skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BF

Cyswllt: Bethan Adams  01286 679020

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid yr Awdurdod Lletyol – Cyngor Gwynedd), Alison Fisher (Cynrychiolydd Llywodraethwyr), Rhys Howard Hughes (Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cefnogaeth a Broceru) GwE), a R. Ellis Owen (Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy).

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

4.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 255 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Medi 2015, fel rhai cywir.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL GwE 2014-15 pdf eicon PDF 447 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad blynyddol GwE a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y deilliannau â blaenoriaethau yn ystod 2014-15.

 

Nododd aelod ei bryder yng nghyswllt y deilliannau ym mlwyddyn 2014-15, gan dynnu sylw yn benodol at ganlyniadau CA4.

 

Nododd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol - Cadeirydd y Bwrdd Rheoli (Cyngor Sir y Fflint)) bod y sefyllfa wedi ei ddadansoddi yn fanwl a chyflwynir adroddiad pellach i gyfarfod y Bwrdd Rheoli ym mis Ionawr.

 

Nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod trefniadau asesiadau athrawon wedi eu cryfhau trwy brosesau gwirio cenedlaethol er mwyn adlewyrchu gwir gyflawniad disgybl.

           

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

6.

ADRODDIAD AR DDEILLIANNAU DISGYBLION 2015 pdf eicon PDF 804 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad a oedd yn crynhoi’r sefyllfa o ran dangosyddion yng nghyswllt deilliannau disgyblion yn 2015. Tywysodd yr aelodau drwy’r adroddiad fesul cyfnod allweddol.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

·         Bod gwahanol dargedau o ran canlyniadau yn yr awdurdodau unigol. Mewn ymateb nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, ei fod yn fater a oedd yn effeithio Cymru gyfan. Nododd bod gwaith ar y gweill i wella cysondeb dros awdurdodau lleol ac yr herir ysgolion unigol ar eu targedau ar lefel disgybl;

·         Ni ddylid gosod targed ar gyfer disgybl os nad yw’n gyraeddadwy;

·         Bod deilliannau CA2 wedi gwella yng Ngwynedd ac Ynys Môn a dylid annog cydweithio er lledaenu arfer da;

·         Bod cwymp o ran canlyniadau disgyblion wrth gymharu asesiadau athrawon yn CA3 a gwir ganlyniadau CA4. Mewn ymateb nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod prosesau mewn lle i roi cymorth i athrawon o ran cynhyrchu asesiadau ystyrlon;

·         Bod y broses cymedroli asesiadau athrawon ac ymweld ag ysgolion unigol yn gwneud gwahaniaeth ond yn cwestiynu’r capasiti i edrych ar bob ysgol a bob pwnc yn unigol. Mewn ymateb nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y cynhelir ymweliadau ag ysgolion i fesur cynnydd yn erbyn y targedau a gweithredir tu mewn i’r adnoddau. Ychwanegodd yr edrychir ar efallai amrywio defnydd grantiau megis y Grant Gwella Addysg i’r perwyl hyn;

·         Yr angen i sicrhau bod athrawon cymwysedig yn dysgu mathemateg ac edrych ar y diffyg o ran mathemategwyr. Mewn ymateb nododd John Davies (Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam), bod GwE yn hysbysebu am unigolion efo arbenigedd mewn Mathemateg ynghyd â Saesneg i ymateb i’r galw;

·         Y byddai’n ddiddorol gweld canlyniadau’r TGAU newydd mewn Mathemateg a Saesneg. Nodwyd yr angen i ail-hyfforddi athrawon ac i ddenu unigolion sydd yn arbenigo yn y pynciau i ddysgu. Mewn ymateb, nododd Geraint Rees (Llywodraeth Cymru) bod yr Athro John Furlong yn edrych ar raglen hyfforddi athrawon ar ran Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd bod pryder gwirioneddol yn genedlaethol o ran cadw unigolion yn y maes dysgu;

·         Y byddai’n fuddiol dod i farn ar ganlyniadau CA5. Mewn ymateb nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE ei fod yn anodd cymharu canlyniadau gan fod nifer isel o ddisgyblion yn cymryd pynciau yn y cyfnod allweddol yma yn y Chweched Dosbarth, ond fe ymwelir ag ysgolion i herio pan fo problem efo pwnc penodol;

·         Holwyd os byddai’n bosib gosod y deilliannau o ran disgyblion PYD er mwyn meincnodi sut y cymharir efo disgyblion dros Gymru;

·         Y byddai’n ddiddorol gweld proffil CA4 yng nghanlyniadau arolygiadau ESTYN. Nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE pan dderbynnir canlyniadau'r arolygiadau fe ystyrir argymhellion ysgolion unigol ar draws y Rhanbarth.

           

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

7.

ARGYMHELLION ESTYN 2015 – ADRODDIAD DIWEDDARIAD AR GYNNYDD (MEHEFIN – HYDREF 2015) pdf eicon PDF 292 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd yn erbyn argymhellion Estyn (Mehefin 2015). Nododd y derbyniwyd sylwadau defnyddiol gan Arwyn Thomas (Cyngor Gwynedd) ar y cynnwys ers cyhoeddi’r adroddiad. Ychwanegodd y byddai’r Cydbwyllgor yn derbyn diweddariad cyson o’r cynnydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r adroddiad.

