Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2019/20 COFNODION: Etholwyd
Cyng. Phill Wynn (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam) yn Gadeirydd ar gyfer
2019/20. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20 COFNODION: Etholwyd Cyng. Garffild Lewis (Cyngor Bwrdeistref Conwy) yn Is-gadeirydd ar gyfer 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Croesawyd pawb i’r cyfarfod, yn benodol
Cyng. Cemlyn Williams i’w gyfarfod cyntaf o Gyd-bwyllgor GwE a Delyth Gray a
oedd yn bresennol fel Sylwebydd o Estyn. Bu i’r Cadeirydd longyfarch y Cyng.
Ian Roberts ar ddod yn Arweinydd Cyngor Sir y Fflint. Anfonwyd cydymdeimlad at Arwyn Thomas yn
dilyn profedigaeth ddiweddar. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Haf Williams
(Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint), Ian Roberts (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol
Wrecsam) ac Arwyn Thomas (Rheolwr Gyfarwyddwr GwE). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir
eu hysteried. COFNODION: Nid oedd unrhyw faterion brys. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 71 KB (wedi ei
atodi) COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 20 Chwefror 2019 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL GwE 2018/19 PDF 67 KB Arwyn
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE i gyflwyno Adroddiad Blynyddol GwE
2018-19. Dogfennau ychwanegol:
COFNODION: PENDERFYNIAD Derbyn yr Adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod
mwyafrif o’r wybodaeth wedi codi o drefn rheoli perfformiad GwE. Ychwanegwyd
fod yr adroddiad yn ceisio cael cydbwysedd rhwng perfformiad GwE yn ystod y
flwyddyn, a’r camau ar gyfer y dyfodol. Ategwyd fod y blaenoriaethau sydd i’w
gweld yn yr adroddiad yn bwydo mewn i Gynllun Busnes GwE ar gyfer 2019-20. Codwyd y mater o ganlyniadau Saesneg yn
ystod arholiadau TGAU. Mynegwyd y bydd trafodaeth yn ail gychwyn gyda Phrif
Weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker yn fuan gyda Phenaethiaid Ysgolion
Uwchradd Sir Ddinbych yn dilyn cyfnod o beidio ymgysylltu. Anogwyd y Cynghorwyr
i drafod â Phenaethiaid Ysgolion Uwchradd eraill y rhanbarth, ac i gysylltu â
Chymwysterau Cymru er mwyn ail gychwyn y drafodaeth. Ategwyd y bydd Pennaeth
Addysg Sir Ddinbych yn adrodd yn ôl yn dilyn y cyfarfod. Mynegwyd fod cynllun Shirley Clarke yn
parhau ac yn llwyddiannus, gyda’r 27 ysgol sydd yn rhan o haen 1 wedi bod yn
rhannu eu sgiliau â ysgolion haen 2. Ychwanegwyd fod y daith ddiwygio yn parhau
ac yn integredig â phob agwedd o waith GwE. Ategwyd fod gan y daith ddiwygio
rôl allweddol yn cefnogi’r Gymraeg. Nodwyd fod y blaenoriaethau strategol yn
cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth: -
Diolchwyd i’r staff am yr adroddiad gan nodi fod cyfnod
heriol o flaen GwE. |
|
CYNLLUN BUSNES LEFEL 1 2019/20 PDF 83 KB Arwyn
Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, i
gyflwyno'r Cynllun Busnes Lefel 1 ar gyfer 2019-2020 i'r Cyd-bwyllgor eu
cymeradwyo. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd y Cynllun Busnes gan nodi ei fod yn adlewyrchu’r
blaenoriaethau rhanbarthol a
chenedlaethol. Nodwyd fod y Cynllun yn cyd-fynd â disgwyliadau'r
Llywodraeth. Tynnwyd sylw at flaenoriaethau’r Cynllun Busnes a oedd yn cynnwys
datblygu a gwella darpariaeth gyda’r prif ffocws ar arweinyddiaeth lefel ganol
o safon uchel. Mynegwyd fod y maes anghenion dysgu ychwanegol yn flaenoriaeth yn
ogystal â chwricwlwm trawsnewidiol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd mai’r risg mwyaf ar hyn o bryd yw sefyllfa
ariannol Awdurdodau Lleol - o dan y toriadau sydd wedi bod i gyllidebau
Awdurdodau Lleol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, risg i ysgolion wynebu
toriadau pellach. ¾
Nodwyd o ganlyniad i’r newidiadau mawr gyda trawsnewid y
cwricwlwm fod nifer o athrawon â blynyddoedd o brofiad yn gadael y maes addysg.
Mynegwyd yr angen am greu cofrestr risg penodol ar gyfer hyn o ran ei effaith
ar athrawon, rhieni a disgyblion. ¾
Tynnwyd sylw penodol at y mater fod angen i GwE gyfarch
yr arbedion fel bod datrysiad tymor hir. Awgrymwyd bod angen i’r adolygiad o’r
gyllideb a'r gweithlu gael ei wneud cyn mis Hydref yn barod ar gyfer mis
Mawrth. ¾
Mynegwyd fod y cynllun busnes yn cyd-fynd ag amcanion
cenedlaethol. |
|
CYFRIFON GwE 2018/19 PDF 92 KB Dafydd Edwards, Pennaeth Cyllid Awdurdod Lletyol – Cyngor Gwynedd ac Arwyn Thomas, Rheolwr
Gyfarwyddwr GwE i ddiweddaru
aelodau’r Cyd-bwyllgor ar sefyllfa ariannol derfynol cyllideb GwE am y flwyddyn
ariannol 2018/19. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi
fod yr adroddiad yn nodi’r Incwm Refeniw a’r Cyfrif Gwariant ym 2018/19.
Tynnwyd sylw at yr amrywiadau ariannol. Nodwyd fod tanwariant o ran gweithlu yn
bennaf o ganlyniad i secondiad Cyfarwyddwr Cynorthwyol. Ychwanegwyd fod
gorwariant gydag Adeiladau a bod hyn o ganlyniad i GwE ddim yn cyfarfod targed
incwm, a Chyflenwadau a Gwasanaethau gan fod y costau cyfieithu wedi codi gan
nad yw GwE wedi gallu penodi cyfieithydd. Mynegwyd fod
sefyllfa ariannol GwE ar 31/03/2019 yn daclus iawn, ond fod angen adnabod
arbedion parhaol erbyn Hydref 2019. |