Lleoliad: Swyddfeydd GwE, Bryn Eirias, Ffordd Abergele, Bae Colwyn, LL29 8BY
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Diane Chisholm (Cynrychiolydd Ysgolion Cynradd), Delyth
Molyneux (Cyngor Ynys Môn) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 232 KB (copi’n amgaeedig) Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Ionawr 2016, fel rhai
cywir. Nododd y
Cynghorydd Gareth Thomas (Cyngor Gwynedd) bod mater wedi ei godi yn y cyfarfod
diwethaf nad oedd wedi ei gynnwys yn y cofnodion. Fodd bynnag roedd yn dymuno
egluro’r sefylla gan nodi mai trefniadau mewnol i Gyngor Gwynedd oedd dan sylw
yn ymwneud a hysbysebu am swyddi penodol. Aeth ymlaen i fynegi ei anfodlonrwydd
bod Aelod Portffolio Addysg o Sir arall wedi anfon e-bost yn dilyn y cyfarfod
ynglyn a’r mater. Roedd y Cynghorydd Thomas o’r farn na ddylai unrhyw aelod o’r
Cydbwyllgor fod wedi codi’r mater ac os oedd unrhyw bryderon y dylid eu
cyfeirio’n uniongyrchol i’r man priodol.
Hyderai na fyddir yn codi’r mater eto. Esboniodd y
Cynghorydd Michael Williams bod y llythyr anfonwyd yn hunan-eglurhaol gan
ddatgan pwysigrwydd i gydweithio ynglyn ag unrhyw faterion sydd yn ymwneud a
GwE a’i fod o’r farn bod y mater drafodwyd yn creu goblygiadau i GwE ac yn mynd
yn groes i’r Model Cenedlaethol. Mewn ymateb,
esboniodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol yr Awdurdod Lletyol nad oedd y mater
wedi ei gofnodi oherwydd nad oedd wedi ei gynnwys ar Raglen y cyfarfod diwethaf
i’w drafod ac nac oedd ychwaith ar raglen y cyfarfod hwn i’w drafod. |
|
CYNLLUN BUSNES RHANBARTHOL 2015-18 – ATODIADAU AWDURDOD LLEOL PDF 356 KB (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE gynllun busnes a oedd wedi ei drafod gan y Cyd-bwyllgor
ar 12 Tachwedd 2015 a oedd yn gosod gweledigaeth tair blynedd, amcanion a
blaenoriaethau ar gyfer gwelliant ar draws y rhanbarth. Cyfeiriwyd at yr atodiadau i’r cynllun busnes
a oedd yn adlewyrchu y blaenoriaethau lleol a’r atebolrwydd lleol o fewn yr
awdurdodau. Cadarnhawyd bod y timau o fewn GwE yn y tri hwb wedi trafod y
blaenoriaethau gyda Chyfarwyddwyr Addysg a Phenaethiaid wedi bod yn rhan
greiddiol o’u darparu. Mewn ymateb i
ymholiad ynglyn a chysoni trefniadau craffu ar draws y 6 awdurdod, sicrhaodd
Cadeirydd y Bwrdd Rheoli (Cyngor Sir y Fflint) bod mecanwaith mewn lle i’r
Swyddogion Craffu ystyried themau o’r gwahanol awdurdodau a thu hwnt a fydd yn
arwain at raglen gyfrannol. Penderfynwyd: (a) Derbyn
a nodi cynnwys yr adroddiad. (b) Cymeradwyo’r Atodiadau Awdurdod LLeol y
Cynllun Busnes yn ddarostyngedig i gywiro Atodiad 6 (yn yr iaith Saesneg) lle
cyfeirir at Ynys Mon yn hytrach na Chyngor Wrecsam o dan y golofn “Nodau GwE”
cyn eu cyhoeddi’n derfynol. |
|
CYLLIDEB GwE 2015/16 - ADOLYGIAD TYMOR YR HYDREF 2015 PDF 362 KB (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd adroddiad yn
diweddaru’r Cydbwyllgor ar adolygiad ariannol diweddaraf cyllideb GwE am y
flwyddyn gyllidol 2015/16 a oedd yn canolbwyntio ar yr amrywiadau ariannol
