Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Huw Hilditch-Roberts a Claire Homard. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Nid oedd unrhyw
faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 98 KB (copi wedi
ei atodi) COFNODION: Cadarnhawyd fod
y cofnod a gyflwynwyd yn gofnod priodol o’r cyfarfod ar 26 Chwefror 2020. |
|
CYFRIFON 2019/2020 - ALLDRO REFENIW PDF 93 KB Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd i ddiweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor ar adolygiad ariannol derfynol cyllideb GwE am y flwyddyn ariannol 2019/20. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd a derbyniwyd y Cyfrif Incwm a Gwariant Reveniw am
2019/20 fel y nodir yn Atodiad 1, ynghyd â sylwadaeth ar y prif wahaniaethau
rhwng y gyllideb a’r gwir wariant a gyflwynir er gwybodaeth yn unol â’r drefn
“arferol” ar ffurf adroddiad alldro. COFNODION: PENDERFYNIAD
Nodwyd a derbyniwyd y Cyfrif Incwm
a Gwariant Refeniw am 2019/20 fel y nodir yn Atodiad 1, ynghyd â sylwadaeth ar
y prif wahaniaethau rhwng y gyllideb a’r gwir wariant a gyflwynir er gwybodaeth
yn unol â’r drefn “arferol” ar ffurf adroddiad alldro. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi’r penderfyniad.
Tynnwyd sylw at y prif wahaniaethau rhwng yr adroddiad ym mis Chwefror ac yr un
a gyflwynwyd i’r cyfarfod. Nodwyd fod newid o (£217,253) i’r hyn adroddwyd yn chwarter
3, sef amcangyfrif gorwariant o £27,635. Amlinellwyd mai’r prif resymau dros
hyn oedd bod secondiadau staff a chyfraniadau amser staff craidd i gynlluniau a
phrosiectau newydd, ariannwyd drwy grant, wedi arwain at danwariant. O
ganlyniad i Covid-19 mynegwyd fod nifer fawr o gyfarfodydd heb eu cynnal yn
ystod mis Mawrth sydd wedi arwain at leihad mewn incwm. Nodwyd mai effaith y newid hwn yw bod y
tanwariant net yn cynyddu’r gronfa wrth gefn i £480,204 ar ddiwedd 2019/20.
Ychwanegwyd y bydd adroddiad i gyfarfod dilynol er mwyn ystyried defnydd posib
o’r gronfa wrth gefn yn dilyn y cyfnod yr argyfwng presennol. Diolchodd Rheolwr Cyfarwyddwr GwE i’r tîm cyllid am
eu gwaith. |
|
YMATEB LLYWODRAETH CYMRU I COVID-19 : TORIADAU I'R GRANTIAU RHANBARTHOL PDF 91 KB Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i ddiweddaru aelodau’r Cyd-bwyllgor am y sefyllfa ynghylch y grantiau rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21. Penderfyniad: Derbyniwyd yr adroddiad. COFNODION: PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
adroddiad er gwybodaeth. Mynegwyd o ganlyniad i ymateb Llywodraeth Cymru i
Covid-19, gofynnwyd i GwE ddod o hyd i 3% o arbedion o gyfanswm dyraniadau
Grant Gwella Ysgolion ar gyfer y cyfnod 2020/21. Nodwyd y bydd gwireddu’r arbedion yn heriol ond fod
swyddogion GwE ac awdurdodau lleol yn gweithio’n agos i reoli’r arbedion hyn. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd i GwE am eu gwaith a holwyd am drefniadau
cyfnod adfer GwE. Mynegwyd fod angen i GwE addasu yn ystod y cyfnod hwn. ¾ Nodwyd fod GwE wedi cadw cyswllt dyddiol â’r
ysgolion yn ystod y cyfnod cychwynnol. Ychwanegwyd y bydd gan dysgu o bell â
rôl amlwg yn y cyfnod hwn a bydd angen ail edrych ar y ddarpariaeth a gweld sut
y bydd modd ei ddefnyddio i’r dyfodol. ¾ Pwysleisiwyd y bydd y 3% o arbedion yn dod gan GwE
ei hun a gan yr awdurdodau lleol er mwyn ymgeisio i leihau'r effaith ar
ysgolion. ¾ Ychwanegwyd y bydd GwE yn anfon gwybodaeth unwaith
y byddant wedi derbyn llythyr yn cadarnhau gan y Llywodraeth. Ychwanegodd
Pennaeth Cyllid yr awdurdod lletyol y bydd angen i’r 3% ddod o rywle, a bydd y
cyfnod argyfwng yma’n taro grantiau eraill, felly dylid bod yn barod am fwy o
doriadau ymhen hir a hwyr. Ychwanegwyd y bydd cyhoeddiad cyllideb wythnos nesaf
a gallasai hynny roi gwell syniad o’r toriadau fydd yn ein wynebu wrth symud
ymlaen. |
|
Cyfarwyddwr Cynorthwyol GwE i gyflwyno adroddiad sy’n ystyried goblygiadau y penderfyniad i gau ysgolion ac i beidio cynnal cyfres arholiadau 2020. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd
yr adroddiad a cytunwyd i drefnu cyfarfod gyda CBAC i drafod y mater ymhellach.