 

8.

CYNLLUN BUSNES 2015-18 pdf eicon PDF 338 KB

(copi’n amgaeedig)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE y Cynllun Busnes a oedd yn nodi gweledigaeth, nodau a blaenoriaethau gweithredu GwE ar gyfer y tair blynedd nesaf. Tynnwyd sylw bod ffrydiau gwaith manwl ar waith ar gyfer pob blaenoriaeth yn 2015/16 ac atodir y manylion i’r Cynllun Busnes.

 

Mewn ymateb i sylw parthed anghysondeb Ymgynghorwyr Her, nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE y cryfheir systemau i sicrhau bod Ymgynghorwyr Her efo’r sgiliau angenrheidiol.

 

Mewn ymateb i sylw parthed recriwtio Penaethiaid Ysgolion i swyddi Ymgynghorwyr Her, nododd Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE mai Penaethiaid a oedd newydd ymddeol oedd rhai ohonynt tra bo eraill yn Benaethiaid mewn ysgol ac yn rhoi cymorth i ysgol arall.

 

Gwnaed nifer o sylwadau yng nghyswllt diffyg Penaethiaid a’r angen i ddatblygu arweinwyr y dyfodol. Mewn ymateb nododd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod y rhaglenni datblygu wedi eu hanelu yn bennaf at arweinwyr canol a Phenaethiaid a gobeithir bydd pecyn cenedlaethol ar gael.

 

Nododd Geraint Rees (Llywodraeth Cymru) bod y 4 consortiwm yn edrych ar waith ei gilydd a gobeithir y byddai rhaglenni datblygu mewn lle erbyn yr Haf ar gyfer yr holl haenau o athro/athrawes i Bennaeth. Ychwanegodd bod ymateb Penaethiaid yn y rhanbarth i’r rhaglenni datblygu yn gadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Busnes 2015-18.

 

9.

TREFNIADAU CRAFFU pdf eicon PDF 415 KB

(copi’n amgaeedig)

 

Cofnod:

Cyflwynodd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol - Cadeirydd y Bwrdd Rheoli (Cyngor Sir y Fflint)) adroddiad yn manylu ar drefniadau craffu arfaethedig er mwyn ymateb i argymhelliad Swyddfa Archwilio Cymru. Nodwyd y cydweithir â phwyllgorau craffu perthnasol yr awdurdodau lleol i sefydlu rhaglen cydgysylltiedig gyda bwriad i bob awdurdod lleol edrych ar un elfen o’r rhaglen gorfforaethol a’r cynllun busnes gan rannu’r dysgu ar draws pob awdurdod.

 

PENDERFYNWYD bod Bwrdd Rheoli GwE ac Uwch Dîm Arwain GwE yn gweithio gyda phwyllgorau craffu awdurdod lleol perthnasol i weithredu rhaglen waith gydgysylltiedig mewn perthynas â gwella ysgolion.

10.

RHWYDWEITHIAU RHANBARTHOL pdf eicon PDF 512 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynodd Ian Budd (Cyfarwyddwr Arweiniol - Cadeirydd y Bwrdd Rheoli (Cyngor Sir y Fflint)) adroddiad ar y Rhwydweithiau Rhanbarthol a manylodd ar y broses adrodd arfaethedig a gynigir sef:

·           Pob rhwydwaith yn adrodd i Fwrdd Rheoli GwE;

·           Cofnodion y cyfarfodydd i’w rhannu â Bwrdd Rheoli GwE;

·           Cyd-bwyllgor i dderbyn adroddiad cynnydd gan un o’r rhwydweithiau yn y cyfarfod tymhorol.

 

Nododd aelod bod cydweithio da rhwng yr awdurdodau lleol o ran noddwyr.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Derbyn a nodi’r adroddiad;

(ii)    Cymeradwyo’r broses adrodd arfaethedig.

11.

STRWYTHUR STAFFIO GwE – GWNEUD PENDERFYNIADAU pdf eicon PDF 519 KB

(copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynodd Rheolwr Gyfarwyddwr GwE adroddiad yng nghyswllt newid y drefn o gymeradwyo newidiadau i’r strwythur staffio. Nodwyd yn bresennol bod rhaid cyflwyno unrhyw swyddi newydd i’r Cydbwyllgor er cymeradwyaeth yn unol ag Atodlen 2 y Cytundeb Rhyng-Awdurdod presennol (18/02/13). Nodwyd gan mai ond unwaith y tymor y cynhelir cyfarfodydd o’r Cydbwyllgor y gall y drefn achosi oedi yn y broses benodi.

 

Adroddwyd yr argymhellir i’r Cydbwyllgor dirprwyo’r cyfrifoldeb o wneud newidiadau i strwythur GwE i Reolwr Gyfarwyddwr GwE (yn unol â phrosesau’r ALl lletyol). Nodwyd y bwriedir adrodd ar y strwythur yng Nghynllun Busnes ac Adroddiad Blynyddol GwE.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     Derbyn a nodi’r adroddiad;

(ii)    Dirprwyo’r cyfrifoldeb o wneud newidiadau i strwythur GwE i Reolwr Gyfarwyddwr GwE (yn unol â phrosesau’r ALl lletyol, ac sydd wedi’u cynnwys fel atodiad 1).