sylweddol, ynghyd ag Atodiad 1 a oedd yn cynnwys y wybodaeth ariannol gyflawn. (b) Tywyswyd y
Cyd-bwyllgor drwy’r adroddiad gan Bennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd gan dynnu sylw at yr amrywiadau
ariannol. Nodwyd bod sefyllfa dros y
flwyddyn yn eithaf sefydlog a rhagwelir cyfanswm y gronfa ar ddiwedd 2015/16 yn
£271,486. (c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol,
amlygwyd y prif bwyntiau canlynol: ·
Tra’n deall cefndir y gronfa tanwariant,
gofynnwyd a oedd cynlluniau i’w wario, o ystyried bod ysgolion yn cael eu
beirniadu’n gyson am gadw balansau sylweddol ·
Cyfeiriwyd at y grantiau a dderbynir gan
Lywodraeth Cymru ac yn benodol Grant Her Ysgolion Cymru gan nodi
pwysigrwydd na ddylid creu cyfundrefn
anghyfartal ac amrywiaeth ar draws y 4 rhanbarth gan sicrhau bod ysgolion yn cael gwerth am
arian ·
Gofynnwyd a fyddai’n bosibl i’r dyfodol dderbyn
aminelliad o’r swm sy’n ddarbodus i’w gadw o safbwynt y tanwariant (ch) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod esboniwyd: ·
Nad oedd £271,486 o danwariant yn swm enfawr oherwydd
bod angen elfen o arian wrth gefn ar gyfer sefyllfaoedd all godi, e.e. bod
awdurdodau yn gorfod darganfod mwy o doriadau, diswyddo staff, a.y.b. ·
Bod balansau o ddim mwy na 5% - 10% wedi cael ei
osod yn lleol. Trafodwyd y tanwariant
gyda Phrif Weithredwyr ar draws y Gogledd a phenderfynwyd peidio gosod lefelau
oherwydd gall y sefyllfa newid ar gyfer y flwyddyn ganlynol ·
Cydnabuwyd bod amrywiaethau yn y lefelau
grantiau ar draws y 4 consortia ond hyderir y byddai fwy o gydweithio
rhyngddynt i’r dyfodol Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
(copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd y
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE a Phennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd gyllideb sylfaenol
GwE am y flwyddyn 2016/17 gan gynnwys cyfraniadau ariannol yr awdurdodau i’r
Cydbwyllgor. Tywyswyd
aelodau’r Cyd-bwyllgor drwy’r gyllideb gan dynnu sylw at leihad o £59,092 yn y
dyraniad ariannol gan yr awdurdodau.
Nodwyd ymhellach bod GwE yn gorfod dygymod ag effaith ariannol
chwyddiant ac arbedion sy’n lleihau gwariant arfaethedig 2016/17 o £131,180 ac
y byddir yn cyflwyno adroddiad yn fuan ym mis Mehefin fydd yn adlewyrchu’r
ffigwr hwn. Penderfynwyd: Derbyn a mabwysiadu’r gyllideb sylfaenol ar gyfer 2016/17
fel amlinellir yn yr adroddiad. |
|
CYTUNDEB PARTNERIAETH (AWDURDODAU AC YSGOLION) PDF 338 KB (copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Cyflwynodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, er gwybodaeth, gytundeb Partneriaeth rhwng y chwe
awdurdod lleol y gogledd a’u hysgolion gan nodi bwysigrwydd i’r Cydbwyllgor fod
yn ymwybodol o’r ddogfen. Diwygiwyd y gytundeb yn 2015 i adlewyrchu’r
newidiadau a fu. Nodwyd bod y ddogfen yn
egluro nifer o elfennau megis egwyddorion gweithredu, eglurhad o’r broses
categoreiddio ysgolion sydd yn rhan annatod o’r bartneriaeth rhwng GwE a’r
ysgolion. Ychwanegwyd bod y broses
categoreiddio yn cael ei fireinio yn gyson.
