchïo yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at y prif negeseuon ar gyfer pob un o’r
argymhellion yn ogystal â’r elfennau hynny sydd angen sylw sef y Cyfnod Sylfaen
a Chyfnod Allweddol 4, sydd eisoes wedi eu cynnwys mewn cynlluniau busnes. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau
canlynol: §
Diolchwyd i Reolwr Gyfarwyddwr a staff GwE am gyflawni
gwaith a chanlyniad gwych mewn cyfnod amser byr. §
Canmolwyd cryfder y cydweithrediad rhwng partneriaid GwE
a phwysleisiwyd pwysigrwydd i’w gynnal ar y lefel uchel yma. §
Nodwyd bod newid diwylliant sylweddol wedi digwydd. Erbyn
hyn mae diwylliant o gydnabod cyfraniadau ein gilydd yn bodoli ac mae’r amser
yn iawn am ddatblygiad pellach. |
|
CYNLLUN BUSNES LEFEL 1 ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 2 PDF 293 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad
monitro chwarter 2 ar gyfer y Cynllun Busnes Lefel 1. Amlygwyd yr heriau ar gwelliannau sydd eu
hangen yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 4.T 4. PENDERFYNWYD: Derbyn yr
adroddiad. |
|
CYLLIDEB GwE 2017-18 - ADOLYGIAD CHWARTER 2 PDF 357 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Cyllid yr Awdurdod
Lletyol. Nodwyd nad oes newid arwyddocaol yn Adolygiad Chwarter 2. PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad. |
|
STRATEGAETH GWELLA GwE 2017-20 - UWCHRADD, CYNRADD A CWRICWLWM I GYMRU PDF 292 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol GwE ar
Strategaethau Gwella GwE sydd wedi’i alinio gyda’r ddogfen Addysg yng Nghymru:
Cenhadaeth ein Cenedl Llywodraeth Cymru, ac yn gosod y cyfeiriad am y tair
blynedd nesaf. Amlygwyd y strategaeth uwchradd a’r effaith mae’r gweithredu
wedi ei gael i wella’r proffil arolygiadau y rhanbarth. Yn ystod y drafodaeth ddilynol,
amlygwyd y pwyntiau canlynol: § Mae angen mynd i’r afael o’r broblem o recriwtio penaethiaid i’r
proffesiwn. § Cwestiynwyd a oes modd integreiddio sgiliau arweinwyr ar gyfer y cynradd
a’r uwchradd wrth gynllunio ar gyfer y cwricwlwm newydd. PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad. |
|
CYNLLUN DATBLYGU'R GWEITHLU I GEFNOGI'R GYMRAEG MEWN ADDYSG PDF 263 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Is-grŵp y Gymraeg
mewn perthynas â’r cynllun ‘Datblygu’r Gweithlu i Gefnogi’r Gymraeg mewn
Addysg’. Adroddwyd bod Llywodraeth Cymru ar fin lansio’r
cynllun gyda’r nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Nodwyd fod y
rhanbarth wedi derbyn dyraniad grant o £557,051 er mwyn datblygu’r gweithlu i
gefnogi’r Gymraeg mewn addysg. Mae Is-grŵp y Gymraeg eisoes wedi ei
sefydlu, sydd yn cynnwys cynrychiolaeth o bob awdurdod lleol yn y rhanbarth, ac
yn bwriadu i weithredu fel Bwrdd Prosiect ar gyfer y gwaith. Amlygwyd y pwyntiau canlynol: §
Nododd Pennaeth Addysg Dros Dro Sir y Fflint bod timau
effeithiol eisoes yn bodoli sydd yn gyfrifol am raglenni datblygu’r gweithlu.
Mynegwyd bod mudiadau fel yr Urdd yn chwarae
rôl allweddol i dorri rhwystrau a newid agweddau tuag at yr iaith
Gymraeg mewn ardaloedd Seisnigaidd, ac yn ei wneud yn fwy hygyrch a cynhwysol.
Mae’n bwysig bod y cynllun ddim yn ffocysu ar addysg yn unig, ac yn cael ei
ymestyn tu allan i ysgolion cyfrwng y Gymraeg. §
Cwestiynwyd a fydd y cynllun yn perthyn i’r ysgolion
ynteu i’r Cyngor. Nodwyd y byddai’n anodd dylanwadu ar gynllun ysgol. PENDERFYNWYD:
Derbyn a chymeradwyo’r briff prosiect. |