COFNODION: PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad a cytunwyd i drefnu cyfarfod gyda CBAC i drafod y
mater ymhellach. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad ac amlinellwyd y broses
arfaethedig. Nodwyd bod angen i’r
Cyd-Bwyllgor ystyried goblygiadau penderfyniad y Gweinidog i gau ysgolion a’r
penderfyniad dilynol i beidio cynnal cyfres arholiadau 2020 ar gyfer dyfarnu
graddau TGAUI, UG, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau
galwedigaethol eraill; a hefyd ystyried goblygiadau ar gyfer arholiadau haf
2021. Mynegwyd fod y broses a amlinellwyd yn un annheg i
ddisgyblion, yn benodol os yw’r ysgol ar daith gwella. Mynegwyd y bydd
ymgynghoriad yn cael ei gynnal ond na fydd yn cael ei ryddhau tan ganol mis
Mehefin. Ategwyd fod ysgolion eisiau gwybod os oes newid am
fod i’r maes llafur er mwyn dechrau ar y gwaith paratoi ar gyfer y flwyddyn
nesaf. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Pwysleisiwyd fod y drefn model ystadegau yn gwbl
annheg ar y disgyblion, ynghyd â’r ysgolion. Ychwanegwyd fod pryderon am y
flwyddyn nesaf yn ogystal gan y bydd sefyllfa eleni yn cael effaith ar
ddisgyblion ac felly yn amharu ar eu canlyniadau y flwyddyn nesaf. ¾ Nodwyd fod y cyfnod yma wedi bod yn anodd iawn ar
ddisgyblion ac amlygwyd bod angen bod yn deg a chefnogi pobl ifanc. ¾ Mynegwyd pryder am blwyddyn 10 a 12 yn benodol. ¾ Nodwyd yr angen i drefnu cyfarfod â CBAC i drafod y
mater ymhellach. ¾
Holwyd
o ran costau arholiadau os y bydd modd i ysgolion dderbyn cyfran o’r arian yn
ôl. Nodwyd fod angen trafod hyn yn y cyfarfod â CBAC. |
|
PONTIO YN ÔL I'R YSGOL PDF 86 KB Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i gyflwyno adroddiad i drafod trefniadau pontio i gael dysgwyr yn ôl i’r ysgol. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd i gymeradwyo dull gweithredu rhanbarthol, gyda
GwE, awdurodau lleol ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth, ar gyfer y cam
nesaf o addasu addysg yng Nghymru. COFNODION: PENDERFYNIAD Penderfynwyd i gymeradwyo dull gweithredu rhanbarthol, gyda
GwE, awdurodau lleol ac ysgolion yn gweithio mewn partneriaeth, ar gyfer y cam
nesaf o addasu addysg yng Nghymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan
nodi mai’r bwriad yw cael cymeradwyaeth i’r Awdurdodau Lleol, GwE ac ysgolion i
weithio gyda’i gilydd i greu fframwaith fydd yn cynnwys asesiadau risg a
pholisïau/canllawiau drafft sy’n edrych ar amrywiaeth o feysydd y mae angen i
ysgolion eu hystyried a’u datblygu pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo ysgolion i ailagor i ragor o
ddisgyblion. Nodwyd fod Prif Weinidog
Prydain wedi nodi fod ysgolion Lloegr yn ail agor ddechrau Mehefin ond nad oedd
Cymru wedi nodi dyddiad eto. Pwysleisiwyd fod Bwrdd Rheoli GwE wedi trafod y
mater ac wedi nodi’r angen i ysgolion, GwE a’r awdurdodau lleol i gyd weithio a
chefnogi ei gilydd wrth symud ymlaen. Pwysleisiwyd y bydd dysgu o bell yn parhau am
gyfnod hir o amser ac felly fod angen cynllunio ymlaen at y cyfnod anodd hwn.
Byddai’r fframwaith yn edrych ar faterion megis adnoddau dynol, dysgu o bell a.y.b. Ychwanegwyd er bod y fframwaith yn un
rhanbarthol, y byddai’n cael ei addasu yn lleol. Byddai’r wybodaeth yn cael ei
gadw mewn un lle, ond byddai modd i ysgolion ychwanegu dogfennau ynghyd a’i
haddasu gan fod y sefyllfa yn newid mor aml. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Pwysleisiwyd fod cyfathrebu yn holl bwysig, a gyda’r cyfnod nesaf am ddod a
sialensiau mawr, mae’n holl bwysig fod pawb yn gweithio gyda’i gilydd. ¾ Nodwyd mai partneriaeth fydd hyn.
Mynegwyd yr angen i weithio gyda’n gilydd a chael un llais a chysondeb dros y
rhanbarth. |