Cyfeiriwyd at atodiad 3 i’r gytundeb sef pwerau ymyrraeth sydd mewn lle
ar gyfer yr awdurdod lleol fel y cyrff statudol. (b) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau isod gan Aelodau unigol: ·
Bod troednodyn ar dudalen 46 o’r dogfennau yn
datgan bod awdurdodau lleol wedi gofyn i GwE ymgymryd a rhai o’r cyfrifoldebau
yn ymwneud a hyfforddiant a rol llywodraethwyr – gofynnwyd oni ddylid rhestru’r
cyfrifoldebau hyn? ·
Bod rhai materion o fewn y gytundeb yn eitha’
amlwg ond ar y llaw arall gall peth ansicrwydd godi ynglyn a phwy fyddai’n rhoi
cefnogaeth ar rai materion ·
Awgrymwyd o ran y gytundeb, oni fyddai’n fuddiol
i gynnwys atodiad ar gyfer pob awdurdod lleol fel a wneir yn y cynllun busnes
rhanbarthol? ·
O safbwynt diogelu plant, a ddylid nodi eglurder
o gyfrifoldeb Ysgol, cyfrifoldeb awdurdodau a chyfrifoldeb GwE? (c) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, esboniwyd: ·
Gan Cyfarwyddwr Arweiniol - Cadeirydd y Bwrdd
Rheoli (Cyngor Sir y Fflint), bod dyletswydd ar y Bwrdd Rheoli i ddarparu
gwasanaeth di-dor i ysgolion a’u bod o’r farn y byddai un ddogfen yn
briodol. Fodd bynnag, roedd bwriad gan
Bwrdd Rheoli i gynnal adolygiad yn ystod tymor yr haf. ·
Tra’n derbyn bod y Siroedd yn wahanol, bod
gwaith ar lawr pob ysgol i fod yn debyg ·
Bod angen rhai elfennau cyffredin ar draws y
rhanbarth ond rhaid cymryd i ystyriaeth y capasiti sydd yn gallu effeithio ar
natur y cytundeb Penderfynwyd: Nodi cynnwys y
Cytundeb Partneriaeth a’r angen i dderbyn diweddariad ar gyfrifoldebau generic
a lleol yng nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor. |
|
CONSORTIA YN CYDWEITHIO (adroddiad ar lafar) Cofnod: Adroddodd
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod disgwyliad gan ESTYN i’r rhanbarthau gydweithio
mewn datblygu a gwella prosesau o fewn ysgolion. Derbyniwyd
cyflwyniad gan Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cefnogaeth a Broceru) GwE) ar
ddatblygiadau hyd yma gan nodi mai’r nod ydoedd darparu her a chefnogaeth mor
effeithiol a phosibl ar gyfer ysgolion Cymru.
Nodwyd bod pwysau enfawr i ysgolion gydweithio ac yn fwy pwysig bod y
consortia yn cydweithio hefyd. O safbwynt y
datblygiadau hyd yma, esboniwyd: ·
Bod 4 Gyfarwyddwr y rhanbarthau yn cyfarfod yn
aml ·
Eu bod yn rhannu arferion da ·
Yn adnabod cyfleoedd ar gyfer cydweithio ·
Cytuno ar raglen waith penodol Ymhelaethwyd
ar y meysydd cydweithio sef: ·
Rhaglen ddatblygu Genedlaethol gytunedig ar
gyfer Ymgynghorwyr Her ·
Grwp Ansawdd o safoni categoreiddio
cenedlaethol (un aelod o bob consortia
wedi cael tasg ar gyfer cymedroli a chael gwell cysondeb) ·
Creu Rhaglen Datblygu amrywiol drwy gydweithio
gyda chonsortia eraill ar gyfer datblygiadau gyrfa ·
Gweithredu’r fenter Ysgolion Arloesi Digidol / Y
Fargen Newydd / Dyfodol Llwyddiannus / Ysgolion Arweiniol Creadigol (gwaith yn
mynd rhagddo ynglyn a hyrwyddo Grwp Cenedlaethol i gydweithio ac fe nodwyd bod
Llywodraeth Cymru yn rhan o’r cydweithio) ·
Rhannu arferion ynglyn a GAD ymhob sector gyda
thystiolaeth glir o’r effaith ·
Sicrhau gwell dealltwriaeth o ddefnyddio cyllid
a grantiau yn effeithiol ar lefel genedlaethol ·
Asesiadau risg / gwerth am arian er mwyn profi /
arfarnu I gloi, nodwyd
bod y gwaith yn datblygu a’i fod yn fuddiol i gydweithio. Amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: (i)
Gan gynrychiolydd Llywodraeth Cymru bod
canmoliaeth sylweddol i waith y Grwp Ansawdd gyda unigolion yn ymateb yn
gadarnhaol iawn yn y ddeialog (ii)
Croesawyd y cydweithio a phwysigrwydd i’w
ddatblygu. (iii)
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a defnydd o’r
iaith Gymraeg gan arolygwyr ESTYN, cadarnhawyd y byddir yn defnyddio Cymry
Cymraeg o fewn y Timau Arolygu. Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch am y cyflwyniad. |
|
RHAGLEN DATBLYGU YMGYNGHORWYR HER (adroddiad ar lafar) Cofnod: Gosododd y
Rheolwr Gyfarwyddwr GwE gefndir y cyflwyniad ddilynol drwy nodi bod
disgwyliadau uchel o dimau GwE ac yn hyn o beth datblygwyd rhaglen ddatblygu ar
gyfer yr Ymgynghorwyr Her. Esboniodd
Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cefnogaeth a Broceru) GwE bod ymarferwyr / penaethiaid
yn rhoi pwyslais ar ddatblygu staff i sicrhau ansawdd a safonau a bod gan GwE
gyfrifoldeb i ddatblygu staff ei hun. Derbyniwyd
gyflwyniad gan Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Safonau) GwE) ac fe nododd bod rol
Ymgynghorwyr Her yn newid er mwyn datblygu a ffurfioli rhaglen a fyddai’n
canolbwyntio ar y safonau cenedlaethol.
