Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Manon Williams (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Paul Smith (Cynrychiolydd Ysgolion Uwchradd), Marc Berw Hughes (Cyngor Sir Ynys Môn), Dr Lowri Brown (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy), Claire Homard (Cyngor Sir y Fflint) a Gwern ap Rhisiart (Cyngor Gwynedd)

Apologies were received from Manon Williams (Primary Schools Representative), Paul Smith (Secondary Schools Representative), Marc Berw Hughes (Isle of Anglesey County Council), Dr Lowri Brown (Conwy County Borough Council), Claire Homard (Flintshire Council) and Gwern ap Rhisiart (Cyngor Gwynedd)

 

Councillor Diane King from Denbighshire Council was welcomed to the meeting for the first time.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, Atodiad 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Ar y pwynt yma nid oes penderfyniad yn cael ei wneud ac mae angen trafod y bwriad. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 12, Rhan 4, 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r paragraff yma yn berthnasol oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am unigolion penodol sydd â hawl i breifatrwydd. Ar y pwynt yma nid oes penderfyniad yn cael ei wneud ac mae angen trafod y bwriad. Nid oes unrhyw fudd cyhoeddus sydd yn galw am ddatgelu gwybodaeth bersonol am yr unigolion yma fyddai’n gorbwyso hawliau’r unigolion yma. O ganlyniad mae’r budd cyhoeddus yn disgyn o blaid cadw’r wybodaeth yn eithriedig.

 

5.

AILSTRWYTHURO ARFAETHEDIG O UWCH DÎM RHEOLI GwE

 

I ystyried yr adroddiad

 

(copi i’r Aelodau yn unig)

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Cymeradwyo’r cynnig ailstrwythuro arfaethedig o Uwch Dîm Rheoli GwE, yn unol â’r argymhellion,

1.    Yng ngwyneb gweithredu proses dirwyn GwE i ben fod y strwythur rheoli interim diwygiedig ar gyfer y cyfnod 1 Medi i 31 Mawrth  wedi ei gymeradwyo  a fod y trefniadau ar gyfer gwireddu hyn yn cael eu gweithredu yn unol a’r adroddiad .

2.    Bod Bwrdd Trosglwyddo yn cael ei sefydlu i sicrhau trosglwyddiad effeithiol o fodel GwE i'r strwythur partneriaeth newydd.

3.    Bod Rheolwr Prosiect yn cael ei benodi i gynorthwyo’r Bwrdd Trosglwyddo gyda’i waith.

4.    Bod Prif Weithredwr yr Awdurdod Lletya, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yn cael ei awdurdodi i wneud y penderfyniadau angenrheidiol i hwyluso gweithrediad y penderfyniad hwn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd yn cynnig cynllun ailstrwythuro arfaethedig o Uwch Dîm Rheoli GwE, er dibenion effeithiolrwydd busnes, o ystyried bod y consortiwm yn dirwyn i ben ar y 31ain o Fawrth 2025.

 

Trafodwyd cynnwys yr adroddiad ac ystyriwyd yr argymhellion a gynhigiwyd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig ailstrwythuro arfaethedig o Uwch Dîm Rheoli GwE, yn unol â’r argymhellion,

 

1.            Yng ngwyneb gweithredu proses dirwyn GwE i ben fod y strwythur rheoli interim diwygiedig ar gyfer y cyfnod 1 Medi i 31 Mawrth  wedi ei gymeradwyo  a bod y trefniadau ar gyfer gwireddu hyn yn cael eu gweithredu yn unol a’r adroddiad .

2.            Bod Bwrdd Trosglwyddo yn cael ei sefydlu i sicrhau trosglwyddiad effeithiol o fodel GwE i'r strwythur partneriaeth newydd.

3.            Bod Rheolwr Prosiect yn cael ei benodi i gynorthwyo’r Bwrdd Trosglwyddo gyda’i waith.

4.            Bod Prif Weithredwr yr Awdurdod Lletya, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yn cael ei awdurdodi i wneud y penderfyniadau angenrheidiol i hwyluso gweithrediad y penderfyniad hwn.