Fe ymhelaethodd ar y datblygiadau hyd yma: ·
Datblygu hyfforddi a mentora ·
Rhannu arfer effeithiol a’r gwersi a ddysgwyd ·
Gweithdai yn canolbwyntio ar sgiliau allweddol
e.e. sut i weithio’n effeithol gyda ysgolion sy’n tangyflawni ·
Hyfforddiant diogelu statudol ar gyfer pob
Ymgynghorydd Her ·
Cyflwyniadau arfer effeithiol gan gydweithwyr o
gonsortia eraill e.e. technegau effeithiol ·
Darparu cyfleoedd i rannu arfer effeithiol rhwng
hybiau ar gyfer Ymgynghorwyr Her sy’n gweithio gyda ysgolion uwchradd categori
coch a melyngoch ·
Hyfforddi’r hyfforddwyr ar gyfer dwy
Ymgynghorydd Her sy’n gweithio gyda’r sector cynradd ·
Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau
Ymgynghorwyr Her i’r lefel sy’n ofynnol er mwyn bodloni’r safonau cenedlaethol ·
Gwella ansawdd ·
Fframwaith – sicrhau bod Ymgynghorwyr Her yn
gweithio gyda ysgolion / uwch arweinwyr / llywodreathwyr ·
Sicrhau hunan arfarniad a chynllun gwella cadarn ·
Trefnu cefnogaeth ac ymyrraeth effeithiol ·
Datblygu arweinwyr ysgolion ·
Canolbwyntio ar sanawdd a deilliannau addysgu a
dysgu ·
Cyfarfodydd montrio a gwerthuso gwelliannau
ffurfiol pob tymor Nodwyd bod y
rhaglen yn ddatblygol ac yn destun peilot ar hyn o bryd gyda’r sector uwchradd a hyderir ehangu’r rhaglen
i’r sector cynradd. Ceisir annog
unigolion o fewn tim GwE i ddatblygu staff ei hunain. Adroddwyd
ymhellach bod hysbysebion wedi ymddangos yn y wasg yn ddiweddar am Ymgynghorwyr
Her newydd ac yn dilyn penodiadau fe fyddir yn datblygu rhaglen anwytho iddynt. Rhoddwyd cyfle
i Aelodau ofyn cwestiynau ac fe amlygwyd y prif bwyntiau canlynol: (i)
Nad oedd son am sut fyddai Ymgynghorwyr Her yn
cadw mewn cysylltiad a’r awdurdodau lleol, sydd yn y pen draw, yn gyfrifol am
safonau’r addysgu Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Gyfarwyddwr GwE bod cyfarfod i’w gynnal ar 15 Mawrth 2016 ac y
byddai trafodaethau estyngedig bryd hynny ynglyn a’r mater uchod. (ii)
Ar hyn o bryd bod anghysondebau o safbwynt
ansawdd ac nid yn angenrheidiol yn ymwneud a hyfforddi ond efallai fwy ynglyn a
threfniadaeth. Mewn ymateb,
eglurwyd bod gan GwE ddyletswyddau penodol sef i ddarparu rhaglen datblygu
ynghyd a rheoli perfformiad yn ogystal a rheoli perfformiad unigolion. Nodwyd y byddai prosesau yn gorfod cydblethu
a chydnabuwyd bod anghysondebau ond bod hyn yn fater i gydweithio arno. (iii)
Mewn ymateb i ymholiad ynglyn a hyfforddi a
chydweithio hefo consortia eraill, esboniodd y Cyfarwyddwr Cynorthwyol Safonau
GwE mai’r bwriad ydoedd darparu pecyn cenedlaethol i rannu arbenigedd. (iv)
Prawf y rhaglenni datblygol fydd sut y gellir
mesur eu heffaith a sut y byddir yn effeithio ar ysgolion unigol, grwpiau
ysgolion, a chanlyniadau arholiadau’r haf. Mewn ymateb, cydnabuwyd bod y datblygiadau yn rhai tymor hir ac y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |